Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ebrill

ebrill

Yn y blynyddoedd hynny byddai llawer yn mynd i'r traeth o ddiwedd Ebrill hyd ddechrau Mehefin i ddal llymriaid, a chawn innau godi gyda'r wawr i fynd efo 'Nhad - y fo yn palu efo fforch datws a minnau'n dal y llymriaid arian, gwylltion a'u rhoi yn y bwced.

Mae Theatr Gorllewin Morgannwg yn bwriadu teithio dwy sioe rhwng Ionawr ac Ebrill.

Penderfynwyd symud y Cyfarfod Cyffredinol o'i slot arferol ym mis Hydref i fis Mawrth neu Ebrill.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

Os mai anfoddhaol ydoedd y cychwyn ym Medi fe newidiodd pethau erbyn mis Ebrill pan aeth tîm y Sir i Aberystwyth i siarad yn erbyn gweddill Siroedd Cymru a dychwelyd yn bencampwyr gyda'r cwpan.

Haerodd hithau nad oedd ond wedi dweud y gwir bob gair a bod Siôn Elias wedi gofyn iddi ddod yn ôl ato ym mis Ebrill.

Y Llywodraeth yn cyhoeddi'r bwriad i gyflwyno Treth y Pen o Ebrill 1990.

Yn Ebrill dim ond 1.8% o lowyr Cymru a oedd yn ddi-waith; cododd y ffigwr i 28.

Ni fu Ebrill yn sychach er iddi gynhesu'n anfodlon ar adegau.

Ebrill cynnes a Mai glawog - bydd y rhyg yn tyfu fel coed.

Dychmygwch, er enghraifft, eich bod chi'n gallu hedfan ar garped hud i'r Arctig rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Ebrill.

Beth fu'n gyfrifol am y fath newid mewn cyfnod mor fyr o'r Sioe Sir ym Medi i'r prawf cenedlaethol yn Ebrill?

Yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill yn unig, cafodd chwe chant o blant eu claddu yma - deg bob diwrnod.

Yn ystod Mawrth a dechrau Ebrill y maent yn cymharu ac yn y cyfnod hwnnw y maent yn hyfion ac eofn iawn.

Ailenynnwyd cynhesrwydd y cymdeithasu eto eleni wrth i'r actorion a'r criw technegol ddod ynghyd ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill i chwythu anadl einioes i eiriau'r sgript a dod â'r gymdeithas chwarelyddol, fel y'i portreadwyd gan T...

Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg.

Fe ddylai'i fam fod wedi dewis dydd Ffŵl Ebrill neu Ddydd Mercher Lludw yn lle hynny.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 23ain, 1996.

BYDD Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, mewn cydweithrediad a Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru, yn noddi Gŵyl gyntaf Cwpan Cymru Wledig Ebrill nesaf.

Fe fues i draw yn Cwrdistan ym mis Ebrill a mis Tachwedd y llynedd - i'r ardal lle mae'r Cwrdiaid yn dod dros y mynydd.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Bydd y garfan honno'n cael ei chyhoeddi ddiwedd Ebrill.

"Mawrth a ladd, Ebrill a fling..." Mynd â choffin gyda Edward Ifans heddiw i dyddyn bychan ar yr hewl i'r Glyn.

Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.

Cynhelir y Sioe yn Neuadd JP, Bangor, yn ystod mis Ebrill neu fis Mai - y dyddiad i'w gadarnhau gan Helga Morgan.

Wrth ddechrau paratoi'r borderi ym mis Ebrill, bydd llawer o waith i'w gwblhau diwedd Mai a dechrau Mehefin.

Drwy ddiwedd Chwefror, Mawrth, Ebrill a Mai disgynnodd drwy Ddyffryn Elwy.

Gweithgaredd: Cafwyd trafodaeth yngl^yn a chynnal gweithgaredd rhanbarthol a phenderfynwyd trefnu Sioe Ffasiynau ym mis Ebrill.

Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 22ain, 1996.

Hon oedd buddugoliaeth gynta Chelsea oddi cartre ers mis Ebrill y llynedd.

Er enghraifft, rydym wedi amlygu a blaenoriaethu ein perfformiad wrth ymateb i alwadau ffôn i'r fath raddau fel y llwyddwyd, ym mis Ebrill, i ateb dros 70% o alwadau o fewn tri chaniad ac 80% o fewn pum caniad.

Hoffem gael cadarnhad hefyd y bydd yr arolwg ar yr iaith Gymraeg yr oedd y Pwyllgor Addysg dros 16 wedi cytuno arno rai wythnosau yn ôl yn mynd rhagddo yn mis Ebrill.

Taranau Ebrill yn newyddion da oherwydd dyna ddiwedd ar y barrug.

Cynhelir dwy o'r Raliau hyn ar Fawrth 27ain a dwy arall ar Ebrill 3ydd.

Daliodd Delme y cwpan yn uchel iawn ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw o Ebrill a'r cwpan ar ei ffordd 'nôl i'r Strade ym mlwyddyn y dathlu.

Gwynt yn Rhagfyr, glaw ym Mawrth ac Ebrill.

Caerfyrddin Cyfarwyddwr yn barod i gyfarfod â ni ym mis Ebrill.

Chwipiai gwynt Ebrill dros Lyn Ogwen gan godi croen gþydd ar fy nghoesau wrth i ni gymeryd y camau cyntaf tua'r cwm - roedd gen i drowsus hir yn y sach cefn rhag ofn!

Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 24ain, 1996.

Ond of er unrhyw freuddwydio felly, ac erbyn mis Ebrill dechreuodd pawb chwilio o ddifrif am gartref newydd.

Yn Ebrill dim ond 1.8% o lowyr Cymru a oedd yn ddi-waith; cododd y ffigwr i 28.5% erbyn Ionawr 1925.

Chwaraeir y gemau ddydd Sul, Ebrill 8, ar feysydd niwtral.

Fe ddaeth yr ugeinfed o Ebrill a mynd heibio cyn i'r gwgw gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd coed Nant y Deri.

Ceir darnau gan Watcyn Wyn, Gwydderig a Gwalch Ebrill mewn amryw o'i bamffledi, ac er mai enw'r Meudwy sydd ar glawr Llon lenyddiaeth y gweithiwr (Abertawe c.

Ebrill glawog yn dda i ffrwythau.

Chwylbro: Adroddodd y Llywydd fod y swyddogion rhanbarth wedi bod yn chwarae Chwylbro ym Machynlleth ym mis Ebrill ac anogodd bawb i drefnu cael y gêm yn eu canghennau.

Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 22ain 1996.

Ebrill 1999. Tai a Chynllunio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ffwl Ebrill.

Ym Mhontypridd ar Ebrill 3ydd fe fydd Helen Prosser a Branwen Niclas yn siarad ac ym Mhorthmadog ar yr un diwrnod y siaradwyr fydd Angharad Tomos a Sian Howys.

Fodd bynnag, rhwng mis Ebrill a dechrau mis Hydref, mae yna ddigon o fwyd naturiol o gwmpas, ac felly does dim angen bwydo adar; yn wir, gallai hynny fod yn beth drwg.

Daeth Hugh Rawlins a Thomas Lee â'r cyhuddiad yn ei erbyn ei fod wedi ymdroi tan fis Ebrill cyn dod, "to the great disorder of the King's majesty's subjects, lack of reformation, and ministration of justice." Ond atebodd Ferrar nad arno ef oedd y bai am hynny oherwydd yr oedd ei ddyletswydd i'r brenin yn golygu fod yn rhaid iddo fod yn bresennol yn y senedd yn Llundain.

O BEN Y DALAR: Dyma un o'r tymhorau mwyaf diweddar yr wyf yn ei gofio, hefo mis Ebrill yn rhan o'r gaeaf i bob pwrpas.

Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 25ain, 1996.

Mae Ebrill fel gwehydd - yn gwau dipyn o haf a dipyn o aeaf.

Yn rhifyn mis Ebrill o'r Seren Ogleddol cyhoeddwyd nodyn yn cyfeirio at anghydfod yn nhref Caernarfon a fyddai'n arwain at ymadawiad disymwth allanwr arall, Josiah Thomas Jones, o'r dref.

Daeth y streic i ben yn Ebrill.