Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eglwyswr

eglwyswr

Roedd y gwreiddiol Iago Prytherch yn frawd i eglwyswr...

Digwyddai fod yn Eglwyswr ac yn aelod yn Eglwys Llanfihangel-ar-arth.

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

Mae yma ymdriniaeth â llawer o bynciau mewn cwmpas byr, â gwaith Theophilus fel awdur a chyfieithydd, â'i ddawn fel chwedleuwr difyr a hoffus, â'i gredoau a'i weithgarwch fel eglwyswr, ac â'i wladgarwch Cymreig a Phrydeinig.

'Ond 'dydi hi ddim yn iawn yng nghysegr Duw.' Nid oedd John y mab na chapelwr nac eglwyswr, ond 'roedd o'n giamstar ar drin clociau.

Yn chwithig braidd, y gwr a adfywiodd y cof am Penri oedd yr Eglwyswr piwus, Anthony a\ Wood, bywgraffydd cynfyfyrwyr Prifysgol Rhydychen a dyn y dywedwyd amdano 'na ddywedodd air da am neb erioed'.

Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.

Cyfuniad o'r ystyfnigrwydd a'r dymer a barodd iddo droi'n eglwyswr am gyfnod.

Deheuwr bywiog, o athrylith wasgarog, Eglwyswr, ac aelod o Goleg Worcester oedd DM Jones; Gogleddwr araf, diwreichion, Ymneilltuwr, ac aelod o Goleg Balliol oeddwn innau.

Yn naturiol, ceir yn y rhan o'r rhagymadrodd sy'n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o'r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i'r nifer o benillion a ddosbarthai'r anterliwtiwr i'w hactorion.