Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywedwyd

dywedwyd

Er mawr loes i Harri Gwynn ceryddwyd ef gan nifer o wr blaenllaw y genedl am feddwl derbyn y fath ychwanegiad i'w gyflog a dywedwyd wrtho mai ei ddyletswydd oedd ad-dalu cyfran sylweddol ohono.

Cruglwyth o dan cwlwm eirias, ac ogof goch yn ei graidd lle dywedwyd wrthi droeon yr ymgartrefai teulu'r Ddraig Goch.

Dywedwyd wrthym bod dur tramor yn tandorri'r farchnad.

Yr un wythnos y dywedwyd hynny datgelwyd hefyd fod merched gyda geirfa dda yn cael eu hystyried yn fwy secsi gan ddynion na merched llai rhugl.

Fel y dywedwyd eisoes, bwyd a chyfleusterau i godi teulu ydi'r prif resymau.

Y dyddiad cyntaf posibl i gael pwyllgor oedd y dydd olaf o Awst, sef dydd Gwener, a gwelaf yn awr wrth edrych drwy'r ffeil am y cyfnod, yr hysbysiad o gyfarfod cyntaf oll y Pwyllgor Llyfrau Cymraeg: Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Addysg oedd hwn, fel y dywedwyd, ond sylwch mai'r Llyfrgellydd oedd yn ei alw, a'r Llyfrgell, nid y Swyddfa Addysg, oedd y man cyfarfod.

Ac fel y dywedwyd eisoes, ceir awdl i fab Hopcyn hefyd yn y Llyfr Coch, o waith y Proll.

Anodd dweud o edrych arno beth sydd gan y dyn i'w gynnig ond dywedwyd ar y radio mai ymffrost fawr Paul Daniels yw iddo gysgu gyda 300 o ferched.

Edrychai'n ddigon di-niwed, ond dywedwyd wrthym bod rhannau helaeth ohono wedi ei blannu â ffrwydron.

Trafodwyd Fforwm Gwynedd gyda Mr Hughes a Mr Matthews; dywedwyd wrthynt mai digwyddiad blynyddol oedd hwn.

Dywedwyd am Iorwerth Fynglwyd ei fod yn edrych ar Fargam 'fel un o ddinasoedd noddfa'r bardd Cymraeg,' yn enwedig pan oedd yr Abad Dafydd yn bennaeth yno.

Fel y dywedwyd, bu lladrata yn gyfrifol am alltudio wyth troseddwr allan o bob deg.

Am chwarter i chwech yn y bore cawsom orchymyn i godi, a dywedwyd wrthym y caem awr i grwydro'r dref.

Dywedwyd yn union hynny yn y Ddeddf Uno, yn y Llyfrau Gleision, a throeon lawer.

Dywedwyd ar y pryd na fedrai'r dinasyddion Cymraeg siarad Saesneg, "...".

Mae hanes tro%edigaeth yr hen ŵr yn hollol draddodiadol, ac fel y dywedwyd eisoes, mae'n cynnwys rhai o'r hen ystrydebau na phetrusai Hiraethog rhag eu defnyddio.

Yn chwithig braidd, y gwr a adfywiodd y cof am Penri oedd yr Eglwyswr piwus, Anthony a\ Wood, bywgraffydd cynfyfyrwyr Prifysgol Rhydychen a dyn y dywedwyd amdano 'na ddywedodd air da am neb erioed'.

Yn y teyrngedau a dalwyd iddo ar ôl ei farw dywedwyd llawer, fel yn rhan agoriadol yr ysgrif hon, am ei anwyldeb a'i agosatrwydd.

Mynegodd aelodau Cangen Y Groeslon anfodlonrwydd gydag agwedd Banc y TSB tuag at yr iaith Gymraeg - pan ofynnodd y Trysorydd am ffurflen Gymraeg (neu ddwyieithog), dywedwyd wrthi nad oedd ffurflen ar gael ac nad oeddynt yn barod i baratoi un.

Fel y dywedwyd eisoes, yr oedd cysylltiadau ag Iwerddon yn mynd yn ôl o leiaf cyn belled ag Oes y Pres.

Ar ôl rhyw ugain milltir o ddreifio mewn distawrwydd, dywedwyd wrth y dreifar am aros er mwyn inni gael ateb galwadau natur.

Dywedwyd wrth un aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mai ef oedd y person cyntaf i ofyn am ffurflen o'r fath - sylw cwbl hurt o ystyried ein bod yn Aberystwyth.

Dywedwyd wrthym y byddem yn symud o fewn wythnos, a thybiem yn siwr mai cael ein symud i wersyll newydd yr oeddem i gael ein cosbi am yr hyn a ddigwyddodd yma.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Dywedwyd y stori yma wrthym yn hollol ddifrifol a heb wên a'r unig chwerthin a fu rhyngom i gyd oedd wrth ddychmygu wynebau lladron y car wrth iddynt agor y babell a oedd wedi'i rholio ar do'r car.

Ond o ddifri, o fod wedi cael rhyw dywedwyd y byddai rhedwr yn cyrraedd diwedd y farathon gryn chwarter awr yn gynt na phe byddai wedi mynd yn syth i gysgu.

Dywedwyd y byddai'n amhosibl cadw'r gwin i fynd drwy'r nos wrth gario'r dŵr arno, - roedd y blas yn codi o'r gwaelod.

"Dywedwyd wrthyf erioed y dylwn wthio fy hunan mor bell ag y gallai fy nghorff fynd.