Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elfennol

elfennol

Fel Grundtvig yn Denmarc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cysylltodd "AE" athroniaeth elfennol cenedlaetholdeb ag "egni ymarferol".

Dowch felly am funud i ymdrin â phwynt gramadegol digon elfennol.

Gwir hefyd fod llu mawr o ysgolion preifat ym mhob cwr o'r wlad yn cynnig rhyw fath o addysg elfennol.

Ac ar lefel fwy elfennol yr oedd pawb yn awyddus i fwynhau, neu ail-fwynhau yn ôl eu hoedran, bleserau a moethau a gafwyd cyn y rhyfel.

Problem elfennol iawn ydi'r drydedd, Lludd annwyl.

Yn ystod yr haf, cyhoeddir Ystadegaeth Elfennol (Gwasg Prifysgol Cymru) gan y Dr Gwyn Chambers sydd yn ddarllenydd yn Adran Fathemateg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Er eu bod yn elfennol ac wedi eu bwriadu i gychwyn plant bach yn yr ysgolion Sul, ni ddylid eu diystyru.

Yn sicr, doethineb elfennol ar ran y neb a fynnai ei mentro hi a fyddai gwisgo helm i ddiogelu ei benwendid.

Williams a drosodd The National Being i'r Gymraeg ("Y Bod Cenhedlig"), canys yr oedd ychydig egwyddorion elfennol, eglur yn ddigon iddo ef, a ystyriai weithredu gwleidyddol yn ddyletswydd flaenaf.

Deddf Addysg yn gosod ysgolion elfennol dan reolaeth cynghorau lleol.

Hytrach yn elfennol oedd pensaerni%aeth tai annedd yr ysgwieriaid o hyd, er bod eithriadau i'r rheol hon hefyd a'u bod fel dosbarth yn dysgu'n gyflym.

Fel arfer, er mai'r iaith swyddogol yn unig oedd cyfrwng yr ysgolion uwchradd, dwyieithrwydd oedd y drefn yn yr ysgolion elfennol.

Y mae ei gynnwys yn elfennol ond yn ddiddorol.

Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.

Mynnodd gennyf ddilyn y gwersi Cymraeg yn yr ysgol elfennol, ac wedyn yn yr High School 'roedd yn rhaid i mi gymryd y Gymraeg fel pwnc.

Un peth trawiadol yw fod amryw o'r ymarferion darllen mwyaf elfennol wedi goroesi hyd yr ugeinfed ganrif a dyma oedd ein darllen Cymraeg cyntaf yn hanes llawer ohonom.

Dilynodd ef yn elfennol ddigon y dull Ffrengig a nododd doriad pob edefyn yn ffurfiol: ei chwedl ef hyd yma; cyfranc Geraint hyd yma, llyma weithion fal ydd heliawdd Arthur y carw; eu chwedl hwynt hyd yna.

Yn y cyfnod hwn edrychid ar addysg elfennol i'r ferch fel cyfrwng i'w pharatoi i fod yn wraig tŷ a mam effeithiol.

Edrychodd ar y llyfrau ar y silff, "Taith y Pererin", Y Llyfr Gweddi Gyffredin, llyfr symiau ysgol elfennol a geiriadur Saesneg ceiniog.

Mae hefyd yn dangos yn eglur greddfau naturiol yr artist yn Judith - yr angen i ddehongli pethau yn eu ffurfiau mwyaf elfennol, i ymdoddi i mewn i fyd natur yn hytrach na'i orchfygu, ac i gario synnwyr o sensitifrwydd ar bob achlysur.