Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efrog

efrog

Ac yn Nhalaith Efrog Newydd yr oeddynt hwy yn byw.

Y mae bywyd yn Llundain, er enghraifft, yn wahanol iawn i fywyd ar fferm fechan yn Swydd Efrog.

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

am yr ail sadwrn yn olynol bydd wrecsam yn teithio i swydd efrog gan ymweld a huddersfield town tîm sy'n ei chael hi'n go anodd i sgorio gartref.

Cyfarfyddodd Cymdeithas Gymreig Dewi-Sant Ardal y Brifddinas am y tro cyntaf ym 1929, yn Schenectday, Efrog Newydd, o dan yr enw St.

Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.

Jones, y llywydd, yn son am Gymdeithas Gymreig Dew Sant Ardal y Brifddinas yn Albany, Talaith Efrog Newydd.

Wrth i John Griffith gerdded ar hyd yr harbwr yn Efrog Newydd, fe fyddai wedi gweld rhai o'r bobl dduon a oedd newydd gael eu rhyddid rhag caethwasiaeth ac fe fyddai wedi clywed peth o'r siarad am y symudiadau cyfreithiol i roi hawliau iddyn nhw.

Profodd laslencyndod yn 21 oed yn Efrog Newydd, meddai.

Fel cyfarwyddwr theatr y gwnaeth ei farc hyd yn hyn, gan weithio'n helaeth yn Llundain ac Efrog Newydd.

Mae'n dychwelyd i Brydain yr wythnos yma wedi tymor llwyddiannus yn Nhŷ Opera Efrog Newydd ac yn mynd ar daith i Glasgow, Birmingham, Llundain a Manceinion.

200,000 mewn protest yn Efrog Newydd a San Francisco.

Fe aeth drosodd i Efrog Newydd am rai blynyddoedd, a daeth yn ol i Gymru, ond yr oedd ei iechyd wedi torri i lawr a bu farw yn fuan a'i gladdu gyda'i ferch fach ym mynwent Capel Soar, Brynteg.

Aeth Griffith Jones, Tŷ'n Giât, sydd y tu ôl iddynt, a'r Swyddog Peirianneg o'r Sir sydd ar y chwith gyda hwy i Efrog.

'Doedd Yang ddim yn brofiadol o bell ffordd, ond hi gipiodd wobr fu'n gychwyn gyrfa ddiglaer a gwahoddiad i astudio yn y Juilliard School yn Efrog Newydd.

Ystyriwn ei ganllawiau yn fympwyon hen ddyn, ac eto fe fu+m i'n ofalus iawn fy hunan - teithio gyda'r trên araf i Frankfurt, a dim ond wedyn, yn Frankfurt, codi tocyn awyren i Efrog Newydd, gan nodi a oedd unrhyw un a oedd yn y trên gyda fi yn codi'r un tocyn.

Yr oedd mynd i Toronto yn hytrach nag i Efrog Newydd yn golygu trafaelio cannoedd yn fwy o filltiroedd iddynt.

Dehongliad John Griffiths oedd eu bod nhw wedi symud i'r De i geisio torri'n rhydd am eu bod nhw'n colli eu grym traddodiadol yn Washington ac Efrog Newydd.

Yn Woodside, Efrog Newydd yr oeddwn i yn 1998 pan sgoriodd e ddwy gôl yn erbyn Offaly.

Yn Efrog Newydd y sylweddolodd gymaint oedd ei awydd i berthyn i grwp roc pan oedd yn ei arddegau yng Nghymru.

Ar fy unig ymweliad i ag America yr oedd fy ffrindiau yno yn awyddus iawn imi beidio â hedfan i ddinas Efrog Newydd.

Mae tîm merched America wedi dal gafael ar Gwpan Curtis ar ôl curo Prydain ac Iwerddon, 10 - 8, yn Ganton, Sir Efrog.

Noson Yr Alban fydd nos Fercher a'i cynrychiolydd fydd y baritôn Leigh Melrose a aned yn Efrog Newydd ond a fagwyd yn Llundain.

O Efrog Newydd i Rio, ac yna, yn Rio, archebu sedd mewn awyren i Belem, nodi a oedd unrhyw un arall o'r awyren o Rio yn gwneud yr un peth.

Wrth gwrs, mae'r ffaith bod cymdeithas Gymreig yma o gwbl yn destun rhyfeddod achos er bod gan ardaloedd fel Utica a Granville yn Nhalaith Efrog Newydd gysylltiadau Cymreig cryf nid oedd "gwladfa" Gymreig yn y brifddinas a carpet baggers oedd aelodau'r gymdeithas gyntaf - fel heddiw - pobl a ddaeth yma i weithio gyda GE neu gyda llywodraeth y dalaith.

Mae capten tîm rygbi tri-ar-ddeg Cymru, Iestyn Harries, wedi gorfod tynnu allan o gêm Sir Gaerhirfryn yn erbyn Sir Efrog heno.

Ond erbyn heddiw, 'rydym yn gwybod fod meddyginiaeth hen ffermwyr Swydd Efrog yn gwneud synnwyr.

Mae'r actorion yn wych yn y ffordd y maent yn portreadu'r cymeriadau hynod oedd unwaith yn ffarmio'r llethrau ar hyd ddyffrynoedd Swydd Efrog.

Yn dilyn eu llwyddiant yno cawsant fynd i Sioe Efrog.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Bu'n perfformio mewn tai opera yn Awstralia, Efrog Newydd ac Ewrop ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwyl Caeredin.

Yn achlysurol yn arbennig yn achos y cynlluniau cynharaf, byddai grwpiau bychain o athrawon o'r un fryd yn dod at ei gilydd, i weithio'n annibynnol ar eu cynlluniau eu hunain Dyna'n sicr oedd hanes grwp Caer Efrog - gydweithio gan nifer o athrawon a oedd yn adnabod ei gilydd yn dda.

Ar ôl clywed fod meddygon yn swydd Efrog yn presgreibio llyfrau i gleifion syn dioddef o iselder a stres y cwestiwn y maen rhaid i rywun ei ofyn yw pa lyfr Cymraeg fyddai rhywun yn ei gymryd yn ller tabledi bach syn cael eu cynnig fel rheol.

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i brofion graddedig gael eu defnyddio yn Leeds a'r drydedd flwyddyn iddynt gael eu defnyddio yng Nghaer Efrog.

(Gweddi a gyhoeddwyd gan Ganolfan Sant Samson, Efrog) Hyn, gan obeithio y bydd y weddi o gysur i'r rhai sy'n hŷn ac yn gymorth i warchod rhai iau rhag hunanoldeb.

Cafodd Matthew Hoggard, y bowliwr cyflym o Sir Efrog, ei ddewis i'r tîm wrth i Loegr hepgor troellwyr yn gyfan-gwbl ar gyfer y gêm hon.

Yno yr oedd pob bryn a phant yn ardaloedd gwledig Efrog Newydd, Massachusetts, a Pennsylvania etc.

Bwriad y gwefan yw cyflwyno y digwyddiadau a'r sefydliadau sydd wrth galon y Cymry yn Efrog Newydd a'i chyffiniau.

Ond, fel newyddiadurwr wrth reddf, y digwyddiadau mawr a'u hoblygiadau a aeth â bryd John Griffiths o'r funud y cyrhaeddodd Efrog Newydd .

Perfformia bedair gwaith bob haf ym Mhroms y BBC yn y Royal Albert Hall yn Llundain ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf y mae wedi perfformio yn y Musikverein yn Fienna, y Gewandhaus yn Leipzig, y Concertgebouw yn Amsterdam, y Lincoln Center yn Efrog Newydd a Neuadd Suntory yn Tokyo.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.

Ehangwyd y cylch mewn cyfarfod a drefnwyd gan Awdurdod Lleol Swydd Gogledd Efrog.

Roedd y canlyniadau yn Leeds a Chaer Efrog yn debyg iawn, ond roedd y cynnydd yn fwy sylweddol yn ysgolion Caer Efrog.