Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eir

eir

gweithred o drosedd yw pob rhyfel, gan gynnwys rhyfel amddiffynnol, a phan eir i ryfel, meddai, ystyriwch hyn am funud : yn ôl pa safon neu wrth pa fesur yr ydych am reoli eich dialedd fel na fydd yn gallu bod yn fwy na'r union daliad sy'n ddyledus ichwi am yr hasliau a dreisiwyd neu'r anrhydedd a sarhawyd ?

A phan eir ymlaen yn nes at ganol y ganrif, y mae etifeddion yr 'Ymneilltuaeth Newydd', gwyr fel Lewis Edwards, Henry Rees neu ei frawd, Gwilym Hiraethog, mewn gwahanol ffyrdd yn parhau'r cyfuniad rhwng yr hen draddodiad a'r newydd.

Eir allan o'r ffordd ambell waith i ddangos fod ambell ganwriad ac ambell lywodraethwr 'o'n hochr ni'.

Rhestrir nifer y puteiniaid a'r puteindai yn Lerpwl ac eir ymlaen i ddweud:

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Nid eir i fanylu ymhellach yn y llyfr hwn ar sut y mae gramadeg trawsffurfiol yn gweithio.

Wedi i'r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy'n ddealladwy ac apelgar i'r ysgolhaig ac i'r darllenydd cyffredin.