Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enedigol

enedigol

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Tyfodd Rhian i fod yn drefnydd Sir Ddinbych cyn dod yn ôl i gyflawni'r un gwaith yn ei sir enedigol, ac y mae hi wrth law o hyd.

Fe wyddai gystal â neb am wleidyddiaeth, ac y byddai Genoa o bryd i'w gilydd yn cyflawni rhyw gamwri yn y rhyfel masnach â Fenis, ac y byddai'r elynddinas honno yn ei thro yn gwasgu ar ei chynghreiriaid er mwyn gwneud pethau'n anodd i'w ddinas enedigol yntau.

Nyrs oedd hi wrth ei galwedigaeth ac yn enedigol o'r Rhondda.

Gwaetha'r modd nid oedd eu mapiau yn dangos y bobl oedd yn rhan o'r tir na'u teimlad o berthyn i'w bro enedigol, na'u hatgofion yn ymestyn yn ôl dros y cenedlaethau at eu hen, hen hanes.

Yn enedigol o Ohio, Connettticut, mae bellach yn gwneud Astudiaethau Celtaidd ym mhrifysgol Harvard - ac yn darlithio'n rhan amser yn y Gymraeg.

Glynne Davies am ennill y Goron yn ei dref enedigol ac am osod safonau newydd i feirdd newydd ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Dilynodd Yn ôl i Berlin Marion Loeftler (yn wreiddiol o Berlin ond bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithio yn Aberystwyth) ar daith ddadlennol yn ôl i'w dinas enedigol.

Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai.

Roedd Megan yn enedigol a Drefriw, yn ferch hynod o hoffus a charedig.

Roedd Mrs Williams yn enedigol o Drefriw a glynnodd yn ei hardal gydol ei hoes.

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

Mae'r uchelwyr Cymraeg yn dal i deimlo diddordeb ym materion eu hardal enedigol ond y maent ar yr un pryd yn dod yn aelodau cyflawnach o'r sefydliad canghennog a grewyd gan y Tuduriaid i asio Cymru wrth Loegr.

Wedi mis yn Saudi Arabia, ro'n i wrth fy modd o gwrdd â Chymry Cymraeg tua'r un oed â mi a oedd yn gyfarwydd â Llanbed, neu Lanfairpwll, heb sôn am fy nhref enedigol, Caerdydd.

WYN JAMES sy'n dweud hanes Sais a Chymro a fu'n allweddol eu cyfraniad at gywyd diwylliannol Cymru yn y ganrif ddiwethaf, yn naill yn Esgob Tyddewi ar adeg pan oedd yr Esgobaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o ddalgylch yr Eisteddfod, a'r llall yn un o'r 'hen bersoniaid llengar' ac yn enedigol o'r ardal.

Ni fydd Jason Jones Hughes, canolwr Cymru sy'n enedigol o Awstralia, yn chwarae i Gasnewydd yn erbyn Castell Nedd yn rownd derfynol Cwpan y Principality brynhawn Sul.

Y Stori Mae stori Dafydd yn troi o amgylch y prif gymeriad, Dafydd: bachgen ifanc hoyw, sy'n dianc o awyrgylch gyfyng a chul ei dref enedigol ym Mhontypridd i geisio rhyddid yn ninas Amsterdam.

Clodforwyd T. Glynne Davies am ennill y Goron yn ei dref enedigol ac am osod safonau newydd i feirdd newydd ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Yn enedigol o Ystradgynlais, mae hi bellach yn byw yn Abercraf ac yn gyfarwydd i fwyafrif pobol Cymru fel Olwen, un Pobol y Cwm.

Roedd yn enedigol o Sir Gaerfyrddin ac yn feddyg medrus a chymeradwy.

Roedd hi'n enedigol o Nantyffyllon, yn ferch i Howell a Mary Williams a gadwai siop groser yn y pentre ac yn selogion yng Nghapel Salem.

Roedd yn enedigol o ardal Warrington, Sir Gaerhirfryn, a bu'n trigo yn Nhrefriw dros ugain mlynedd.

Yr oedd wedi byw bywyd crwydrol braidd am lawer o flynyddau, weithiau yn Llanwrtyd, yn enwedig yn yr haf, ond bob gaeaf braidd yn dod adref i gymdogaeth Ammanford a Llandybi%e, ei hen ardal enedigol .

Ceir hefyd stori sydd wedi ei seilio ar un o lythyrau Kate Roberts i Saunders Lewis lle mae hi'n difrïo tref enedigol yr awdur (yn rhyfedd ddigon) ac yn dweud yr hoffai chwythu Aberdâr i'r cymylau.

Rhydd y Penwyn foliant i bob un o'r siroedd yn ei thro, a dywed am ei sir enedigol fod 'mawr gynnal' yno, ac aur ac arian 'Yno hefyd yn hafog'.

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.