Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efelychu

efelychu

Mae'n biti bod yna gynifer ohonyn nhw, oherwydd dyma lyfr sy'n cyflwyno "genre% newydd i'n llên - llyfr sydd yn efelychu ac yn cael ei ysbrydoli gan gêmau cyfrifiadur.

Mewn un mosg yng nghanol Tripoli, buom yn ffilmio rhesi o blant yn ceisio efelychu'r gamp.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

fodd bynnag dylai'r gwaith mae yorath wedi ei gychwyn ymhlith chwaraewyr ifanc yng nghymru barhau ac y mae o, peter shreeves a jimmy shoulder am efelychu norwy sydd yn meithrin pêl- droedwyr ifanc ar gyfer y system y maent yn anelu ati.

Patrwm i'w efelychu Mawr obeithio y bydd yr wyth clwb arall yn yr Adran Gyntaf yn ceisio efelychu chwarae'r ddau hyn; cafwyd prawf anwadadwy ar Y No/ l brynhawn Sadwrn ei bod hi'n gwbl bosibl cael rygbi ardderchog pan fydd y chwaraewyr o dan y pwysedd trymaf.

Enghraifft yw hyn o'r syniad fod natur yn tueddu i efelychu gweithredoedd dyn.

Gorchwyl bardd, ebr ef, yw efelychu dynion yn gweithredu, eithr gan ddewis o fywyd y pethau hynny sy'n hanfodol i greu prydferthwch newydd.

Roedd efelychu oedolion yn rhan bwysig o addysg y cyfnod, a dis gwylid i fechgyn ddysgu trin arfau'n gynnar iawn, fel y gwnâi Siôn gyda'i fwa bach a'i gleddyf pren (arfer sy'n cyferbynnu'n ddigrif ag ofnusrwydd y plentyn bach).

Nid wyf wedi darllen nofel Saesneg o bwys lle nad yw'r awdur, ar wahân i'w ddeialog, hwyrach, sy'n bwriadol efelychu blerwch yr iaith lafar, yn dra manwl gywir.

Pan ddechreuodd beirdd Cymru geisio efelychu patrymau clasurol yn y ddeunawfed ganrif, o dan ddylanwad Seisnig o bosibl, mae'n werth sylwi iddynt ddewis ffurfiau gn amlaf nad oedd dim yn cyfateb iddynt yn union yn y traddodiad Cymraeg, fel y fugeilgerdd, yr arwrgerdd neu'r epistol barddonol.

Er enghraifft, os oedd Sais yn dymuno cyfansoddi cerdd foliant i'w noddwr, byddai'n meddwl yn gyntaf am efelychu Pindar neu Horas.

Mewn gwirionedd, lluniodd awdl gywrain ryfeddol, un o'r awdlau buddugol cywreiniaf erioed, ac awdl glasurol a oedd yn efelychu patrymau Beirdd yr Uchelwyr.

Mae'n fodel i'w efelychu gan y disgyblion.

Dyma mae Lloegr wedi llwyddo i'w wneud a rhaid i Gymru efelychu hynny er mwyn cael llwyddiant.

Gwelir rhyw gymaint o ddylanwad Lladin a Groeg yng ngwaith rhai o awduron rhyddiaith y Dadeni Dysg: meddylier, er enghraifft, am ragymadrodd Gruffudd Robert i'w Ramadeg Cymraeg, lle y mae'r awdur yn amlwg yn efelychu dulliau Plato a Cicero o ysgrifennu deialog.

Dawn fwyaf arbenning y bardd yma yw efelychu a pharodïo rhai o gerddi enwocaf Cymru drwy'r oesoedd (cerddi fydd yn gyfarwydd i unrhywun sydd wedi gwneud lefel o ac A mewn Cymraeg), a gwneud hynny'n goeglyd a sbeitlyd, gydag ambell i gic yn ei neges.

Adlewyrchir yr amwysedd hwn yn y disgrifiad o Siôn yn yr ail baragraff, y diniweidrwydd annwyl a'r anwadalwch ar y naill law, ac ar y llall y duedd i efelychu oedolion.

Y nod yw efelychu llwyddiant Denmarc, Valencia yn Sbaen, Emilia-Romagna yn yr Eidal, Baden- Wuerttemberg, ein chwaer-ranbarth yn yr Almaen a rhai o daleithiau America fel Pennsylvania wrth greu yr hyn a elwir yn 'rhwydweithiau cydweithredu' rhwng cwmni%au bach a mawr a rhwng y sector breifat a'r sector gyhoeddus.