Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eisio

eisio

A 'does arna i ddim eisio bod yn rhy hy - ond gan ein bod ni wrthi hi, beth am y flwyddyn wedyn?' Tri chyhoeddiad ymlaen !

Rhai fel chi sydd arnom ni 'i eisio i wynebu'r ugeinfed ganrif dros lesu Grist." Rhai fel fi!

Dydyn ni ddim eisio bod yn hwyr.

Edrychai arnaf yn rhyfedd cyn troi i fynd i'r gegin gefn fel pe bai arni ofn i mi ei dilyn ond er mod i dest a marw eisio cael sbec ar y dynion yn y parlwr, ymateliais.

Ac yntau'n dod o'r Rhondda ac wedi bod yn athro yn Ysgol Rhydfelen am flynyddoedd, roedd John Owen eisio wynebu'r cwestiwn o agwedd y bobol ifanc at yr iaith.

Does dim eisio cloddio'n rhy ddwfn i'w darganfod.

Y SECT FACH Rhyw ddwy genhedlaeth yn ol fe gododd yna ryw sect ymysg pobl Urmyc oedd eisio medru torri'r penrhyn bychan o wlad oddi wrth gwlad fawr y Noseas.

Mae pobol eisio ichi wnedu rhywbeth i ddal yr headlines yn y pedwar mis cynta' ond y peth anodd yw gwneud y job yn iawn." I raddau, fe greodd y Bwrdd ei broblemau ei hun - yr hyn sy'n drawiadol yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddigwyddodd dros y saith mis diwetha' a rhethreg y Cadeirydd flwyddyn yn ôl yn awgrymu fod byd newydd ar fin gwawrio a fod yr haul hwnnw'n debyg o godi o ran arbennig o anatomi aelodau Bwrdd yr Iaith.

"Oeddan nhw eisio rhywle a oedd yn edrych yn debyg ­ Cheapside yn Llundain ers talwm ac er nad oeddan ni wedi meddwl bod Caerffili yn debyg ­ Lundain, ryden ni'n falch iawn eu bod nhw wedi dod yma.

dacia, i be' oedd eisio i ti ddwad i'r lle 'ma 'rioed?

Ond roedd o eisio mynd yn ôl i'w gartre yn fwy na dim.

'Dwyt ti ddim eisio gwneud dim yn ddiweddar.'

'Does eisio dim ond agor y llyfr i weld mai siap siarad sydd arno.

Os ydy o'n dweud dim, mae hynny'n meddwl nad ydy o'n meddwl rhyw lawer o'r englyn neu mae o eisio newid rhywbeth.

Emrys Ifans ydi 'i enw fo, ac mae o'n byw yn Cae Gwyn, ac os oes ar rywun eisio gwybod chwaneg yn ei gych o, mi gaiff ofyn i mi.

Mae arnaf i eisio iti gael crefft.' 'Mi faswn i'n leicio bod yn saer ym Mhenmaenmawr' Roedd yna siop saer fawr pryd hynny yn perthyn i Hugh Williams, ac fe aeth Mam ato i holi a oedd ganddo le i brentis.

Eisio chwerthin oedd arna i, ond 'roedd y dyn druan wedi cynhyrfu trwyddo, ac yn methu gwybod beth i'w wneud.

"Rois i gweir i neb, 'rioed." "Fydd dim eisio i ti gwffio," meddai Capten.

Os bydd eisio mwy na hynny, mi fydda i yno wrth d'ochor di.

'Ydi hanner coron yn ddigon i dalu am het pregethwr, deudwch?' Twt lol,' atebais, "does dim eisio ichi dalu dim.

'Pwyntiau ydan ni eisio rwan.

"Os oes ar rywun eisio cweir, mi ro i hi iddo fo." Trois fy mhen i edrych pwy oedd wedi f'achub, ac er syndod mawr i mi, gwelais mai un o fechgyn y siwt lwyd oedd ef.

Wedyn y cwbwl sy eisio'i wneud ydi codi un o'r carpedi teils yn y gongol bella, uwchben llofft Modryb, a chrafu'r llawr efo siswrn neu rywbeth.