Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efe

efe

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Ond yn wir meddaf i chwi, er y diwrnod hwnnw, fe gymer y gŵr cyfoethog sylw manwl o'r wraig dlawd, ac efe a aiff heibio iddi gyda gofal.

"A phan oedd efe eto ym mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef."

dacw'r man, a dacw'r pren Yr hoeliwyd arno D'wysog nen, Yn wirion yn fy lle; Y ddraig a sigwyd gan yr Un, Can's clwyfwyd dau, congcwerodd Un, A Iesu oedd Efe.

Ydyw, mae'r dyn yn gwybod 'tydi - onid ydyw efe wedi gweithio i Mr Rothchilds ei hun, ac wedi preifateiddio pob chwarter moliciwl o fewn ei gyrraedd o'r gias i'r glaw.

(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.

Ac wedi iddo gyrraedd y gwaelod, efe a gyfododd ar ei draed ac a ystyriodd ynddo'i hun pa un a ddylai efe ymweld â swyddfa perchen yr adeilad i erfyn arno ddiswyddo'r wraig dlawd.

Ond nid oedd efe yn ystyried bod rhai o'r ddynolryw yn ennill eu bara beunyddiol drwy lanhau swyddfeydd, gofalu am ffwrneisi gwres a'r rhai y mae eu cyfrifoldeb yn ymwneud â glanhau ffenestri.

Cynhaliodd ei hun yn lled lwyr am flynyddau, drwy werthu pamffledau o'i farddoniaeth, neu bregethau, neu areithiau byrion ac ymffrostiai mai efe oedd yr unig fardd Cymreig oedd yn gallu byw ar ei dalent, a chwarae teg iddo, yr oedd yn bur agos i'w le .

Meddyliai am ei dad wedyn, wedi cael telerau gosod, rhai gwael yn aml, na wyddai yn y byd a gâi efe dâl am ei lafur ar ddiwedd mis.

Yn wir, yr oedd efe braidd yn falch weld mab y Wernddu yn dechrau byw yn wahanol i'w ddiweddar dad cybyddlyd.

Ac efe a frathodd ei dafod.

Yr oedd yr helgwn, a gadwyd heb damaid o fwyd ar hyd y Saboth, yn anesmwyth am gael cychwyn i'r helfa, a theimla Harri yn bryderus pa ffigur a dorrai efe yn ystod y dydd.

Ond efe a ystyriodd yn ei galon y byddai hwyl a miri mawr ymhlith gweithwyr yr adeilad hwnnw pe gwyddai pawb am ei gwymp.

A darganfu+m ymhen amser fod gweinidogion eraill wedi gwneud fel efe.

Am na wyddai neb mai dymuniad pennaf Abel oedd imi fynd i'r coleg, ac am na ddywedodd efe wrth un enaid byw ond wrthyf fi fy hun na chawn fod mewn eisiau o geiniog tra byddwn yno, ac am imi ystyried Siop y Gornel fel fy nghartref bob amser.

Mae'n hollol bosibl, felly, mai efe oedd tad yr arwr yn y ffurf ar y chwedl a ddefnyddiwyd gan awdur y Pedair Cainc.

o na bawn i fel Efe, ac etc.).

Bontgoch "Pa leshad i ddyn os cyll efe yr holl fyd, ac ennill ei enaid ei hun" - Wil Sam

Talodd am hanner peint o gwrw i mi, a phan oedd efe yn ei estyn ataf, gwrthodais ei gymryd.

Yn ôl OM Edwards, felly, efe ei hun a gafodd gyntaf y syniad am ffurfio Cymdeithas y Dafydd, ac nid DM Jones.

"Ac efe a'i hanfonodd i borthi moch." (Eitha job iddo fo.

Efe a gododd, ac a aeth at ei dad.

"Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." (Dyna un go dda am shario).

Atebodd Iesu, 'Dywedais wrthych mai myfi yw' Heb sôn am y datganiadau mawr Myfi yw bara'r bywyd etc, y mae'r ymadrodd yn atseinio Ydwyf yr Hwn Ydwyf a Myfi yw Efe.

Pan aeth efe i'r t ni fedrai ymatal heb ddweud wrth Gwen am y gwahoddiad, oblegid yr oedd yn llawen iawn ei ysbryd.

Pe bawn yn gwybod y diwrnod hwnnw nad oedd yn codi ei blentyn i siarad Cymraeg, er ei fod ef ei hun yn weindigo ar eglwys Gymraeg, 'rwy'n siŵr y buaswn wedi dweud wrtho na fyddai dyfodol iddi pe bai pawb yn gwneud fel efe.

A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.

mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y byd fel llwch y llawr dyrnu i'r dommen.

Pan ddaeth i fyny at ochr y gwely, efe a dynnodd y llen yn agored, a chan dynnu i fyny y dillad, yr oedd ar bwynt dyfod i mewn.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

"Efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon." ('Run fath â fnna).

Yr oedd dyn a elwir yn filiwnydd, a chanddo swyddfa mewn tŵr uchel, a phan esgynnai i'w swyddfa, arferai ddefnyddio lifft, ond pan ddelai o'i swyddfa, efe a gerddai i lawr ar hyd y grisiau.

Yr oedd efe yn ŵr ffroenuchel, a ddaethai yn ŵr mawr yn y byd.

Dotiai yr hen Yswain at y ceffyl, a gofynnodd i Harri faint o arian a roddodd efe amdano.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

A'r wraig dlawd a safodd o'r naill ochr yn gwrtais, ac efe a aeth heibio iddi ynghynt, ac yn fwy trwsgwl na'i arfer.

"Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn." (Y lleban jelws.l).

Efe a aeth, er y buasai yn rhoi llawer am esgus digonol dros beidio â mynd.

"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".

'Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai'r Israel' (Luc xxiv.

Mi 'rydan ni o'ch plaid chi." Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth.

O'r hyn lleiaf, gellir tybio hynny, os teg yw casglu mai efe oedd awdurdod y Parch.