Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

edwino

edwino

Y mae arweinwyr y Blaid Lafur yn baglu ar draws ei gilydd i i ddweud mai'r rheswm fod poblogrwydd y blaid wedi edwino ers yr etholiad diwethaf yw oherwydd nad yw'r 'neges' yn ddigon clir.

Onibai am eu hymdrechion hwy edwino fyddai'r ddrama amatur a byddai'r gymdeithas yn dlotach o'r herwydd.

Swyddogaeth gwladwriaeth yw gwasanaethu'r genedl, fel y mae'r wladwriaeth Brydeinig yn gwasanaethu Lloegr, a thrwy hynny gryfhau a chyfoethogi ei bywyd cymdeithasol a thraddodiadol Yn amgylchiadau'r ugeinfed ganrif y mae bron yn amhosibl i genedl ymgynnal heb wladwriaeth i'w gwasanaethu; edwino a dirywio yw tynged pob cenedl ddi-wladwriaeth.

Os edrychwch o'ch cwmpas yn ystod eich ymweliad a ni fe welwch fod yr iaith yn dal yn fyw ac yn iach ac mae'r optimistiaid yn ein plith yn credu fod y Gymraeg, efallai, wedi peidio ag edwino.

Peidio mynd yno'n y lle cyntaf, ti'n dweud, ei adael yn ei dwll i edwino a phydru, fel mae e'n haeddu!