Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efengylau

efengylau

Bwriadai i'r eglwys golegol hon estyn croeso a chymorth Cristnogol i ddieithriaid a chrwydriaid yn ôl traddodiad yr efengylau.

'Roedd yr egwyddor hon wedi'i hawgrymu yn rhannol gan y rhybudd yn yr Efengylau rhag taflu perlau o flaen y moch, ac yn rhannol gan y gred bod yn rhaid cyflwyno gwirionedd yn raddol er mwyn ei amgyffred yn llawn.

Nid heb reswm y galwyd yr Actau 'y ddiffyniad Cristnogol cyntaf' ­ ond y mae'r cymhelliad apologetaidd i'w olrhain hefyd yn yr efengylau.

Cyfeithiad yw'r gwaith hwn o 'epistolau ac efengylau' y Llyfr Gweddi Gyffredin, hynny yw o'r gwahanol ddarnau o'r Ysgrythurau a ddarllenir yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys Loegr.

Yn ôl Luc, ac y mae'n rhyfeddol fel y mae'r efengylau yn cyflenwi ei gilydd: 'Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacha/ u'r rhai ag angen gwellhad arnynt' Trwy'r cwbl, cerddodd y dydd ymhell, ac yn ôl adroddiad Luc a Marc, daeth ei ddisgyblion ato a dweud: 'Mae'r lle yma'n unig, ac y mae hi eisoes yn hwyr.

Hyd yn oed cyn ysgrifennu'r un o efengylau'r Testament Newydd yr oedd y tueddiad wedi ymwreiddio ymhlith y Cristnogion hynny a ystyriai Rufain yn hytrach na Jerwsalem yn ganolfan y byd.

Ni fynnai'r rhan fwyaf o'r Cristnogion yn yr ail hanner o'r ganrif gyntaf gyflwyno Iesu'n elyn i Rufain, a hyn sy'n egluro'r ffaith nad oes yn yr efengylau ddim condemniad agored ar ormes Pilat ac ar gamwedd caethwasiaeth.

Am yr un rheswm ychydig a ddywedir yn yr efengylau am Selotiaeth ac am broblemau arbennig Palestina, a'r canlyniad yw fod y gair 'Galilea', yn enwedig, wedi mynd i awgrymu i laweroedd wlad o lonyddwch eidulig.

O achos hyn, at ei gilydd, darlunnir Rhufain a'r llywodraethwyr Rhufeinig a'r gwareiddiad Rhufeinig yn dra didramgwydd yn yr Efengylau ac yn Llyfr yr Actau.

Rhaid inni gofio bob amser i'r efengylau gael eu hysgrifennu i fynegi ffydd y Cristion yn ei Grist a hefyd i gyflwyno'r genadwri Gristnogol mewn dull a fyddai'n ennill diddordeb ffafriol y byd Rhufeinig.

Rhoesant barch neilltuol yn eu haddoliad i ddarllen yr efengylau a'r epistolau yn eu hiaith eu hunain.