Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywyllu

dywyllu

Cyn gadael Addis i ymweld ag Arsi, roedden ni wedi cael gorchymyn i ddychwelyd i'r brifddinas cyn iddi dywyllu.

Yn y cyfamser bodlonai ar gerdded a jogio, gan dynnu allan wedi iddi dywyllu.

Bob nos ers tri mis bron ar ol iddi dywyllu, ac wedi iddo ef wneud ei bererindod fach olaf i weld ymhle'r oedd y creaduriaid ac i sicrhau fod pob drws a phob giat a oedd i fod i'w gau wedi'i gau, fe eisteddai yn ei gadair.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

A doedd ganddo ddim busnes yn mynychu'r Tŷ Capel ac yntau heb dywyllu rhiniog drws y capel ei hun er pan oedd yn llencyn.

Mi es i â lamp gen i, achos roedd hi'n dywyll yn y dowlad, a hefyd mi fyse wedi hen dywyllu cyn bo fi 'nôl.

Mae gennyf gof hefyd am fy Nhad yn mynd a ni i lawr at yr afon, wedi iddi dywyllu, i ddangos mordan inni, y golau ffosffor ar wyneb y dwr.

Mi fydd raid i mi gael trefn ar y dodrefn cyn iddi dywyllu." Ofnai JR iddi droi yn seiat dan ei ddwylo ac ofnai hefyd fod y car yn suddo yn is.