Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eiddigeddus

eiddigeddus

Wrth orwedd yn ei ymyl ar y gwely, a'r llenni ar agor i adael golau dydd i mewn, teimlai Hannah'n eiddigeddus o'i iechyd.

Dro arall daw Cadog yn êl o Gaersalem a chaiff fod perthynas eiddigeddus wedi llad ei gefnder, digwyddiad sy'n dod ag atgof o'r arwyr yn dychwelyd o Iwerddon ac yn cael fod Caswallon wedi lladd Caradog fab Brên.

Ymladdfa real ond sifalri%aidd, briodol i farchog urddol yw natur y cae niwl, nid ysgarmes carwr eiddigeddus â threiswyr penffordd arfog.

Ceir enghraifft o hynny ym Muchedd Padarn lle y dywedir fod Arthur yn eiddigeddus o wisg arbennig a oedd gan y sant ac yn ceisio ei dwyn oddi arno trwy drais.

Mae'r beriniaid hefyd wedi nodi fod yn y chwedl asiad o ddwy thema, sef yr un gyfarwydd am Ferch y Cawr, a geir yn Iwerddon, er enghraifft, a'r un fyd-eang am y Llysfam Eiddigeddus.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

Wrth gwrs, y mae yn y llywodraeth wyr diwylliedig sy'n eiddigeddus tros urddas eu traddodiad.

Teimlais yn eiddigeddus iawn.