Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ebol

ebol

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

'Mae'r ebol, a'r asyn a'r adar i gyd yn can eu cân i Iesu'n eu grud.'

Chwarddai yntau'n oddefgar am ben ei phrotestio brwd a cheisio'i thawelu fel y gostegai ei thad bystylad ebol mynydd.

Ifan: O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion, pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march erbyn y Gwanwyn .