Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enghreifftiau

enghreifftiau

Mae yna enghreifftiau o lenorion a sgrifennodd ryddiaith o safon mewn iaith ddieithr, fel y gwnaeth Conrad.

Rydym yn cyd-gysylltu'r ymgyrch yng Nghymru, a byddwn yn darparu enghreifftiau o'r modd y bydd yr argymhellion yn effeithio ar gadwraeth, a manylion ar sut y medrwch chi gynorthwyo yn yr ymgyrch.

Efallai nad oedd Wilson Knight yn bwriadu i ni gymhwyso ei frawddegau at eiriau unigol ond mae'n demtasiwn cymryd defnydd Waldo o'r gair 'awen', ac, o ran hynny, y gair 'adnabod' fel enghreifftiau o "words inflated by mind", ac arwain hyn ni i ystyried pa fath o feddwl a oedd gan Waldo, gan gynnwys yn y gair 'meddwl' nid yn unig y meddyliol ond hefyd y teimladol yn ei wneuthuriad.

Gellir crynhoi prif ergyd dadl Glyn Davies i'r dyfyniad a ganlyn er ei fod yng nghwrs ei erthygl yn dweud pethau nad ydynt yn hollol gyson ag ef, ac er ei fod yn gorfod cydnabod nad oes ganddo enghreifftiau o'r math o ganu a ragdybir ganddo.

Mae yna glybiau house, drum'n bass, garage a trance i enwi dim ond rhai, a dim ond rwan yr ydym ni fel Cymry yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai o'r enghreifftiau hyn yn ein mamiaith.

Yn aml fe elwir Cymru yn 'Wlad y Cestyll' ac mae'n llawn haeddu'r enw gan ei bod yn gartref I rai o enghreifftiau mwyaf arbennig a phwysicaf Ewrop o adeiladwaith canoloesol.

Enghreifftiau yw Arthur ap Pedr yn Nyfed ac Arthur fab Aeddan ap Gafran yn nheyrnas Dal Riada Ysgotaidd yn yr Alban.

Cyflwynir hefyd enghreifftiau o daflenni cydgysylltwyr eraill, awgrymiadau am ddulliau gweithredu ac yyb.

Gellid yn hawdd dybio mai cynnar yw'r englynion, ond fel y nododd Syr Ifor Williams, er eu bod yn cynnwys enghreifftiau o hen ffurfiau neu gystrawen, ceir ynddynt hefyd odlau a geiriau a awgryma.

Yr enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r rhwystr hwn yw'r rheini a dreuliodd oes yng Nghymru gan wrthod yn gyndyn gwneud unrhyw ymgais hyd yn oed i ynganu "Machynlleth" neu "Pwllheli% yn gywir.

Cawsom enghreifftiau'n ddiweddar o rieni'n mynd i drafferth a chost i sicrhau na fyddai eu plant hyd yn oed yn clywed Cymraeg ac yn eu symud o ysgolion lle'r oedd "gormod o Gymraeg".

Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam.

Y mae enghreifftiau o'r enw ar gael ac y mae'n bosibl ei fod yn digwydd mewn rhai enwau lleoedd yng Nghymru megis Rhoswidol ym Mhenegoes, Trefaldwyn.

Dyma rai enghreifftiau: * "Roeddwn i'n pagio'n ara deg panlamodd coeden yn erbyn bympar ôl y car..."

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle na ellir dysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, technoleg gwybodaeth, oherwydd nad oes digon o adnoddau neu am fod yr adnoddau'n amhriodol.

Ceir enghreifftiau o drychfilod parasitoed mewn nifer o wahanol urddau'r Insecta - y chwilod clust (Dermaptera), y glo%ynnod a'r gwyfynod (Lepidoptera), y clêr (Diptera) a'r chwilod (Coleoptera).

Daw'r gwendidau gweinyddol i'r golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau ym Mhwllheli a Nefyn sy'n profi sawl pwnc.

Mae'r ddau achos hyn o newid rhywiau yn enghreifftiau da o'r modd y bydd rhai awduron yn ystumio deunydd crai eu profiad wrth ei droi'n ffuglen er mwyn gwneud iddo gydymffurfio'n well a phatrymau confensiynol eu byd.

Enghreifftiau o hyn yw'r adeg pan fydd yn effeithio ar nerf y llygad; pryd y bydd pothelli yn ymddangos ar un ochr o'r talcen; neu ar nerf yr wyneb, pryd y bydd poen y tu cefn i'r glust a nam ar y tafod.

Enghreifftiau eraill o gefnogaeth cyfoedion yw'r grwpiau Hunan-Eiriolaeth (Self-Advocacy), Cynghreiriau Pensiynwyr a mudiadau cyn-gleifion o'r gwasanaethau seiciatryddol, megis y grwpiau Survivors.

Ym myd yr anifeiliaid mae llawer o enghreifftiau lle mae silia yn cael eu defnyddio fel derbynyddion synhwyro.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

mae'r enghreifftiau uchod o ysgrifennu hyd at un tudalen neu fwy nag un tudalen yn galw am asesiad gwahanol lle bo maint yr ysgrifen yn amrywio.

Ar y cyntaf, o'r seithfed i'r nawfed ganrif, syml a diaddurn oeddynt ceir enghreifftiau yn Llanddewibrefi ac Ystrad Fflur.

Yn ail ran yr ysgrif hon carwn gyfeirio at enghreifftiau penodol o barhad rhai hen goelion gwerin, a'r coelion hynny wedi tarddu'n bennaf oherwydd ofn cynhenid dyn.

Lluniau, hanes ac enghreifftiau o ganeuon.

Y ceffyl oedd cyfrwng cludo boneddigion y Canol Oesoedd, ond yn Lives of Saints from the Book of Lismore fe ddyry'r golygydd enghreifftiau.

Yr hyn a olygir yw'r hyn sy'n digwydd pan mae plentyn yn dysgu iaith, sef ei fod yn dyst i filoedd ar filoedd o enghreifftiau o iaith yn cael ei defnyddio i ddibenion ffwythiannol ac ystyrlawn.

Yr enghreifftiau amlycaf yw cyrn neu liw mewn anifail.

Mae'n debyg mai prin oedd yr enghreifftiau o hyn, ond serch hynny yn ddigon i roi enw drwg i'r diwydiant.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Cawn enghreifftiau hefyd o'r pwysau sy'n cael ei roi ar awdurdodau lleol o du llywodraeth ganolog.

Ym myd natur ceir enghreifftiau syfrdanol o greaduriaid sydd wedi llwyddo i ymaddasu i'w hamgylchedd yn ogystal ag olion y rhai a fethodd, megis y dinosoriaid diflanedig.

Ychydig o'u hoffer sydd wedi'u darganfod yng Ngheredigion ac am yr ychydig enghreifftiau o gladdu dan gromlech sydd yn y sir, tybir mai i gyfnod diweddarach y perthynant.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

(Y mae enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd, megis y frech goch yn creu epidemig farwol ymysg pobl ynysoedd Môr y De yn dilyn ymweliad Capten Cook, neu siffilis ymysg morwyr Capten Cook yn dilyn eu hymweliad hwy â'r ynysoedd.

Gwelir enghreifftiau o hyn gyda'r Clefyd Hodgkins, Lewcemia, a thriniaeth ymbelydrol, ac yn y blaen.

Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.

Graffiti masnachol yw llawer o'r posteri sy'n addurno waliau yr ieuenctid yn bennaf ac mae rhai o bosteri mudiadau gwleidyddol Cymru yn enghreifftiau o graffiti gwleidyddol ar raddfa torfol.

Yn bwysicach fyth, cysylltwch â ni gydag enghreifftiau o anghyfertaledd ac anghyfiawnderau mae'r iaith Gymraeg yn eu dioddef, boed hynny yn y gwaith neu'r gymuned - mae pob un yn bwysig.

Ers hynny, mae Grwp Deddf Eiddo Gwynedd yn cyfarfod ac yn gweithredu yn erbyn enghreifftiau o escploetio amlwg.

Er iddo wneud llawer o englynion a chywyddau o dro i dro, ni byddai yn sicr o'u cywirdeb, ac wrth geisio eu cywiro llwyddai i wneud yr enghreifftiau digrifaf o'r gynghanedd yn feistres ar y bardd, yn lle'r bardd ar y gynghanedd.

Dyma i chi enghreifftiau: am droseddau lle na cheir marcio trwydded, deuddeg punt.

Datblygu deunyddiau ar sail ymweliadau arsylwi ar fethodoleg yn ysgolion Cymru ac yn seiliedig ar enghreifftiau o arfer dda

Yn ei lyfr Surgery: your choices, your alternatives, fe rydd Crile nifer o enghreifftiau o driniaethau anghywir yn cael eu gwneud gan lawfeddygon anghymwys ac anfedrus.

Yn ogystal ag edrych ar sut i ddefnyddio technoleg wrth ymgyrchu, fe fu Iwan hefyd yn sôn am rai enghreifftiau o sut y mae'r iaith Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl gan ddatblygiadau newydd.

Mae'r llyfr bach hwn yn cynnwys nifer o enghreifftiau o'i waith fel cyfieithydd emynau, yn eu plith gyfieithiad nodedig o dda o 'Dyfroedd Bethesda' Thomas William.

Mae cynnyrch llaeth neu bwysau anifail yn enghreifftiau o hyn.

Dan y sefyllfa honno, ceir enghreifftiau o rai a wahanodd, ac a ddaeth i sefyllfa lle nid oes cymod yn bosibl.

(ii) Adroddiad y Prif Weithredwr nad oedd yn ymwybodol o unrhyw achosion priodol a gofynnodd am enghreifftiau.

ôl nodyn gan y Golygydd: Ar derfyn ei ysgrif y mae Thomas Jones yn dyfynnu enghreifftiau o farddoniaeth Hugh Evans.

Mae Paul Nash a Francis Hodgkins yn enghreifftiau.

Dadlennai astudiaeth o hanes liaws o enghreifftiau o'r bywyd da ac hefyd o'r bywyd gwael a diffrwyth.

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle ni ellir addysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, gwyddoniaeth neu addysg gorfforol, oherwydd nad oes digon o fannau arbenigol neu am eu bod yn amhriodol.

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

Y mae enghreifftiau o fewn rhai systemau bywyd lle mae cyfansoddion neilltuol wedi eu disodli gan rai eraill nad ydynt yn rhai naturiol, heb amharu ar weithgarwch yr organebau.

O ganlyniad i'r trefniadau presennol, mae problemau dosbarthu yn amlygu eu hunain yn aml, gydag enghreifftiau lu o drafferthion ynghlwm wrth y broses o gael adnoddau o'r canolfannau neu'r cyhoeddwyr i'r ysgolion.

Lawer tro y maent wedi eu darlunio fel enghreifftiau o ddeddfoldeb haearnaidd ac ysbryd adweithiol mewn gwleidyddiaeth.

Anghenion arbennig: Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn yn cynnwys y Fforwm Cludiant, cludiant addysg, cludiant i grwpiau o fewn diffiniad daearyddol, sicrhau cyd-drefnu rhwng gwahanol ffurfiau ar deithio.

Nodir isod enghreifftiau a rydd flas ar rai o'r cwynion yn erbyn awdurdodau cynllunio y cafwyd eu bod yn ddilys yn ystod y flwyddyn -

Yn y mwyafrif o enghreifftiau trychfilyn arall yw'r organeb gwesteiol ac, yn wahanol i'r trychfilod parasitig y soniwyd amdanynt uchod, bydd larfae y trychfilod yma yn lladd y gwesteiwr.