Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eilwaith

eilwaith

Mae o wedi gofyn eilwaith ac mae o'n disgwyl ateb y bore ma.

Roedd Adrian Dale, capten dros-dro Morgannwg, yn gobeithio gweld Northants yn batio am yr eilwaith yn olynol ond fe sgoriodd y tîm cartre 446 am saith cyn cau eu batiad ar ôl sicrhau y pedwar pwynt bonws.

Darllenodd y llythyr, a'i ddarllen yn araf eilwaith, yna'i ddarllen eto, a'i roi yr un mor araf yn ei amlen a syllu'n hir i'r lle tân gwag.

Gofynnodd y gyrrwr y cyfeiriad iddo eilwaith gan edrych yn amheus arno.

Am ychydig bu+m yn ddigon naif i gredu y gallem fod yn mynd i weithio yno eilwaith.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Dyma ysbryd Caledfryn yn rhodio eilwaith.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

Nid oedd raid iddo ddweud eilwaith.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Yn awr ac eilwaith taflem lygad i weld a oedd Gwep Babi o gwmpas ond nid oedd yn y golwg yn unman, er y gwyddem o brofiad nad oedd ymhell iawn ychwaith.

Bydd amryw yn teithio am yr eilwaith yn ystod yr un wythnos.

Torrwyd ein lawntiau ni am y tro cyntaf ar yr ail ar bymtheg o Ionawr eleni, eilwaith ar y dydd olaf o'r mis, dim unwaith yn ystod mis Chwefror, ni bu tyfiant yn ystod y mis hwnnw, ac yna ar y seithfed ar hugain o Fawrth.

Yr oedd yn ddiweddglo rhyfeddol gyda hyn yn digwydd am yr eilwaith i Forgannwg y tymor hwn.

Yn awr ac eilwaith codai awel yn ddisymwth a chwythu llwch i'm llygaid, a rhaid oedd sefyll yn y fan a'r lle rhag of n i bwl sydyn o ddallineb fy nhywys dros y dibyn, gan fod y llwybr cul yn rhedeg yn bur agos ato ar brydiau.

Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.

Cyfaddefodd wedyn fod y syniad y gallai ef gael cais i gyflawni'r gorchwyl ei hun yn un mor anghredadwy iddo fel nad edrychodd eilwaith ar y bwletin.

Heblaw bod yn llwfr, golygai egluro i Enoc, ac ailgodi plwc i fynd eilwaith.

Dyna ydi bod eilwaith yn blentyn, debyg.

Ar daith yr ydym ni ar hyd llwybr na thramwywn drosto eilwaith.

Heb feddwl eilwaith rwyt yn gweiddi: "Teimlaf yn gryf fel llew." "O anhygoel, anghredadwy o wir, gwir, gwir pob gair." Mae Eilir wedi gwirioni ar dy linell.

'Ond William Huws bach mae 'ma hogan yn hwylio i gal babi.' Fel y camai William Huws dros gamfa i gae, a'r hwch hanner o dan ei gesail, gwaeddodd y gyrrwr eilwaith.

Ond arswyd y byd = heddiw bu'n rhaid iddo fynd nôl i edrych yr eilwaith i ofalu nad oedd yn dychmygu pethau.

Fedra i ddim bod yn sicr, ond fe ddywedodd ei fod am fynd i ddawnsio ac y byddai'n hwyr arno'n cyrraedd.' Mi gawn weld,' a heb rybudd taranodd eilwaith.

'Rwy'n digwydd bod yn ffrind da i Ffantasia, a doeddwn i ddim am weld Gwenhwyfar yn colli'i chalon eilwaith.

Yr oedd y nifer fechan a adawyd yn weddill yn ddigon serch hynny, oherwydd yn fuan iawn ar ôl anterth y clwy yr oedd cwningod ar gynnydd eilwaith.

Gwnaeth hyn eilwaith gan roi'r dyrnaid i Klon y tro hwn.

Ac adnabum i ryw raddau bach yn yr awr honno, megis y profais eilwaith flynyddoedd yn ddiweddarach o dan law yr athronydd a'r seicolegydd, Dr David Phillips, (Coleg Diwinyddol y Bala) y cariad sy'n Dod at y truan ("Came where He was"), y cariad sy'n iachau'r meddwl oddi wrth chwerwedd ei bryder.