Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efail

efail

Byddai'r gof druan i mewn ac allan o'r efail yn gyson i ffitio'r pedolau, ac yn y diwedd eu hoelio ar y carn.

Gwaith llaw y crochenydd cyfoes a welir yn Efail y Gof lle gynt y lluniwyd pedol.

Rhoddodd y Cyrnol ei ganiatad ond ni theimlai'n ffyddiog y byddai eu gofidiau drosodd ar ol cyrraedd yr efail.

Byddwn yn ei gweld ar dalcen hen efail yn y dyddiau pan oeddwn yn teithio Cymru yn rheolaidd.

Enghraifft o hyn oedd efail gof Abermagwr, lle y gweithiai'r gof y tu mewn i'r adeilad.

Yn lle rhoi cylch am olwyn bren yn yr efail fel y byddai saer coed yn gwneud, fe roddwyd yr olwyn honno y tu mewn i gylchyn pwced.

Wedi darfod tyllu, byddai'r tyllwr yn mynd â'i ebillion oedd wedi colli min erbyn hyn i'r efail i'w hogi, felly gwelwch fod angen gof yn y chwarel, a llawer yw'r helynt sydd wedi bod yn yr efail rhwng y gof a'r gweithwyr, fel y cawn sôn ymhellach ymlaen.

Mae efail y gof yn ddifywyd ac er i ti guro'r drws am gryn amser does neb yn ateb.

Gafaelai mewn un pen o'r senglen gyda'r efail a cheisio'i throi ar lawr y felin.

Clwb yr Efail: Cynhaliwydd y cinio blynyddol ddechrau Mawrth yng ngwesty Eryl Mor, Y Garth.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Mae'r 'gweithdy saer' yn segur ers blynyddoedd lawer, a'r efail gof a oedd yn ymyl, hithau hefyd wedi cau.

Roedd yr efail a'r morthwyl a'r cwdyn o farrau haearn ar gefn y camel olaf, druan.

Ac mi wn i hefyd ei fod o'n un o'r rheiny sy'n dal i gredu mai fi gafodd bres Siani'r Efail.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Yr oedd hefyd yn aelod o Glwb yr Efail ac o Gylch Cinio Bangor.

Gan eu bod yn gorfod cerdded dros y mynydd yn ôl a blaen o'u gwaith, a'r efail mewn rhan is o'r chwarel, yn weddol agos i'm cartre', dyma nhw'n gofyn i mi fynd â'u hoffer di-fin nhw i lawr at y gof i'w hogi, a dod â'r rhai miniog i fyny'n ôl.

Yna, yng nghanol prysurdeb yn ddiweddarach, a sawl ceffyl yn disgwyl eu tro i'w pedoli o flaen yr efail, mor werthfawr i'r gof oedd fod y pedolau wedi eu troi yn barod.

Os wyt am adael yr efail a'r tŷ a chwilio yn rhywle arall gwna hynny.

'Roedd ambell i efail yn y wlad, mae'n wir, yn gwneud y gwaith o boethi'r haearn ar bentan yr efail.

Cyfyng iawn oedd adeilad yr efail y rhan fynychaf.

Dyna paham y pedolid y ceffylau yn yr awyr agored tu allan i ddrws yr efail.

Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.

Safai'r efail a bwthyn y perchennog ar ymyl yr heol a llonnwyd pawb o weld y mwg yn esgyn i'r awyr.