Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ehangder

ehangder

Mwynhewch ehangder y dychymyg ar bob cyfrif.

Meic, Christy... ond Steve sydd ar y blaen eto bron yn ddieithriad Mae ehangder y sbectrwm o Viva Reveloution Galesa i Croen Denau yn rhyfeddol.

Tra mae Dick Chappell yn gynnil yn ei ddefnydd o ofod a lliwiau, fel petai am dynnu popeth i mewn i fyd bach agos ato, mae lluniau'r artist hwn yn rhoi argraff gyffredinol o ehangder.

Trwy hynny fe droir meddyliau unigolyn yn feddyliau cymdeithas, ac oherwydd y cyfoeth sydd felly'n cronni ynddo bydd y meddwl cymdeithasol hwnnw yn rhoi maeth a golud i feddyliau'r unigolion sy'n cyfrannu iddo ac yn rhoi ehangder a dyfnder iddynt.

Ehangder ei adnabyddiaeth o'r micro- a'r macrocosmos oedd yn ei wneud yn gwbl wahanol i holl feirdd a llenorion Cymraeg, nid yn unig ei gyfnod ei hun, ond rhai pob cyfnod.

Rhyfeddwn nid yn unig at ddyfnder dy dosturi ond at ei ehangder yn cofleidio holl bobl y ddaear yn dy fwriadau grasol.

Erbyn y prynhawn, fe giliodd y tonnau ac felly draw a ni hyd ehangder y traeth tua Llanddwyn.

Yn dilyn o hyn, mae diffyg dealltwriaeth yn bodoli am y prosesau cymhleth sy'n digwydd yn ein dyfnderoedd - o Fae Ceredigion i ehangder y Môr Tawel.

Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.

Ond nid oedd gan Keble yr ehangder gweledigaeth na'r grym personoliaeth, meddai Owen Chadwick, i fod yn arweinydd mudiad a syrthiodd ar ddyddiau blin.

Er bod diffiniadau statudol o'r term anghenion arbennig ar gael, mae ehangder y grp, amrywiaeth yr anghenion ac amlder ymddangosiad y gwahanol anghenion yn arwain at anhawsterau mawr wrth geisio gynllunio'n strategol.

'Rwy'n pwysleisio cyfoesedd ac ehangder diddordebau a chysylltiadau Llwyd er mwyn dangos mai ynghlwm wrth y ddyneiddiaeth eang honno y coleddai ei syniadau am hanes a tharddiad cenedl y Cymry.

Dyma ei ddarlun o Dduw: Sant Heb fodfedd o nefi blw ar ei gyfyl, Yn ysbryd solat a diysgog yn ehangder y cymylau, Yn gosmig Ac yn or-gosmig Ac yn llawen farfog.

Fe gâi'r hogiau fynd i ymdrochi i Lyn Manod a Llyn Dþr oer, ond yr unig ddþr y byddem ni'r merched yn ei weld, ar wahân i ddþr tap ac afon fudur, oedd ehangder brawychus o fôr Morfa Bychan ryw ddwywaith y flwyddyn.

Mae ehangder a manyldeb dy waith y tu hwnt i allu ein dychymyg ni i'w dirnad.

Dywedir iddo gael ei addysgu'n breifat ac nid oes son iddo fod mewn prifysgol, ond y mae ehangder ei ddiddordebau'n ei osod yn enghraifft nodweddiadol o ddiwylliant gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid yr oedd yn hanesyddol, yn archaeolegydd ac yn ieithegydd a ymddiddorai'n fyw iawn mewn dacareg ac amaethyddiaeth ac a wyddai gryn dipyn am wyddoniaeth ddiweddaraf ei ddydd.