Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eilydd

eilydd

Y sgôr oedd 1 - 0 i Roma - gôl i'r eilydd Gianni Guigou ddeng munud o'r diwedd.

Yr eilydd Michael Blackwood rwydodd y drydedd wedi 64 munud, a hynny efo'i gyffyrddiad cynta yn y gêm, a roedd y deiliaid gam yn nes at rownd derfynol arall yn y Cwpan Cenedlaethol.

Yna, yn yr amser ychwanegol, sgoriodd yr eilydd arall, David Trezeguet, y gôl fuddugol.

Emile Heskey, Gary McAllister o'r smotyn a'r eilydd Robbie Fowler sgoriodd i Lerpwl.

Yn y gêm honno yn erbyn y Gwyddelod gyda llaw y gwnaeth Ian Rush ei ymddangosiad llawn cynta i Gymru, ar ôl ennill ei gap cynta fel eilydd ddeuddydd ynghynt yn yr Alban.

Yna, naw munud cyn y diwedd, lloriodd yr eilydd Scott Young Liam Lawrence yn y cwrt cosbi.

Daeth Neil Jenkins i'r maes fel eilydd i'r Barbariaid - a heb Jenkins collodd Caerdydd yn annisgwyl o 29 i 11 yng Nghaeredin yng Nghynghrair Cymru a'r Alban.

Yr Eidal aeth ar y blaen gyda gôl Marco Delvecchio, ond wedi 93 o funudau sgoriodd yr eilydd Sylvain Wiltord a ddaeth i'r maes yn lle Christophe Dugarry gan ddod ar sgôr yn gyfatral.

Er i Luke Staton sgorio i'r Barri ychydig cyn yr egwyl a'r eilydd Marvin Blake yn cael un arall cyn y diwedd roedd Wrecsam yn feistri corn.