Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eilun

eilun

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Ffydd sy'n mynegi teyrngarwch gwaelodol i rywun neu ryw egwyddor, ein hymgysegriad i Dduw neu ryw eilun hen neu fodern.

Ef yw fy eilun, medda fo.

Talfan ar y blaen yn poeri fel cath, a'i fintai filwriaethus yn nyddu o'i gwmpas fel newyddiadurwyr o gwmpas eilun pop.