Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eitemau

eitemau

Bu dysgwyr o sawl rhan o Geredigion yn cymryd rhan a chawsant fudd mawr wrth baratoi'r cystadlaethau ysgrifenedig ac eitemau llwyfan.

Y mae rhai eitemau yn y cyfrifon sy'n eu cynnig eu hunain ar unwaith fel rhai allweddol.

Hefyd, mae un cas arbennig wedi'i neilltuo ar gyfer eitemau dros dro, sy'n awr yn cynnwys eitemau ar fenthyg oddi wrth Gymdeithas Hynafiaethau Ynys Môn.

Ar yr un pryd, paratoir cyllideb yn dangos y nifer o eitemau a werthir, fel a ganlyn:

Bu gan Fangor ei gyfraniad i'r maes hwn hefyd o'r dechrau bron, gydag uned ffilmiau yn anfon eitemau cyson i Gaerdydd neu Fanceinion ar gyfer 'Heddiw' yn y chwedegau cynnar.

Cyfrannodd BBC Cymru gyfres o gerddoriaeth arbenigol ar Radio 2 am y tro cyntaf yn ogystal ag eitemau nodwedd.

Mwynhawyd yr eitemau gan bawb a bu'r dydd ar ei hyd yn llwyddiannus dros ben.

Cadw cydbwysedd rhwng y gwahanol eitemau sy'n bwysig.

Gyda'r amrywiaeth helaeth o eitemau sydd yn yr oriel barhaol, y gobaith yw fod rhywbeth yno at ddant pawb.

Cafwyd eitemau gan y disgyblion a chanwyd penillion a gyfansoddwyd gan Miss Delyth Jones i ddathlu'r amgylchiad.

Y golygydd hefyd sy'n gyfrifol am olygu'r eitemau ffilm a anfonir i'r stiwdio bob dydd gan ohebwyr mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Ni chafodd yr Arwerthwyr ond symiau bychain am yr holl eitemau a phrynwyd y rhan fwyaf ohonynt gan gynrychiolwyr yr Iarll.

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

Aethpwyd ati wedyn i lunio rhestr enghreifftiol o eitemau, a gynrychiolai lefel sylfaenol o fedrau, y byddai ar oedolyn ei hangen ar gyfer bywyd proffesiynol a chymdeithasol mewn cymuned Saesneg.

Oherwydd y diofalwch hwn, mae hen gatalogau'n eitemau prin.

Rhoddwyd eitemau yn ystod y Gymanfa gan aelodau o Gôr Cymysg Morgannwg Ganol a'u harweinydd Mrs Kate Francis.

Cafwyd eitemau gan barti o bobl ifanc o gylch Carmel a Llanrwst.

O safbwynt cyllido'r broses cynhyrchu gan yr Adran, y sefyllfa hanesyddol yn y canolfannau adnoddau yw bod rhai grantiau yn cefnogi cyflogi staff yn ganolog er mwyn darparu clwm o brojectau a bod grantiau eraill yn cefnogi staffio a phrojectau penodol fel eitemau ar wahân.

Roedd y newidiadau eleni yn cynnwys cyflwynwyr newydd i'r Post Cyntaf - sef Rhaglen Materion Cyfoes y flwyddyn yng Ngwobrau BT i'r Wasg Gymreig - mwy o fwletinau ac eitemau newyddion cyn 7am, wedi eu cyflwyno gan un o bersonoliaethau poblogaidd Radio Cymru, Dei Tomos, yn ogystal â dau gyflwynydd ifanc newydd - Alun Thomas a Rhian Jones.

Gwelwyd nifer o artistiaid talentog iawn yn cyflwyno amrywiaeth eang o eitemau.

Pa fath o eitemau?

Sefydlu nifer o golofnau rheolaidd i sicrhau erthyglau cyson -- eisoes mae colofnau Cysylltiadau Rhyngwladol a Pwy Uffar Yw...? wedi ymuno ag eitemau rheolaidd eraill fel y Cadeiryddol a thudalen Mr Mwydyn.

Maes o law dododd ef yr eitemau hyn ar werth eto a gwerthodd Bwll Gaunt i gwmni stanley o Ogledd Lloegr a rhain yn allforio'r glo o'r doc newydd.

Byddai'r eitemau mwyaf distadl a wnaeth wedi eu rhestru, fel gosod pedol ar esgid, neu glipyn newydd ar ei blaen.

Un o'r eitemau newyddion a oedd o ddiddordeb mawr i Gymry oedd datblygiad Rhyfel Cartref Sbaen.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.

Ceir hanes gweithgareddau diweddaraf Mynydd Parys yn yr Oriel gydag eitemau o offer y mwynwyr a dillad arbennig y "copor ladis" (sef y merched a weithiai dan amodau dychrynllyd yn y gwaith) wedi eu gosod ymhlith samplau o gerrig mwynol o'r mynydd.

Mae'r eitemau'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn.