Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dysgedig

dysgedig

Cyn hir dechreuodd ysgrifennu'r llyfrau hynny a ddaeth yn rhan mor ddiddorol a phwysig o ryddiaith lenyddol Gymraeg, llyfrau gŵr dysgedig o lenor yn ysgrifennu ar gyfer y genedl fach y cododd ef ohoni.

Dau Athenwr dysgedig yn wir.

Cydnabyddir y Dr John Davies yn ysgolhaig Cymraeg mwyaf ei oes ac ar wahân i'w waith yn diwygio Beibl William Morgan ysgrifennodd lyfrau dysgedig a chyfieithiadau, a chasglodd lawer o lawysgrifau pwysig.

Nid athro wrth-ei-swydd ger desg gaeth a darllenfa gyfyng ydoedd, ond cennad dysgedig a oedd yn barod bob amser i ddarlithio i gynulleidfaoedd bach a mawr ym mhob man.

Yr oedd yn bosibl, wrth gwrs, fod y dyn dysgedig hefyd wedi cael profiad mewnol, ond yr oedd hyn yn annhebyg, gan fod yr offeiriadaeth yn bennaf yn broffesiwn - sef ffordd o ennill bywiolaeth - a ddenai bobl am y rhesymau anghywir, felly.

Ni ellid disgwyl i berson dysgedig Llangadwaladr a Rhydycroesau edmygu Penri.

Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.

Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Cyfryngwr'." Serch hynny, y mae achos i amau fod y statws cymdeithasol a roddwyd i'r offeiriad, fel gŵr dysgedig, ac felly fel bonheddwr, yn corddi enaid Hugh Hughes gymaint ag oedd cwestiynau diwinyddol o'r math.

Mae'n hwylus i bawb ohonom sy'n ymddiddori yn hanes Cymru ac yn gymwynas arbennig â'r sawl nad ydynt o fewn cyrraedd y cylchgronau dysgedig lle cyhoeddwyd hwy gyntaf.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.