Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

edmygedd

edmygedd

Fel mowldiwr ei gorff ei hun y daeth i amlygrwydd gyntaf ac nid oes amheuaeth fod ei gorff lluniaidd yn destun edmygedd.

Elfyn Richards yn arbennig iawn i fywyd yr ieuenctid, a mawr oedd edmygedd pawb o'i ysbryd hynaws a'i ddynoliaeth dda.

Rhoddir cryn bwyslais yn athroniaeth cenedlaetholdeb - fel y'i mynegir, er enghraifft, yn nramâu Saunders Lewis, yr oedd Kitchener yn fawr ei edmygedd ohonynt - ar y ffaith fod angen cymdeithas ar yr unigolyn fel cyfrwng i gyflawni ei natur.

Adlewyrchir yr edmygedd hwn o genedlaetholwyr Iwerddon yn Awdl Gwenallt.

Yr oedd y wasg ar cyfryngau ar ben eu digon yn adrodd gydag edmygedd am ei arwriaethau.

Tosturi yn tynnu wrth ymyl côt edmygedd a phryder yn baglu'i draed.

Ond un peth amdanynt a fu'n destun edmygedd i mi ers y dyddiau yr oedd gen innau blant mewn ysgol oedd eu parodrwydd digwestiwn i gymryd gofal o blant y tu allan i oriau ysgol.

Fel llenor, yr oedd yn unigryw yn ei chyfnod a buan iawn y sicrhaodd sylw ac edmygedd cenedlaethol gyda chefnogaeth gwyr amlwg fel yr Athro W.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Yr oedd fy edmygedd yn fwy byth tuag at ei gallu a'i gwybodaeth.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.

Ar y cychwyn yr oedd pobl yn ei chael yn anodd deall pam yr oedd un artist yn talu gwrogaeth i un arall fel hyn ond daeth yn amlwg yn fuan iawn mair gwrthwyneb oedd yn digwydd ac mai arwydd o sarhad nid edmygedd oedd hyn.

Peidiwch â gwarafun i chi eich hun loddest o edmygedd tuag at ŵr (os gŵr hefyd) a all, fel bardd, wneud pryddest allan o gut sinc.

Mae treulio wythnos yn theatr Fach wedi bod yn brofiad addysgiadol iawn i BW wrth sylwi ar holl weithgaredd tu ol i lenni'r Theatr ac mae'r hyn y mae wedi ei weld wedi ennyn brwdfrydedd ac edmygedd.

Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o'i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg' ond hefyd o'i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau'r Gymraeg, ei hidiomau a'i geirfa.

Darllenais gyda chymysgedd o ryfeddod ac edmygedd am hen gariad Paddy Ashdown yn dweud yr wythnos diwethaf i'r ddau ohonyn nhw garu mewn naw eiliad a hanner.

Yr oedd edmygedd Peate o Gruffydd yn llwyr ac anedifar.