Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elyniaethus

elyniaethus

Pabyddes deyrngar oedd Mari, wrth gwrs, ac yn hynod elyniaethus tuag at Ddiwygwyr.

Roedden nhw mewn gwlad oedd yn hollol estron - y brodorion yn elyniaethus ac yn mynnu siarad eu hiaith ryfedd eu hunain.

Waeth pa mor elyniaethus ac anodd yw'r amgylchedd allanol, cyn belled a bod gennych reolaeth a dewis dros eich systemau

Y gri i ddiwygio'r Eisteddfod yn uchel drwy'r cyfnod ( gan gyfateb i'r gri i ddiwygio Cymru ei hun ), nes cyrraedd uchafbwynt yn Eisteddfod Machynlleth pan unwyd y ddwy elfen elyniaethus, Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd, yn swyddogol, a ffurfio corff newydd, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a gosod yr Eisteddfod ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol.

Felly, nid yw'r prinder dylanwad clasurol yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg yn dangos o reidrwydd iddynt fod yn anghyfarwydd â'r clasuron, neu yn elyniaethus iddynt; gallai olygu yn unig nad oeddynt yn teimlo'r angen i'w dynwared.

Pan symudodd y milwyr i glirio pobl oddi ar y lein, trodd y dyrfa'n elyniaethus.

Dim ond un peth oedd ar feddwl pob un o drigolion y dref - roedd byddin bob amser yn newynog - boed hi'n gyfeillgar neu'n elyniaethus - ac roedd disgwyl i fyddin fyw ar y wlad roedd hi'n teithio drwyddi.