Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

edrychwn

edrychwn

Yn arbennig fe edrychwn ar ffiseg lle dddargludyddion ac ynysyddion, ac ar ddyfeisiau fel y transistor a'r cylchedau cyfannol sydd bellach yn cael eu defnyddio bron ym mhob agwedd o'r maes electroneg.

Pe edrychwn i'w ffynhonnell, y mae hwnnw yng nghapel Caersalem.

Edrychwn ymlaen at yr hanner can nesaf.

Mae'r newydd yn atgoffa i ni yr hen, ac yn hiraethlon yr edrychwn yn ol at HERALD Y RHOS (The Rhos Herald), blaenorydd NENE.

Fel Cymdeithas, mynnwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a'i fod yn hen bryd i'r Gymraeg gael ei normaleiddio fel prif iaith ein gwlad. Edrychwn at y Cynulliad i arwain a gweithredu strategaeth genedlaethol gynhwysfawr ac integredig fydd yn galluogi pawb yng Nghymru i gyfranogi yng nghyfoeth yr iaith gan fagu hyder cyffredinol ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg.

Mae yna sawl un sydd o'r farn fod hogia Bangor wedi gwella'n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf ac felly mi edrychwn ni ymlaen rwan at gael clywed eu sesiwn ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos gan mai dyna oedd y wobr yr oedd grwpiau colegau Cymru yn cystadlu amdani.

Mae'r golau hwn yn amharu ar nifer y ser y gallwn eu gweld (yn yr un modd ag y mae golau'r ystafell yn eu rhwystro rhag weld pethau tywyll y tu allan pan edrychwn allan o ystafell gyda'r nos.) Dywedwn fod golau'r lleuad yn effeithio ar ddisgleirdeb yr awyr, neu ar ba mor dywyll yw'r awyr.

Ar derfyn y tymor hoffen ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y cyfarfodydd, ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf.

Croesawn ymateb ac edrychwn ymlaen at drafodaeth ar y ddogfen hon.

Edrychwn ymlaen am gael cynrychioli Cangen Coleg Bangor arno o fis i fis.

Doedd y gwaith ddim yn un yr edrychwn ymlaen ato.

Edrychwn, er enghraifft, ar eiriau Elen fel y mae hi'n galaru am y plant sydd wedi marw:

Edrychwn ymlaen at yr ymateb.

Edrychwn eto ar y testun i weld a geir yno awgrynmiadau eraill mai mynach, ac efallai mynach o Lancarfan, oedd awdur y Pedair Cainc.

Yn hynny o beth, edrychwn tuag at y Cynulliad i ddatblygu gwleidyddiaeth radical yng Nghymru wedi ei seilio ar egwyddorion Sosialaeth Gymunedol. Gwleidyddiaeth fydd yn ei hanfod yn ymateb i anghenion Cymru ac sy'n gweithredu dros sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau Cymru.

Synhwyrwn ei gywilydd weithiau pan edrychwn ar y rhwysg yn ei esgidiau a'r tyllau yn ei ddillad.

Edrychwn ymlaen at gyfnod newydd lle bydd cydweithio er mwyn cyd-fyw yn hapus trwy'r iaith Cymraeg yn parhau.

Rhown ein dwylo yn y bag a thynnu allan saith llythyren heb eu gweld; edrychwn arnynt a dechrau'r gêm.

Edrychwn ymlaen at ein degfed penblwydd gyda'r sicrwydd ein bod yn cynnig ffordd pendant o adfer yr iaith trwy gynnal gweithgareddau a chyfleoedd sy'n dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd.

Hawdd yw datrys y dirgelwch yma pan edrychwn ar drawsdoriad o'r Fro sy'n dangos i ni fod y creigiau wedi cael eu plygu fel bod Cefn Bryn ar ben anticlin a Phorth Einon mewn synclin.

Byddai Anti yn brwsio ei gwallt yn drwyadl bob nos, cant o weithiau, ac edrychwn innau arni'n barchus.

Edrychwn ymlaen at berthynas agos a chynhyrchiol gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y dechreuwyd arni eisoes pan gyflwynais i Adroddiad yr Awdurdod i Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, y Gwir Anrhydeddus Alun Michael AC, AS.

Daeth newyddion y bydd Gogz yn cwblhau eu halbym cyn hir o dan oruchwyliaeth Richard Jackson sef cynhyrchydd Big Leaves ac mae disgwyl y bydd yr Ep yn cael ei rhyddhau yn y dyfodol agos - edrychwn ymlaen at hynny.