Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

engadin

engadin

Ond i mi, os oes hafal y goleuni glasfelyn sy'n ffrydio trwy'r Engadin o'r gorllewin ddiwedd prynhawn dros aber a moryd Afon Mawddach y daw hwnnw.

Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.

Wedi inni godi pabell yn Zernez yn yr Engadin Isaf, roeddwn wedi mynd i fyny i gaban Lischana, rhyw bedair awr uwchben tref Scuol, gan obeithio esgyn Piz Lischana yn y bore: yn y gwres mawr, roedd yn well gan y teulu gael prynhawn yn y pwll nofio.

Yn yr Engadin, megis ym mhob un o'r cymoedd ar gymoedd mynyddig sy'n creu'r Grisiwm, mae'n hawdd ymateb i eiriau Zarathustra, 'immer weinigere steigen mit mir euf immer hohere Berge, - ich bause ein Gebirge aus immer heiligeren Bergen.' (Llai a llai sy'n dringo gyda mi i fyny mynyddoedd uwch ac uwch, - adeiladaf ucheldir o fynyddoedd sancteiddiach a sancteiddiach).

Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.

Cymharwyd yr Engadin Uchaf weithiau a Sweden - Sweden tan haul deheuol a than goron uchel o fynyddoedd ia llachar, miniog - cadwyn Bernina, yn anad yr un.

Yna, fel sy'n digwydd yn aml wrth ddynesu at yr Engadin, dechreuodd y cymylau godi.