Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

emyr

emyr

Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.

Ceisiodd Carol lunio rhestr neges yn ei phen fel y gallai ei throsglwyddo i Emyr dros y ffôn.

Rwyn blês iawn i fod nôl yn y garfan, meddai Emyr ar y Post Cyntaf y bore yma.

Ond pan oedd hi wedi cau'r drws ffrynt yn glep ar brotestiadau Emyr a chychwyn ar ei thaith, roedd Carol wedi disgwyl - nage, wedi cynllunio - y byddai Guto'n siŵr o syrthio i drwmgwsg y munud y byddai'r car ar y draffordd.

Erbyn i Emyr Afan ymddangos gyda Tom, Kelly, Stuart a Cerys datgelir mai Larry Adler yw'r henwr anhysbys.

Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd Carol wedi bod yn gyrru ar hyd y draffordd am dri chwarter awr cyn iddi gyfaddef wrthi'i hun mai Emyr oedd yn iawn ac mai ffolineb oedd ymgymryd â'r fath siwrnai hebddo fo.

Dusty Springfield, Stanley Kubrick, Dirk Bogarde, Cardinal Basil Hume Syr William Lloyd Mars-Jones, Emyr ( Feddyg) Jones, Meredith Edwrads, Elfed Lewis, Peter ( Goginan) Davies, Guto Roberts, Ioan Bowen Rees, Mathonwy Hughes, J.E.Caerwyn Williams, Raymond Edwards, Elen Roger Jones, Ifor Wyn Williams, Dick Richardson, Moc Morgan, Clive Jenkins, Esme Kirby, Syr Harry Llewellyn, Harriet Lewis, Eirene White, Gwyn Jones( Llenor ) yn marw.

Canodd a chanodd y gloch unwaith yn rhagor, ond ni ddaeth llais cyfarwydd Emyr i'w chlyw.

Dros y blynyddoedd aeth baich gofalu am weithgareddau drama'r Eisteddfod yn gynyddol drymach a theimlodd Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar y pryd, y dylid ysgafnu rhyw gymaint ar lwyth gwaith ei Drefnwyr yn y De a'r Gogledd.

Pob dymuniad da i Bethan Lewis, Yr Acer, Rhys ab Owain, Glyn Uchaf ac Emyr Lewis , Ty'r Llythyrdy sydd wedi symud i Ysgol Y Creuddyn.

Ac eto, onid oedd Emyr, fel Carol, wedi gweld yn ddiweddar fel y gallai'r person mwyaf cariadus a ffyddlon droi ei gefn ar briodas hapus yn sydyn ac anesboniadwy?

A'r ennyd honno fe'i cafodd Carol ei hun yn difaru nad oedd Emyr yno.

Yr ail am y Gadair oedd Tudwal Davies, Pwllheli, ac enillodd ei fab, H. Emyr Davies, y Goron yn yr un Eisteddfod.

Doedd bosib fod Emyr yn credu ei bod hi wedi ei adael go iawn, ei adael am byth, jyst fel'na, ar fyr rybudd?

Fe fyddai Emyr wedi medru dweud wrth ei fam-yng-nghyfraith yn ddigon plaen, er yn gwrtais, eu bod nhw wedi ailystyried ac na fyddent wedi'r cwbl yn dod i dreulio'r Nadolig yn Nhyddyn Ucha' eleni.

A dyna Emyr yn dod i mewn i'r gegin i chwilio am yr esgidiau sboncen roedd hi wedi eu glanhau ar ei gyfer a'i chlywed hi'n dweud wrth ei mam y byddent yno erbyn amser te.

Yn ôl Emyr Lewis o reng ôl Caerdydd does dim amheuaeth na fydd hi'n gêm galed.

Yn y garej hefyd y dechreuodd y berthynas ffrwythlon rhwng Wil Sam ac Emyr Humphreys, a oedd yn athro ysgol ym Mhwllheli ar y pryd.

Dymunai Gerallt Lloyd Owen roi'r Gadair i Emyr Lewis.

Mae'r dorf yma yng Nghaerdydd yn frwdfrydig iawn, meddai Emyr ar y Post Cyntaf.

'Dyna ddigon rwan,' meddai eu mam, mewn llais a weithiai bob tro yn achos Emyr.

TROEDLE CADARN I'R GYMRAEG - Yr angen am Ysgolion Cynradd Cymraeg penodedig yn y Fro Gymraeg - Emyr Hywel

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

Thomas ac Emyr Humphreys.

Emyr Lewis, mab Allan Lewis, fydd ar yr asgell.

Mae'r clipiau sain (Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer BBC Cyrnru) o'r rhaglenni hefyd yn rhoi ffocws ar y cymeriad dychmygol, Mr. N. Ff. Ithiel, sef rheolwr aflwyddiannus, ac ar sut y mae o'n gwneud cawl o bob dim! Cymeriad wedi ei greu gan yr actor a'r comedïwr Emyr Roberts yw N. Ff. Ithiel - cymeriad sy'n gwrthgyferbynnu â'r rheolwr llwyddiannus, Mr. Ff. Ithiel, fydd yn dangos i ni sut i wneud pethau'n iawn.

Un o'r prif straeon oedd brwydr Grace Llywelyn (Betsan Llwyd) i gael ei hail-gartrefu oherwydd bod ein chartref hi a'i gwr Bob (Emyr Wyn) yn llawn damprwydd.

Ar fy ffordd adref euthum yn unswydd heibio i goleg Bangor er mwyn eu dangos, gydag ôl glud y labelau arnynt, i Dr Tom ac Emyr Gwynne Jones.

Ond Carol a ffoniodd, nid Emyr.

Mae dau newid arall ymhlith y chwaraewyr eraill - Craig Williams yn lle Gareth Thomas ar yr asgell ac Owain Williams yn lle Emyr Lewis yn safle'r wythwyr.

Emyr Lewis oedd yr ail orau.

Ai felly yr ymddangosai i Emyr?

Mae Emyr Lewis wedi profi gêm Caerdydd a Llanelli o'r ddwy ochr ac i'r ddau glwb.

Gwyddai Carol, yr eiliad honno, na fedrai wynebu gweddill y siwrnai heb Emyr, heb sôn am dreulio'r Nadolig a'i phenblwydd hebddo.

Petai Carol ond wedi gadael i Emyr ei ffonio hi neithiwr, ni fyddai'r un ffrae wedi bod ac ni fyddai hithau'n sefyll yn yr hen le annifyr yma'n disgwyl ei thro i gael ymddiheuro i'w gŵr.

Ond wedyn penderfynodd mai'r peth gorau iddi ei wneud oedd gadael y rhan fwyaf o'r siopa tan yfory a gofyn i Emyr brynu twrci a choeden yn unig i ddechrau.

Emyr Davies, y Goron yn yr un Eisteddfod.

Rhagflaenydd Mr Owen, Tanrallt oedd tad Emyr a Mair Jones, Tegfan gynt.

Gelwais draw y dydd o'r blaen ac wrth sgwrsio gydag Emyr y fforman a Meic y mecanic, daeth y prysurdeb a fu yn fyw i'm cof.

Yr oedd Emyr Lewis ymhlith y goreuon.

Gellir dehongli Ifans yr Wythdegau a'r Punk (Dafydd Emyr) fel rhai yn cael eu rheoli gan agweddau caled masnachol, a'r ddau yr un mor ofnus a chythryblus eu meddwl ac ar drugaredd newidiadau cymdeithasol.

Bu Martyn Morris yn amlwg droeon, ond ni welwyd cymaint o Emyr Lewis (Emir oedd ei enw bedydd yn y rhaglen, gyda llaw) yn yr hanner cyntaf, ond fe daclai Marc Perego cyn galeted ag arfer.

Y cwbl yr oedd arni eisiau ei wneud oedd ffonio Emyr i ymddiheuro am y ffrae.

Mae rhai awduron Saesneg - Emyr Humphreys yn un - sy'n hyddysg gyfarwydd a llenyddiaeth Gymraeg y gorffennol.

oedd e yn ein ty y noson cyn y Frawdlys yng Nghaerfyrddin lle'r dd Emyr fy mab i sefyll 'i brawf am ddefnyddio ffrwydron yn hryweryn.

Yr ydym yn dathlu'r ffaith fod yr hyn oedd yn hen ffatri Corona wedi ei drawsnewid yn ganolfan newydd, state of the art i'r cyfryngau a thalent newydd y byd cerddorol gan Emyr Afan ai gwmni, Avanti.

Brysiodd i fwyta ei chig seimllyd a'i salad llipa er mwyn gallu ffonio Emyr i sôn am ei phenderfyniad.

Roedd hi wedi bod mor siŵr y byddai Emyr yno ar bigau'r drain yn disgwyl iddi hi un ai ffonio neu ddychwelyd.