Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

effeithiolrwydd

effeithiolrwydd

Canlyniad y newidiadau fydd: (a) Colli cysondeb cenedlaethol a'r effeithiolrwydd mewn adnabod a gwarchod safleoedd pwysig.

Arddulliau dysgu a sut y gallant ddylanwadu ar effeithiolrwydd datblygiad dwyieithrwydd.

Ond prin y gellid disgwyl i Gymro ifanc tair ar hugain oed, ar dân o frwdfrydedd tros ei egwyddorion crefyddol, sylweddoli fod y rhod yn troi ac y byddai ei dynged ef ei hun yn dystiolaeth drist i effeithiolrwydd yr adwaith o dan John Whitgift.

Tybir i hyn ddigwydd am fod y betys yn hybu effeithiolrwydd yr iau; ac un o swyddogaethau'r iau yw trin braster.

Mae'r problemau hyn yn codi yn bennaf o ganlyniad i werthu uniongyrchol o'r canolfannau mewn achosion lle mae cost cludiant yn ddrud iawn, a hefyd yng nghyswllt Cynllun Adnoddau CBAC oherwydd bod effeithiolrwydd y system yn dibynnu ar swyddogion yr Awdurdodau sy'n gyfrifol am y dosbarthu i'r ysgolion.

A yw polisi%au'r ysgol yn hwyluso adnabod, asesu, darparu ac adolygu disgyblion ag AAA ac yn galluogi'r llywodraethwyr, y pennaeth a'r staff i werthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y trefniadau.

Cymwysterau rheoli mewn gwaith sy'n gwella effeithiolrwydd rheolwyr a gweithwyr.

Y mae sicrwydd y gwyddonydd yn gorffwys bellach nid ar unrhyw ddatguddiad dwyfol ond ar effeithiolrwydd y method gwyddonol.

Nid yw'r hormonau BST ar gael yn gyffredinol eto, ond caniatawyd defnydd o'r hormon mewn buchesi dethol i brofi ei effeithiolrwydd.

Nodweddion y gwerinwr didoreth oedd gan Christmas hyd y diwedd, yn ôl Dr Densil Morgan, a bu hynny'n rhan bwysig o'i gyfaredd a'i effeithiolrwydd.

adeiladau ac ystafelloedd - y defnydd a wneir o'r adeiladau a'r ystafelloedd presennol, effeithiolrwydd rheolaeth unrhyw arian sydd ar gael ar gyfer eu gwella fel amgylchedd dysgu a pha mor briodol ydynt yn gyffredinol ar gyfer y cwricwlwm y mae'r ysgol am ei gynnig.

Ni fedrant ddeall person sy'n ymgymryd â'r fath waith undonog o'i wirfodd a methiant yw ymdrechion tila Lenz i egluro, am nad yw ef ei hun yn argyhoeddiedig o effeithiolrwydd y dacteg hon i greu rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng y myfyrwyr a'r gweithwyr.

Dylid bod peirianweithiau i alluogi'r tîm o uwch-reolwyr a'r corff llywodraethu i fonitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag AAA.

Er mwyn sicrhau llwyddiant ac effeithiolrwydd y Polisi Dwyieithog o'r diwrnod cyntaf, galwn ar y Swyddfa Gymreig i sefydlu Grwp Tasg i gydlynu ymdrechion a syniadau er mwyn ymbaratoi at gyflwyno Polisi Dwyieithog yn y Cynulliad.

Fe gyhuddwyd gohebwyr teledu'n gyson o dramgwyddo'r gwylwyr yn ogystal â'r trueiniaid yr oedden nhw'n eu ffilmio drwy roi mwy o bwys ar effeithiolrwydd arwynebol adroddiad nag ar ei gynnwys.

I ble ac at bwy y byddai rhaid imi sgrifennu neu ffonio ar ôl hyn?' Ac yn wir, rhaid dweud fod llawer dyn i'w gael sydd wedi ymsuddo ym mheirianwaith bywyd i'r fath raddau nes ei bod yn anodd iawn meddwl amdano fel person: gyda'i holl gyfryngau wrth ei benelin, gyda'i holl effeithiolrwydd at ei alwad, nid yw'n neb na dim - fel dyn.

adnoddau - effeithiolrwydd cyllidebu'r ysgol ar gyfer llyfrau, deunyddiau, cyfarpar ac offer priodol; hygyrchedd yr adnoddau hyn i ddisgyblion; a'r defnydd a wneir o'r holl adnoddau sydd ar gael gan gynnwys llyfrgell ganolog a meysydd adnoddau wrth ddysgu'r pwnc.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn gwrthwynebu'r argymhellion hyn yn chwyrn ar y sail y byddai effeithiolrwydd y Cyngor Gwarchod Natur yn cael ei leihau'n sylweddol, ac y byddai hynny'n cael effaith ddinistriol ar gadwraeth natur.