Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elwid

elwid

Bodiais yr ystyllen fregus a elwid yn rhwyf a syllu'n hir ar linellau'r ewyn yn ymestyn o flaen y gwynt.

Buwyd yn paratoi testunau a elwid Bibliae Pauperum (Beiblau'r Tlodion), sef crynodeb o lyfrau hanesyddol y Beibl; a cheir testun Cymraeg o'r fath a elwid Y Bibyl Ynghymraec er nad Beibl mohono yn ein hystyr ni.

Cyn bod sôn am godi'r argaeau hyn yr oedd hen wraig hynod a elwid yn Gwenno Cwm Elan a ragfynegodd y datblygiadau newydd.

Yno cawsai weld mewn llawysgrif destun crefyddol hynod ddiddorol a elwid 'Y Beibl yn Gymraeg'.

Y mae awgrym yn Genesis o gyfathrach rhwng merched dynion a bodau goruwchnaturiol a elwid yn ddemoniaid.

Yr ymwybyddiaeth honno oedd yn y fantol bellach ac nid y darn o dir a elwid ar fap yn 'Gymru'.

Yn y cyfnod bore, ymestynnai'r wlad a elwid yn Forgannwg o Abertawe i'r afon Wy, a chynhwysai Erging ac Ewias, sydd bellach yn rhan o sir Henffordd.

A hyd yn oed pan fethai hynny yr oedd modd ystumio'r gyfraith Gymreig (drwy ddyfais a elwid prid er mwyn cyrraedd yr un nod.

Saer oedd Sefnyn a elwid yn 'Pab' yn ogystal am ei fod yn pledio rhyddid i Gatholigion, ac wrth gwrs iddo ef, roedd Gwrtheyrn nid yn unig yn fradwr i achos Gymru, ond yn fradwr i weddillion trefn y Rhufeiniaid yn ynys Prydain.

Rhwng godre'r graig a'r ffordd mae llecyn brwynog lle gynt y bu ffynnon a elwid yn Ffynnon y Brodyr - mwy am honno yn y man.

Y Prif Weinidog, James Callaghan, yn gorfod derbyn yr hyn a elwid yn 'lib-lab pact' yn hytrach na galw Etholiad Cyffredinol.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Yr Heddlu yn apelio am gymorth i ddod o hyd i lofrudd a elwid y 'Yorkshire Ripper'.

Daeth i sylweddoli fod Gwion yn unigolyn, yn berson a oedd yn hoffi llwyddo, ac fel yr esbonia Gwynn, 'nid yn rhan annatod o'r cyfundod a elwid y mentally handicapped.' Daeth yn weithgar gyda Chymdeithas Mencap Caernarfon a'r cylch.

Ac fel yr oeddwn yn cydyfed gydag eraiU mewn un ty tafarn, cynigiodd un o'r cwmpeini sofren i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnnw fynd.

Ochr yn ochr â'r offeiriaid 'secwlar' hyn - hynny yw, y rhai a arhosai yn y 'byd' er mwyn gofalu am y plwyfi - yr oedd dau fath o wŷr eglwysig a elwid yn 'grefyddwyr'.

Yr oedd Miss Lloyd yn asiant, medden nhw, i ryw gwmni a elwid yn Copper Trust, a oedd a'r amcan o ail-agor y gwaith copr yn yr ardal.