Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efengyl

efengyl

Edifarhewch a chredwch yr Efengyl."

Rho inni weledigaeth glir o addaster yr Efengyl ar gyfer yr ieuanc fel yr hen.

'Hawlio rhyddid cydwybod a rhyddid i bregethu'r efengyl oddi ar gariad ati - dyna ei waith mawr'.

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Dyna fy nghred ac y mae'n gywir dweud mai mewn gwasanaethu'r Efengyl trwy bregethu a hyfforddi myfyrwyr y cefais y boddhad dyfnaf.

A dyna Robert Hughes Uwchlaw'r Ffynnon, a anturiodd Lundain i borthmona, ond a ddaeth adref yn ddyn newydd, wedi'i danio gan yr Efengyl.

Yr hyn yr oedd yn ei boeni oedd pregethu'r efengyl gan rai nad oeddynt wedi profi Duw yn eu calonnau.

Os oedd Ysbryd Crist yn amlwg mewn unrhyw ddyn, ni waeth beth fo'i waith beunyddiol, yr oedd yn gymwys i gyhoeddi'r Efengyl.

Gwyddom fod Llyn yn y blynyddoedd hyn wedi cael cyfle i glywed yr Efengyl Biwritanaidd yn ei phurdeb.

Y mae gweddill sylweddol iawn yng Nghymru na phlygodd i dduwiau poblogaidd ein cenhedlaeth ac a arhosodd yn ffyddlon i wirionedd yr Efengyl.

Wrth gwrs, nid hwy oedd yr unig genhadon a ddaeth â'r efengyl i'n gwlad.

Pobl fel hyn oedd arwyr y werin - doedd fawr bwrpas bellach cael athro coleg neu weinidog yr efengyl.

Ei ddewis arferol fyddai'r drydedd salm ar hugain ynghyd â'r adran honno yn yr Efengyl yn ôl Ioan sy'n dechrau gyda'r geiriau, 'Na thralloder eich calon'.

Y mae angen dybryd am ailgydio yng ngwirioneddau sylfaenol yr Efengyl.

Yr wyt yn estyn cyfle yn yr Efengyl i bawb gredu a byw.

Ar ei dystiolaeth ei hun bywyd digon ofer a fu ei hanes am ran helaeth o'i oes, ond daeth i brofiad trwy droedigaeth o'r Crist yn gwaredu, a threuliodd y rhan olaf o'i oes yn tystio i ddawn yr efengyl yn achub hyd yr eithaf.

Mae'n rhywbeth y mae'r Efengyl o dan eneiniad yr Ysbryd Glân yn ei bortreadu o flaen ein llygaid.

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.

Yma yng Nghymru (lle pleidiwyd achos y Brenin nid y Senedd gan y mwyafrif mawr) rhan o'r paratoi oedd y gwaith a wnawd i daenu'r Efengyl yn fwy effeithiol yn y gogledd drwy osod gweinidogion Piwritanaidd yn lle'r Anglicaniaid gynt.

Meddai, Newyddion da'n unig sydd gan Weinidogaeth yr Efengyl.

Rai misoedd wedyn daeth yr Iacha%wr Carismatig, y Parchedig Peter Scothern, i ardal Llanbedr Pont Steffan i bregethu'r efengyl ac i iacha/ u cleifion.

Yn y traethodau sydd wedi eu casglu yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi byddai cyfle iddo ystyried sut y trosid i'r Gymraeg yn y Cyfnod Canol ddarnau fel y Deg Gorchymyn, y Gwynfydau, Prolog Efengyl Ioan ynghyd ag ugeiniau o adnodau unigol o'r Hen Destament a'r Newydd.

Y tro y cafodd ei chipio gan sipsiwn, y tro y rhwystrodd geffyl gwyllt drwy gydio yn un o'r afwynau a chael ei llusgo am hanner milltir - roeddem yn eu credu fel efengyl.

Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Cymer drugaredd ar y rheini ymhlith ein pobl ifainc sydd ar ddisberod ac mewn ing ysbryd, rhai yn gaeth i gyffuriau, rhai yng nghrafanc alcoholiaeth, rhai'n distrywio eu bywyd trwy drachwant, rhai'n anobeithio am na allant gael gwaith a rhai'n teimlo fod bywyd yn wag a diystyr am eu bod yn gwrthod goleuni'r Efengyl.

Dechreuai siarad ag ef am Iesu Grist gyda'r geiriau, "Wel, hen ddyn..." Yna âi rhagddo i gyhoeddi'r efengyl Credai'n bendant y dylid cadw'r Sul yn sanctaidd.

Rhaid yn hytrach roi i mewn ym mywyd dyn flawd efengyl gras a maddeuant.

Rhwng hanes Gostegu'r Storm a hanes Yr Iesu yn Cerdded ar y Môr yn yr Efengyl yn ôl Marc ceir hanes Porthi'r Pum Mil.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.

Y rheswm am hyn (a rheswm arall dros ddweud mai llyfr arbennig ydyw) yw mai gwŷr yn unig sydd wedi sgrifennu ynddo, ac ar ben hynny, gweinidogion yr Efengyl ydynt i gyd.

Yn drydydd, dyma bobl oedd wedi mynd trwy brofiadau mawr, ac wedi dioddef oherwydd eu safiad o blaid yr efengyl.

Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.

\Cyfeirir yn Efengyl Ioan a awydd llawer o'r bobl yng Ngalilea am ei wneud yn frenin, ac awgrymir mai dyna'r rheswm pam y mynnai ymneilltuo i le anghyfannedd, cilio i'r mynydd (vi.

Wrth gwrs, y mae rhai unigolion dawnus sydd â'r wybodaeth a'r cefndir angenrheidiol i ddod â gwlad yn hollol ryw i'r myfyrwyr - fel y gall Alex McCowen neu Emlyn Williams lenwi theatr yn y West End a llwyddo, heb gymorth undyn arall, a chall ddibynnu ar eu personoliaeth eu hunain a safon eu deunydd, i hudo cynulleidfa wrth ddarllen o'r Efengyl neu o waith Dickens neu Dylan Thomas.

Gweddi: Diolch i Ti, y Duw tragwyddol, am efengyl yr Atgyfodiad.

Y mae'r ysbryd grasol a milwriaethus hwn tuag at anghredinwyr a'r argyhoeddiad fod yr Efengyl yn rhodd amhrisiadwy i'w rhannu â phawb sydd o fewn cyrraedd yn anhepgor onid yw'r Eglwys Gristionogol i ddirywio'n glwb caee%dig.

Ai ef ei hun, tybed, yn ôl awgrym un o'r esbonwyr, a gadwodd y manylion hyn allan o'r Efengyl yn ôl Marc?