Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywod

dywod

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Roedd y cerflun enfawr a wnaeth o dywod yn enghraifft o gynnyrch y cyfnod hwn.

Roedd gwaith Thomas Jones a Gomer wedi bod o'r safon a ddisgwyliech ond hyd yn oed heddiw mae pobl yn sylweddoli na fedrir adeiladu tŷ ar dywod.

Er nad yw'r machlud mor ysblennydd a hynny mewn ardaloedd o ddiffeithwch mae'n aml yn gorchuddio'r tir dan glogyn coch wrth i belydrau'r haul ddal y gronynnau o dywod sy'n chwythu yn yr awel.Trwy gydol yr oesoedd bu'r haul a'i ddylanwad enfawr ar fywyd yn destun diddordeb mawr i ddyn.

Mae'n gwarchod llygad y camel rhag gronynnau o dywod sy'n hedfan yn awyr y diffeithwch.

Mae digon o gynefinoedd gwahanol yma, yn dywod, creigiau, tir gwlyb a phonciau sych i sicrhau amrywiaeth eang.

Cynhyrchir dur pan wresogir mwyn haearn mewn ffwrneisi enfawr; creir gwydr o dywod a dwymir hyd nes ei fod yn toddi.

Fe ymbalfelais am y drws a'i agor o, ond erbyn hynny yr oedd fy sanau newydd i'n sbotiau o dywod coch - rhad ar y dynion yna!

Eisteddais ar dywod y draethell Gan edrych ar wyneb y lli; Canfu+m fod y tonnau yn gwynnu Wrth ddyfod yn nes ataf i.

Brechdan yn llawn o Dywod: mae'r pumed rhifyn o'r ffansin Brechdan Tywod newydd ei gyhoeddi ar tro yma fe gawn gyfweliadau gyda Gruff Rhys, Zabrinsky, Llwybr Llaethog a llawer mwy.

Mae'r peiriant yn pwmpio'r hylif sy'n wedi ei wneud o dywod a phâst papur wal.

Aeth Rhys â hi draw at y pwll tywod ac aros yno gyda hi tra codai hi dwmpathau bach o dywod.