Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywedyd

dywedyd

Ar un olwg dyma un o'r llyfrau anhawsaf i ddyn geisio dywedyd gair amdano.

Llewelyn Williams o Goleg y Trwyn Pres ar y Ficer Prichard), a chymaint o wir hanes yr amser fu sydd i'w gael mewn cymdeithas fel hon wrth wrandaw ffrwyth ymchwiliadau rhai eraill; a phan feddylier fod tro pawb ohonom i chwilio drosto'i hun, ni raid petruso dywedyd fod dibenion gorau'r gymdeithas yn cael eu hateb yn llwyr".

Gan sefyll o hirbell gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, `Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Caethwasiaeth, y ddinas gadarn, oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.' [ac ymlaen, ac ymlaen, ac ymlaen]

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

Ond cynnwys y mudiad newydd elfennau go ddieithr i feddwl Cymru heddiw, - cred mewn pendefigaeth gymdeithasol, ac ewyllys da (a dywedyd y lleiaf) tuag at Eglwys Rufain.

Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.

Un yn dywedyd na welodd stori well na 'Gwr Pen y Bryn' erioed, ond na welodd ef ddim yn 'Tir y Dyneddon'.

Nid ydwyf yn dywedyd fod llafurio ac ymboeni gyda hyn o angenrheidrwydd yn niwed i wir grefydd a duwioldeb yn yr enaid....

Am ei fod yn dywedyd ynddo, 'Nad yw Crist i'w addoli fel Person Dwyfol'.

Yr wyf wedi dywedyd digon i fynegi'n amlwg fy Nghyffes Ffydd fy hunan.

Nid gormod dywedyd bod y Saint, yn ôl syniadaeth a chredo'r bobl, megis angylion, a phrin y gellid meddwl am na helynt na thrafferth na llafur, na ellid mewn rhyw fodd alw cymorth y Saint ato a hynny'n bur effeithiol.

Synnai wrth dynnu ar ei ganllaw gwrywaidd ei getyn, ei fod wedi siarad a dywedyd cymaint wrth Mrs Paton Jones, a'i bod hithau wedi llwyddo i dynnu cymaint o wybodaeth ohono'n ddiymdrech.