Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywedir

dywedir

Dywedir bod un ardal yng ngogledd Ethiopia wedi cael rhai o'r cawodydd trymaf erioed yn dilyn ymweliad gan newyddiadurwyr o Norwy.

Yn wir, dywedir fod Prydeinwyr yn cael tua un rhan o dair o'u fitamin C o datws.

Dywedir iddi fagu hunan-ymddiriedaeth yn y Cymry.

Dywedir am Thomas Jones Dinbych ei fod 'efo'i wybodaeth fawr yn medru byw gydag anghysondebau.

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Dywedir bod Edward Vaughan yn ormod o ddyn i basio barn ar gaeau ei gymdogion llai llewyrchus.

Dywedir fod Tegla ei hun yn wahanol i bob aelod arall o'i deulu yntau.

Dywedir bod boneddiges yn byw yn yr ardal ar y pryd, a oedd yn dra gelyniaethus tuag at bobl y capel, neu 'y pengryniaid' fel y'i gelwid hwynt, ac iddi godi ffermdy Groes Gwta rhwng y Capel a'r ffordd fawr er mwyn ei guddio o'r golwg wrth fynd a dyfod ar ei theithiau.

Mewn man arall yn y Deg Pwynt Polisi, dywedir fod cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd rydd oddi wrth reolaeth llywodraeth gwlad (h.y.

Er bod yna wrthwynebiad i'r ardd ymhlith y trigolion lleol sydd wedi gweld cynydd yn y lefelau o draffig, dywedir bod y cynllun wedi dod â £10m i'r economi.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Oxfam a'r Cenhedloedd Unedig, dywedir mai diffyg cynllunio, nid diffyg bwyd, sy'n achosi newyn.

Rhyw grap ar ddaliadau'r Eglwys a ddiddymwyd yn ddiweddar, efallai, a'r afael ansicraf ar y Galfiniaeth y dywedir fod y Piwritaniaid sy'n llywodraethu gan mwyaf yn ei choledd.

Dywedir fod y gwr hwn, yn ei ddydd, yr un mor adnabyddus â Thwm o'r Nant, ein hanterliwtiwr mwyaf ni fel Cymry.

Dywedir yn aml mai papur Caledfryn oedd Y Seren Ogleddol ond, er mor sylweddol ei gyfraniad iddo, nid yw hyn yn gywir.

Dywedir iddo gael doethuriaeth mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen a chael ei benodi'n gaplan i'r Archesgob Thomas Cranmer.

Ychydig iawn a wyddom am y dyn ei hun ond dywedir mai ef a gyfansoddodd y rhan fwyaf o'r chwedlau gan eu hadrodd wrth yr hen Roegiaid i'w diddanu a'u hannog i feddwl ar yr un pryd.

Sonnid felly am waith y tri arall yn peidio a thalu, fel y dywedir bod dau a dau yn bedwar, heb ddisgwyl iddynt fod yn ddim arall.

I gyflawni'r gwaith mor fanwl ag y gwnaeth William Hobley gyda'i chwe cyfrol ar hanes Methodistiaeth Arfon, dywedir y byddai angen deuddeg cyfrol ar gyfer llþn ac Eifionydd.

Yn Slofacia, dywedir bellach mai cynnyrch o rywle arall yw'r gorau: Boeing, hamburgers, ffilmiau o Hollywood a rheolaeth ddiwylliannol o Baris.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnal cyfarfod brys o'r Cyngor Cyffredinol nos yfory i drafod cynnig y dywedir fod Henry wedii dderbyn.

Dywedir ei fod yn beth cyffredin iddynt gael cyfathrach rywiol ar yr amod y byddant yn priodi os digwydd beichiogrwydd.

Pan ddaeth Bowser i wybod am hyn gwnaeth bopeth a fedrai i'w atal a hyd yn oed garcharu'r ferch yn ei hystafell wely am gyfnod a dywedir i Jasper, y ci, fod yn llatai ar adegau, i gario negesau rhyngddynt.

Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.

Dywedir bod gyrrwr yr Irish Mail yn troi'r ager ymaith dair milltir cyn cyrraedd Caergybi, a gallem feddwl am rywun o fewn y tair milltir hynny, wrth ei weld yn mynd heibio'n urddasol, yn ddi-ager a di-stwr, yn ymfalchio ynddo o'i gymharu â'r trenau bach a byffia heibio, heb wybod mai sefyll o anghenraid fydd ei hanes cyn bo hir, mai yn~ n~m y ~allu a drowyd ymaith yr â hyd yn oed

Dywedir yn Llþn fod saith gþydd yn pori cymaint â buwch.

Celt, medd rhai, oedd Pelagiws yn y bôn a dywedir mai Morgan oedd ei enw gwreiddiol.

Ceir enghraifft o hynny ym Muchedd Padarn lle y dywedir fod Arthur yn eiddigeddus o wisg arbennig a oedd gan y sant ac yn ceisio ei dwyn oddi arno trwy drais.

Dywedir bod gan rai pobl, serch hynny, olwg annibynnol, sef eu bod yn gallu defnyddio'r ddau lugad ar wahan.

Fel ail reswm cyffredinol dywedir bod y cyfnod llewyrchus yma'n deillio o'r datblygiadau yn ein gwybodaeth am weithgarwch yr economi: fod syniadau Keynes, a'r datblygiadau mewn polisi%au a adeiladwyd ar y seiliau damcaniaethol hynny wedi galluogi'r Llywodraeth i gadw'r economi ar lwybr cul, heb ormod o chwyddiant na thyfiant.

Dywedir i Gadog fod yn berchen ar ddarn o dir ar lan yr afon Liffey, yr afon y gorwedd Brên drosti er mwyn ffurfio pont i'w wŷr.

Dywedir y gall cariadon cael dymuniad eu serch trwy roi pin mewn corcyn a'i daflu i'r ffynnon a gofyn am gymorth Dwynwen.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

Ar amrantiad dywedir a yw ar y silffoedd neu allan o brint neu ar gael o'i archebu gan nodi faint o ddyddiau a gymer iddo gyrraedd.

A sawl gwaith yn y ffilm dywedir wrthym - rhag ofn na wnaethon ni ddeall y tro cyntaf - mai'r hyn a wnaeth y Siapaneaid wrth fomio Pearl Harbour oedd deffro cawr cwsg y byddai ei ddialedd yn awr yn erchyll.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai tri yn unig a ddysgodd ddarllen, sef Edward Jones, Llechwedd Llyfn; Owen Roberts, Tŷ'n Pant; a Robert Roberts, Bryn Du.

Gresynodd Lewis at agwedd unllygeidiog a chyfyngus beirniaid mewn perthynas a'r hen feirdd: 'Dywedir mai seiri campus oeddynt ar syniadau traddodiadol.

Dywedir nad oedd hi ddim yn beth anghyffredin yn ystod y briodas i Harris ddiflannu o bryd i'w gilydd ar feddwad.

Dywedir bod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn gwneud gwaith da yn y gwledydd cynhyrfus hyn.

Os bydd cnwd da o gnau un flwyddyn dywedir y gellir disgwyl llawer o fabanod y misoedd canlynol.

Dywedir fod William Jones yn siomedig nad oedd dim llyfrau ymhlith yr ysbail ac mai'r cwbl a gafodd oedd siswrn.

Ceir darnau yn yr Ysgrythur lle y dywedir nad yw Duw yn dymuno aberthau ac offrymau; yn wir ei fod wedi hen syrffedu arnynt.

Wrth 'go iawn' fe olygid nofelydd a allai hoelio sylw cynulleidfa, trwy adrodd stori afaelgar, llunio deialog fyrlymus a chreu cymeriadau amrywiol 'o gig-a-gwaed', fel y dywedir - nofelydd a oedd yn gyforiog o'r rhinweddau henffasiwn, os mynnir.

Yn bendifaddau, os oedd, yn ol pob hanes, yn bell o fod yn alcoholic, roedd yn sicr yn workaholic, ys dywedir.

Mae o'n cydio yn Armin a Chalfin ac yn cerdded ar flaen ellyn rhyngddyn-nhw.' Dywedir rhywbeth tebyg am William Roberts: ''Does gan William Roberts ddim amcan am ddiwinyddiaeth gyfundrefnol a 'dydy o'n malio dim botwm corn am resymeg na chysondeb y Ffydd.

Er na ellir rhoi llawer o goel ar hynny, mae'n werth crybwyll bod yr hanesydd Rhys Amheurug o'r Cotrel yn son am feirdd Rhys ap Tewdwr yn ymweld a llys Iestun ap Gwrgant ym Morgannwg - dywed mai hyn fu dechrau'r ymrafael rhwng y ddau dywysog; mewn un copi'r hanes, dywedir mai beirdd Morgannwg a aethai lys Rhys, ac fe'u disgrfir hwy'n ei foli mewn cerdd.

Er eich bod ym mêr eich esgyrn yn tybied y deuai'r byd pydredig hwn i ben ryw dro, prin fod hynny'n ddigon i chi wneud synnwyr o'r 'pummed brenin' ar y ddaear y dywedir yma ei fod yn 'Rheolwr or tu fewn i Dduw ag i ddynion': sut all neb fod yn rheolwr o'r tu fewn i Dduw?

Sonia ef ei hun am fod wrth draed y Dr William Morgan a dywedir iddo fod yn Ysgol Rhuthun am ryw hyd pan oedd yr Esgob Parry yno'n athro.

Ond nid yn llym y dywedir hynny: mae'r awdur fel petai'n cydnabod anghysonderau'n bywyd ni y tro hwn ac yn cael gras i'w croesawu a'u troi'n ddefnydd celfyddyd.

Nid heb achos y dywedir fod Thomas Jones Dinbych yn 'anwesu Dafydd ap Gwilym a Lancelot Andrews!' Y mae'r ffraethineb hefyd yn lleddfu rhywfaint ar rym y serch: nid y rhyferthwy o serch meddwol y canodd y beirdd rhamantaidd iddo sydd yma o gwbl.

Y lle cyntaf yn Eifionydd y dywedir iddo brofi ffrwydriad diwygiadol ar batrwm cyfarfodydd y De oedd Golan.

Nid oes disgrifiad manwl o ddefodau'r orsedd honno ar gael, ond dywedir am yr ail un a gynhaliwyd yr un flwyddyn fod cylch wedi'i ffurfio a bod maen wedi'i osod yn y canol a chleddyf wedi'i ddodi ar y maen hwnnw.

Dywedir bod safon sillafu heddiw mewn ysgol a choleg yn isel.

O ran diwinyddiaeth yr oedd yn Galfinydd manwl - dywedir mai ef a luniodd Erthyglau Lambeth i'r Archesgob John Whtigift.

Dywedir am Simeon ei fod 'yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel'.

Dywedir yn yr awdl iddi gael ei chanu yng nghartref Llywelyn ap Cynwrig, a chynnwys gyfeiriadau at 'wlad Glar' a 'brwydrweilch' Meisgyn a Senghennydd.

Dywedir fod pob awdur o bwys o Bantycelyn hyd Proust - ar wahân i un eithriad, sef Paul Claudel - wedi derbyn yr egwyddor hon.

Eto, go brin y byddai neb am ei anfon ef ar gwrs cyfathrebu y dywedir fod meddygon o'r India a gwledydd eraill gymaint eu hangen.

Dywedir iddo gael ei addysgu'n breifat ac nid oes son iddo fod mewn prifysgol, ond y mae ehangder ei ddiddordebau'n ei osod yn enghraifft nodweddiadol o ddiwylliant gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid yr oedd yn hanesyddol, yn archaeolegydd ac yn ieithegydd a ymddiddorai'n fyw iawn mewn dacareg ac amaethyddiaeth ac a wyddai gryn dipyn am wyddoniaeth ddiweddaraf ei ddydd.

Os felly, yr oedd yn wahanol iawn yn hynny o beth i Mari Lewis, y cymeriad y dywedir ei fod wedi ei batrymu arni, fel yr oedd yn wahanol iawn i honno yn ei dewis o briod, oblegid priododd hi ŵr a oedd yn 'gymydog da, yn ddyn gonest ac yn Gristion cywir'.

Dywedir bod yr ychen yn cael eu gorweithio, ac i un ohonynt syrthio'n farw o dan lwyth.