Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

egwyl

egwyl

Naw i dri ar yr egwyl, a Gareth Edwards wedi cael ei rwystro rhag croesi am gais gan amddiffyn effeithiol rheng ôl Llanelli.

Fe greodd Cymru y cyfleon ac fe ddylser gêm fod yn sâff ymhell cyn yr egwyl.

Roedd Lloegr yn ffodus i fod ar y blaen 2- 1 ar yr egwyl diolch i gic o'r smotyn gan Alan Shearer a gôl gan Michael Owen.

Gweddnewidiwyd y gêm gan ddiffyg disgyblaeth difrifol Nigel Jemson, capten Yr Amwythig, a gafodd ei hel o'r maes eiliadau cyn yr egwyl.

Er hynny, yr oedd arwyddion calonogol i Gymru er eu bod ar ôl 24 - 5 ar yr egwyl.

Peniad wedyn gan Jao Pinto a roedd y sgôr yn gyfartal erbyn y egwyl.

Er croesi ohonynt i'r lan arall, fel y gwyr y rhai sy'n hen gyfarwydd â'r hanes hwn, ni chafwyd mo'r encil na'r egwyl angenrheidiol am fod y tyrfaoedd wedi achub y blaen arnynt, ac ar y lan arall yn eu disgwyl.

Saith munud wedi'r egwyl sgoriodd Schevchenko.

Ond gyda Lloegr angen pwynt yn unig i fynd trwodd i'r wyth olaf daeth Romania yn gyfartal ddwy funud wedir egwyl.

Wedi gwallgofrwydd bargeinion Ionor yn y faelfa cafwyd egwyl gymharol dawel, a dechreuodd y staff son am eu cynlluniau ar gyfer gwyliau'r haf: bwthyn yn Sir Benfro - y - Dyfed; wythnos yn Llundain; paentio'r tŷ; Iwerddon; llynnoedd Lloegr; Cernyw; Eastbourne; a hyd yn oed Majorca.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Sgoriodd Wakins eto i'w gwneud hi 2 - 1 cyn yr egwyl.

Neithiwr cafwyd rhywbeth arbennig ac aeth y gynulleidfa allan i'r egwyl yn ferw o gynnwrf.

Beth am frecwast yn y gwely, egwyl rhag golchi'r llestri, smwddio, garddio neu beth bynnag y byddwch yn gael yn waith anodd.

Fe fuodd y bore yn hynod llwyddiannus i Loegr gyda Pakistan erbyn yr egwyl gyntaf yn 71 am dair wiced.

Daeth unig sgôr America ychydig cyn yr egwyl - y maswr Grant Wells yn llwyddo âi drydydd ymgais at y pyst.

Cludo mam i Genarth er mwyn iddi gael egwyl gyda'i ffrind Rachel.

Yn gynnar rhoddodd Nuno Gomes Portiwgal ar y blaen a sgoriodd Thierry Henry i ddod a Ffrainc yn gyfartal bum munud wedir egwyl.

Tito You, baritôn o Korea, gafodd y gwaith anodd o ganu wedi'r egwyl a phawb yn dal yn feddwl am Elina.

Toc wedi'r egwyl methodd Josh Low gyfle gwych i dawelu'r dorf.

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

Mae ymholiadau Flood a Moriarty yn parhau, a bydd egwyl yr haf yn tawelu'r dyfroedd gwleidyddol.

Yna fe'i cosbwyd nhw gan Neil Grayson gyda dwy gôl o fewn pum munud cyn yr egwyl.

Wedi'r egwyl ymddangosodd Stephanie Novacek, mezzo hyderus o'r Unol Daleithau.

i rai o'r plant hyn, ni fydd y lloches yn fwy nag egwyl fer o ychydig wythnosau.

Canodd alaw gyfarwydd Donizetti Una furtiva lagrima - nid o reidrwydd yn syniad rhy dda gan ei bod yn hoff gân cynifer o denoriaid enwog - yn felys a chynhesodd y dorf ar drothwy'r egwyl gydag O figli, o figli miei o Macbeth Verdi.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Er i Luke Staton sgorio i'r Barri ychydig cyn yr egwyl a'r eilydd Marvin Blake yn cael un arall cyn y diwedd roedd Wrecsam yn feistri corn.

Deallaf mai mewn Volvos mae'r cerddantwyr yn cludo eu telynau a'u clocsiau ac ati, ac felly addas iawn fod hysbyseb Volvo ym mhob egwyl nos Sadwrn.

Sgoriodd Sanchez gôl arall - ei ail - yn union wedi'r egwyl, cyn i Gaizka Mendieta sgorio'r drydedd.

'O'n i'n gwbod bydde hi'n agos iawn yn enwedig ar ôl iddyn nhw sgori cais wedi'r egwyl - ond cic yn y penôl geson ni,' meddai.