Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dysgwr

dysgwr

Canolid y broses ar y dysgwr yn hytrach nag ar yr iaith.

Ymgorfforai'r gwaith ffordd newydd o edrych ar iaith ac ar y dysgwr.

Sefydlu geiriau mewn patrymau y mae'r dysgwr.

Y dasg gyntaf, felly, oedd mynd ati i ddisgrifio anghenion y dysgwr ei hun, cyn dethol yr elfennau ieithyddol y byddai eu hangen i'w diwallu.

Y dewis cyntaf sy'n wynebu pob dysgwr yw pa fath o gwrs mae am ei ddilyn ac o hynny ymlaen mae'n haws cynghori.

O gychwyn a'r safbwynt hwn, cam hawdd oedd datblygu system o nodau tymor-byr, y naill yn adeiladu ar sail yr un blaenorol, a phob un yn gyraeddadwy ar ôl cyfnod cymharol fyr o astudiaeth, a allai amrywio o ran hyd, adnoddau, gallu'r dysgwr, etc.

Cynnal sesiynau am CYD a rôl y dysgwr yn y gymdeithas ar gyrsiau hyfforddi tiwtoriaid yn yr ardal.

Robat Powel oedd y dysgwr cyntaf i ennill y Gadair.

Drilio neu o leiaf ymarfer â phatrymau, dyna y mae'r dysgwr yn ei wneud drwy'r amser ta faint o siwgr a roir ar y bilsen.

Gwahaniaethedd - drwy addasu'r cyrsiau a'r modd y'u dysgir yn ôl gallu, angen a dyhead y dysgwr.

Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o'r Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth ein hiaith.

Y TRINIWR GWALLT TEITHIOL gan Mike Larkin (Dysgwr)