Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

edrychodd

edrychodd

Edrychodd o'i chwmpas.

Edrychodd unwaith eto ar y dyn du a oedd yn rheoli'r awyren.

Gwnâi ei safn fawr agored iddo ymddangos fel un mewn dirfawr boen, ac edrychodd Dan yn dosturiol arno.

Edrychodd y ddau ar ei gilydd, yna dyma Yallon yn troi ychydig ar ei ben, fel y bydd rhywun wrth gyfarch cydnabod.

Yn yr un ffordd ffyddiog, obeithiol, yr edrychodd Elfed ar le'r Gymraeg a'r Saesneg yng Nghymru.

Am y tro cyntaf edrychodd i lawr.

Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.

Mae'n gwybod gormod,' Edrychodd Mwsi yn gas ar y bachgen.

Yna edrychodd ar weddill ei chorff.

Edrychodd arnynt yn syth.

Edrychodd Alun ar y lein.

Edrychodd yr Almaenwr arno.

Edrychodd rhai ar yr enwau a welwyd ar restr aelodau'r byrddau rheoli a oedd yn mynd i drefnu a chynnal y diwydiant drostynt hwy - y glowyr.

Edrychodd Gareth tua'r gorllewin.

Chymerodd o ddim siwgr, ac edrychodd o'i gwmpas ar yr annibendod.

Edrychodd arno gan geisio dyfalu pam roedd Edward Morgan wedi ei adael yno.

edrychodd y dyn o gwmpas yr ystafell.

Edrychodd yn fuddugoliaethus ar Nel ac ychwanegu gyda dirmyg lond ei lais, 'Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ein dau'.

Edrychodd hithau dros ei hysgwydd arno cyn sleifio allan drwy'r drws.

Yna edrychodd ar ei bymps newydd.

Edrychodd yn flin arno.

Edrychodd y ddwy ohonom ar ein gilydd a chwerthin a chwerthin heb reswm yn y byd.

Edrychodd i fyny ar y basgedi blodau a'r merched tinfain a winciai yn felyn a gwyrdd a choch uwch ei ben.

Edrychodd Gwen ar gynnwys y bocs.

Tra oedd eu mam yn dweud wrth Iona am fynd i eistedd at y ffenestr ac yn gwneud i Rolant agor y ffenestr er mwyn iddi gael mwy o wynt, edrychodd y pump ar ei gilydd.

meddyliodd ac edrychodd ar ei wats newydd.

Edrychodd ar Adam - ond roedd hwnnw'n amlwg yn ei uffern bach personol ei hun erbyn hyn .

Edrychodd ar ei watsh.

Edrychodd i fyny'r stryd ond doedd dim golwg o'r car.

Oddi wrth Mr Richards, ar 'i ben blwydd, deudwch wrtho fo.' Cymerodd y bachgen y llyfr ac edrychodd ar y teitl.

Edrychodd y meddygon yno yn ddigalon ar ei gilydd.

Edrychodd o'i amgylch yn ofalus fel pe bai arno ofn i rywun ei weld.

'E?' Edrychodd Seimon yn syn arno a theimlodd Rhys ei wyneb yn cochi.

Cododd o'i gwely ac edrychodd ar y ddesg wrth ymyl y ffenestr lle gorweddai ei thraethawd a'r llyfrau o'r llyfrgell.

Edrychodd yn awgrymog ar gynffon Martha Arabela - mor awgrymog nes i ninnau bob un ddechrau edrych arni hefyd.

Edrychodd allan i'r cefn lle dylai'r cŵn fod.

Cyn i rywun fedru bwyta'n iawn, mae'n rhaid codi archwaeth.' Edrychodd o gwmpas y swyddfa a syllu arni hithau eto.

Pan gerddodd Marius Brenciu, y tenor o Romania, i ganol llwyfan Neuadd Dewi Sant i ganu yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd neithiwr - nos Sul - edrychodd o'i gwmpas mewn syndod.

Edrychodd y fuwch yn hurt arno a llyfodd ei thrwyn.

Edrychodd Sarah Dickins, cyflwynwraig Working Lunch a Business Breakfast y BBC ar gyflwr amaethyddiaeth yng Nghymru heddiw.

Edrychodd Eira ac `Elen ar ei ffrog hardd a'r cyrls melyn taclus ar ei phen.

'Does dim brys gwyllt.' Pwysleisiodd yn fwriadol, 'Pobl ddiarth, weldi.' Gŵr ifanc tal, tenau, yn gwisgo sbectol oedd o Edrychodd ar yr ymwelydd, ac edrychodd yntau'n ôl arno.

Edrychodd, syllodd, craffodd Dan arno, ond nid wylodd o'i blegid.

Edrychodd arni'n hir i weld pa argraff a gâi ei eiriau.

Edrychodd pobl y dref allan drwy eu ffenestri.

Pan oedd e'n barod i gychwyn, edrychodd arno ei hun yn y drych.

Sythodd Michael ei fysedd ac edrychodd allan drwy'r ffenestr.

Edrychodd ar fy wyneb, a chymerodd beth cysur nad oedd rhagolygon am storm i'w gweld arno.

Edrychodd Gwyn yn guchiog arni, 'Ma' pocedi'r gôt yma'n llawn o rifa ffôn cydnabod.

A'i foch yn curo'n boenus, edrychodd Gareth o'i amgylch.

Edrychodd Siôn Eirian yn ôl yn hiraethus ar gyfnod y mudiad protest yn ei gerdd 'Ymgais i Weithredu', er enghraifft.

Edrychodd yn gyflym yn ei ddrych, cyn llywio'r car i'r lôn araf a dilyn yr arwyddion tua'r gwasanaethau cyfagos.

Gollyngodd y gyrrwr lw arall, un cryfach y tro hwn, ac edrychodd o'i gwmpas i weld a ddeuai gwaredigaeth o rywle.

Cyfaddefodd wedyn fod y syniad y gallai ef gael cais i gyflawni'r gorchwyl ei hun yn un mor anghredadwy iddo fel nad edrychodd eilwaith ar y bwletin.

Edrychodd y gath arnaf a cherydd yn ei llygaid.

Roedd pynciau llosg hefyd ar frig yr agenda yn y gyfres Rural Revolution. Edrychodd Sarah Dickins, cyflwynwraig Working Lunch a Business Breakfast y BBC ar gyflwr amaethyddiaeth yng Nghymru heddiw.

Edrychodd y trigolion ar eu heiddio, ar eu perllannau a'u hanifeiliaid.

edrychodd y tri ar ei gilydd mewn penbleth penbleth rhaid inni fynd i ddweud wrth rywun, meddai gethin.

Tra ar y dwr edrychodd y plant ar y coed yn tyfu i lawr bron at y dwr ochr Sir Fôn i Afon Menai, ac yna draw dros y dwr yr oedd mynyddoedd mawr Arfon yn rhengau cadarn.

Yn y fflatiau edrychodd y ddau a oedd yn awyddus i ddianc tuag at y tŵr a'r rhai a oedd yn gwarchod unwaith eto.

Cododd y clawr ac edrychodd tu mewn ar y pethau gwerthfawr.

Mae hi'n edrach yn ddigon hen." Edrychodd arnaf gyda chwrteisi dwys ac ailadroddodd yr hyn a ddywedodd ynghynt.

'Bacha hi adra'!' Edrychodd Elen ar Meic am eiliad ac yna, trodd a rhedeg nerth ei thraed i gyfeiriad y dreflan.

Edrychodd arnaf dros 'i sbectol a dechrau holi, 'Beth wnaeth ichwi feddwl am fynd i'r weinidogaeth?

Edrychodd Bedwyr ar Geraint am eiliad neu ddau.

I ddathlu hanner can mlwyddiant gwaith Cyngor Ewrop edrychodd y rhaglen arbennig ar waith y Llys Hawliau Dynol Rhyngwladol, gan gynnwys ffilm o garchardai yn Rwsia ac achosion o fynd yn erbyn iawnderau dynol yn Nhwrci.

Edrychodd Delwyn a minnau ar ein gilydd.

Edrychodd Alun ar y ci a gweld fod y blew ar hyd ei gefn yn sefyll i fyny'n syth.

Edrychodd Morfudd arno mewn dirmyg o'i gorun i'w sawdl.

Cododd ei ben, ac edrychodd i fyw fy llygaid cyn dechrau siarad eto.

Edrychodd arna i o'm pen i'm sawdl.

Edrychodd Gwen arno'n cyrcydu'n esmwyth ar y carped hirflew, a golau fflam ffug y ta yn chwarae ar ei wyneb.

Edrychodd ar y cloc bach ar ben y ddesg.

Edrychodd arno'i hun yng ngwydr y beic.

Edrychodd ar ei wats.

Edrychodd yr Arolygydd yn graff arno.

Edrychodd Rhys ar Seimion yn gafael yn y tennyn.

Edrychodd arni'n cysgu, ei bochau'n pantio a'i cheg yn sugno am ei hanadl.

Dyna yw casgliad y bobl yma, ac mae'n cyd- fynd â'r ffeithiau.' Edrychodd y ddau arall arno'n syfrdan.

neu oes rhywun wedi gadael?" Edrychodd Cyrnol Grant yn graff arno am foment.

Edrychodd o'i gwmpas ar y tai a wibiai heibio.

Y tro hwn, edrychodd y ffrind hefyd yn ffroenuchel arno.

Ar ôl clymu'r wifren wrth ei gar yn ddiogel edrychodd y ffrind tuag at y wal un droedfedd ar ddeg o uchder yn bryderus.

Edrychodd Mathew o gwmpas yr ystafell.

Edrychodd ar ei het.

Cyn iddo gyrraedd gartref roedd yr amheuon wedi cilio ac wrth fynd i'w wely'r noson honno edrychodd ar ei gorff yn y drych.

Fe agorodd y drws ac aeth i mewn i'r ty a be welodd ond Rondol yn gorwedd ar ei hyd ar lawr, a heb fod ymhell oddi wrtho roedd Begw yr un modd.Cerddodd fy nhaid i ganol y ty ac edrychodd arnynt yn ddifrifol ac meddai 'Diar mi.

Edrychodd Ibn arno'n syn: 'Sbi%wr ydi o.

'Yr hen fformiwla gyfleus eto, wela i.' Gwenodd ac edrychodd dros ei ysgwydd heibio i'r drws.

Edrychodd yn syn ar ei wisg.

Edrychodd i fyny'r stryd a gweld car heddlu'n troi'r cornel.

"Pawb." Cyn gynted ag y dywedodd hi hyn, edrychodd y plant i gyd ar Iona.

Edrychodd o'i hamgylch.

'Ych diwrnod cynta, sarj?' 'Ie.' "Croeso.' Edrychodd Gareth arni.

edrychodd hi ar ei wats.

"Mi arhosa' inna' yn fan'ma i edrych ar ôl y fechan." Edrychodd Mam yn hyll, hyll arno.

Edrychodd y tri bachgen ar ei gilydd.

Edrychodd i fyny ar y ty hardd.

Fel Elfed a Robert Bryan, edrychodd yntau tua'r Cyfandir.

'C'ofn i chi frifo.' Wedi teimlo'i draed oddi tano unwaith yn rhagor, a sefyll am foment i atgyfeirio, edrychodd i fyw llygaid yr hwsmon a'i gyfarch yn siriol ddigon.