Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywodfaen

dywodfaen

Mae'r Hen Dywodfaen Goch yn y rhan yma o'r wlad yn cynnwys amryfaen cwarts, sy'n graig galed iawn a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Defonaidd tua phedwar can miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Uwchben Bae Rhosili gellwch weld y gefnen o'r Hen Dywodfaen Goch ar dwyndir Rhosili.

Tra eich bod wrthi, sylwch hefyd fod darnau mawr o dywodfaen frown i'w gweld ar draws y traeth, a bod olion crychdonni'r Môr Triasig yn ogystal ac olion craciau a wnaethpwyd yn y mwd wrth iddo sychu dan yr haul Triasig tanbaid.

Ym Mro Gþyr fodd bynnag mae'r Hen Dywodfaen Goch yn brigo yn y canol ar Gefn Bryn tra bod y creigiau iau, sef y Garreg Galch a'r Grit Melynfaen, yn gorwedd o cwmpas ar bob tu.

Mae'r creigiau eu hunain yn debyg i'r creigiau a geir i'r gogledd o Ddyffryn Tywi i Gwm Tawe, heblaw eu bod yno yn gorwedd yn weddol daclus o ran oed, un ar ben y llall, o'r Hen Dywodfaen Goch yn y gorllewin i'r Cystradau Glo iau yn y dwyrain.