Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

emynau

emynau

i dynu cynulleidfa ato i gydfeddwl ag ef, yn ei bregethau a'i emynau'.

Mae'r emynau yn newydd, y marwnadau yn gorff o gofiannau newydd, yr oedd Bywyd a Marwolaeth l~fon-emphus yn waith newydd' nad oes un platform iddo yn Saesonaeg, Cymraeg, nac yn Lladin', ebe'i awdur.

Mae'r emynau hynny yn rhan o wead cof ac ymadrodd nifer fawr ohonom, yn arbennig felly y rheini a faged gyda'r Annibynwyr.

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

Gosodwyd un o'r testunau ar gais 'Eglwysi Dwyfundodwyr Deheubarth' a oedd yn brin o emynau addas ar y pryd.

Dewiswyd yr emynau gan bwyllgor o'r gwahanol gapeli a'i ysgrifenyddes Mrs Helena Charles o Flaengarw.

Emynau'r credadun cyffredin yw ei emynau ef, nid emynau'r enaid ysig ar wahan.

Yn ystod deng mlynedd olaf yr hen ganrif a deng mlynedd cyntaf ein canrif ni fe werthwyd miliwn o lyfrau emynau Cymraeg, - miliwn o lyfrau emynau ymhlith poblogaeth o ddwy filiwn, a dim ond hanner y rheini'n medru Cymraeg.

Efallai taw wrth ddarllen a golygu'r emynau a gadwyd (ac a wrthodwyd) yma y dechreuodd ymddiddori yn yr emyn Cymraeg.

Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.

Y mae emynau diweddar yn brin ac yn deneu....

Un o'r emynau mwyaf poblogaidd yng Nghymru ers blynyddoedd yw'r emyn sy'n dweud,

Mae'n wir na all emynau Elfed fyth gystadlu ag ysblander rhai o emynau Ann Griffiths, dyweder.

Yn sicr, un o nodweddion amlycaf emynau Elfed yw eu gallu i gyfannu cynulleidfa drwy son am y profiad a'r dyhead amgyffredadwy.

Yn wir, dyna'r thema a ysbrydolodd ei emynau mwyaf cofiadwy, fel yr ysbrydolodd ei gân fawr Golwg ar Deyrnas Crist.

Deuthum o hyd i drysorau lawer yno - casgliad mawr o lyfrau Williams Pantycelyn, Morgan Rhys, yr emynydd, Nathaniel Williams (y gūr y cafodd Ann Griffiths y clod am rai o'i emynau), Thomas Dafis, Argoed, Phylip Dafydd, Dafydd Williams, Llandeilo Fach, John Thomas, Rhaeadr Gwy, a Dafydd Jones o Gaio.

Yr oedd cyflwyno emynau ac emynwyr Cymraeg i'r Saeson yn genhadaeth ganddo: lluniodd, ymlith pethau eraill, gyfres o ysgrifau ar emynwyr Cymru i Sunday at Home, a'u cyhoeddi ynghyd wedyn dan y teitl Sweet Singers of Wales.

Adlais ddiflanol o emynyddiaeth y ddeunawfed ganrif yw y nifer ddibwys o emynau gynyrchwyd yn ddiweddar, yn lle llais byw, penderfynol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Perygl rhai beirniaid fu dibrisio'r emynau oherwydd hynny.

Ar un adeg fe wyddai amryw ohonynt rywbeth am emynau ac am y Beibl, neu'n hytrach am adleisiau briw o'r pethau hyn yn nofio yn y gwynt.

Daeth Sam i mewn yn canu emynau, tua deg o'r gloch, a thrwy drugaredd aeth yn syth i'w wely.

Ioan, a chanolbwyntiodd y Parchedig William Morrey ar Charles Wesley a chanwyd amryw o'i emynau.

Brysiodd yn ffrwcslyd tua'r sêt fawr, agor y llyfr emynau, ledio pennill a dweud wrth y gynulleidfa, 'Gellwch chi canu hwn ar eich tina.' Ar ganol ei bregeth un pnawn trymaidd, tynnodd o boced ei wasgod ffiol fechan o wydr.

A rhan fechan o gynnyrch Williams oedd yr emynau.

Bob tro y'i gwelaf yn y llyfr Emynau 'rwy'n cofio fy nghyfaill a finnau yn ei ganu, ganol nos, yn yr oerfel, o flaen rhyw dy neu fferm yn y wlad.

Credai y dylid gorseddu gobaith mewn emynau, er mwyn eu gwneud yn llais gwirioneddol i brofiad eu hoes: Y mae yr Eglwys Gymreig heddyw yn byw yn helaeth ar emynyddiaeth y gorphenol.

Mae'r llyfr bach hwn yn cynnwys nifer o enghreifftiau o'i waith fel cyfieithydd emynau, yn eu plith gyfieithiad nodedig o dda o 'Dyfroedd Bethesda' Thomas William.

Ac emynau i'w canu oeddent, wrth gwrs.

Mae'r presenoldeb corfforol yma gyda ni o hyd rywsut, heb son am bresenoldeb gair a meddwl drwy'r emynau.

Prin bod yn yr emyn lawer o nodau'r Elfed aeddfed, ond y mae'n rhagredegydd i gyfangorff yr emynau mewn ffordd arall.

Mae'r hyn sy'n wir am ei waith yn ei gyfanrwydd yn wir hefyd am ei waith yn y maes emynyddol, ac yma, gwelir y cydblethu'n digwydd amlycaf yn y pwyslais a roddodd Elfed ar gyfieithu a chyfaddasu emynau.

Cyfieithodd dair nofel o'r Ffrangeg gwreiddiol i'r Gymraeg i'w defnyddio mewn llyfrgelloedd yn unig, a throsodd nifer o emynau a chaneuon o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Ac er bod dyn ifanc di-goesau yn begera wrth borth y capel yn Laitumkhrah, roedd y llyfr emynau o roddwyd imi ar ddechrau'r gwasanaeth yn llwythog gan enwau cynefin: Treforus, Cwm Rhondda, Rhosymedre, Abertawe, Capel y Ddôl, Blaenwern...

Ac nid heb achos oherwydd ar ei orau cyrhaeddodd safon uchel ac fe'n bendithiwyd ag emynau a thonau i ysbrydoli canu da.

Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.