Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elisabeth

elisabeth

Ond ar ôl oes Elisabeth y Gyntaf ni ddywedwyd hynny cyn amled yn Gymraeg.

Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.

Cafodd y fraint o arlwyo gwledd i'r ddiweddar Frenhines Mary, ac wedi hynny, i'r Dywysoges Elisabeth (fel y'i gelwid bryd hynny), y Tywysog Philip, yr Arglwydd Mountbatten a llu o enwogion eraill, megis Mrs Eleanor Roosevelt, Syr Winston Churchill a Dug Caerloyw.

Gwelai'r gwladweinydd pa beth a ddylid ei wneuthur er mwyn argyhoeddi llywodraeth y Frenhines Elisabeth fod rhaid cael caniatâd a chefnogaeth swyddogol er mwyn llunio'r cyfieithiad.

Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân.

Mae'n rhaid cyfaddef mai adar digon brithion oedd y rhain ac, fel cynifer o uchelwyr oes Elisabeth, yn fachog am diroedd ac eiddo.

'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

Roedd gan y Frenhines Elisabeth I, hyd yn oed, alcemegwr llawn amser yn ei llys ond mae'n amlwg na fu ef yn llwyddiant mawr, oherwydd cael ei gau yn Nhwr Llundain fu ei ddiwedd ef.

Gosodwyd ei weddillion yn y gladdgell ym mynwent eglwys Penbre ac yno y mae gweddillion y Bowsers o'r cylch i gyd ar wahân i'w ferch Elisabeth.

Mae'n wir nad oedd e mor dal a'i frawd Edward nac yn debyg i'w dad fel yr oedd Henry a doedd e ddim mor hoff o lyfrau ac addysg a'i chwaer Elisabeth, ond serch hynny i gyd roedd Mary'n siwr y byddai ei hetifedd yn dod yn wr doeth, anrhydeddus un diwrnod - yn deilwng o enw ei dad, Richard Games.

Yr hyn a barodd y gofid mwyaf i Elisabeth ai thad-cu oedd bod byddin y Senedd yn cyrchi i Frycheiniog am fod Brenhinwyr Dyffryn Wysg yn bygwth codi a chipio Aberrhonddu.

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Yr oeddent wedi derbyn cymrodeddau trefn newydd Elisabeth ond gan resynu o'u herwydd.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

A phan ddaeth Elisabeth i'r orsedd prin bod pump y cant o'r holl glerigwyr yn unrhyw fath o Brotestaniaid.

Roedd Thomas Pritchard ac Elisabeth wedi eu harswydo o glywed ei atebion.

Torrodd hyn ar draws myfyrdod Elisabeth Games, merch plas Bodwigiad.

Erbyn bod Penri'n gorffen ei goleg, yr oedd y to cyntaf o esgobion a benododd Elisabeth yn prysur gilio i'r cysgodion.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Ty Cendros.

Beth bynnag, priododd ei fan hynaf, Thomas a Mary Elisabeth Morgan o Ynys y Bwl, morwyn yn nhafarn Y Griffin, Pentre a bu iddynt naw o blant.

A'r dydd hwnnw oedd dydd swyddogol dathlu Jiwbili Arian yr Elisabeth a gynrychiolid gan yr 'E'.

Yn un o ddeg o blant i Elisabeth Ann Thomas a Rhys Thomas.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.

Fe wyddom heddiw nad a ddywedid ar goedd ac ar brint oedd gwir farn amryw byd o ddeiliaid Elisabeth y Gyntaf.

Nid oedd Elisabeth yn ymwybodol o fod dan faich.

Yn bedwerydd, dyma'r cyfnod pryd y daeth Davies i gysylltiad agos â dynion a fyddai'n rymus iawn mewn byd ac eglwys yn ystod teyrnasiad Elisabeth.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Tŷ Cendros.

Er hyn i gyd, bu cyfnewidiad annisgwyl mewn deddfwriaeth yn Oes Elisabeth.