Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eni

eni

Man ei eni oedd t^y o'r enw Plas y Person, yn y Gyffin, gerllaw Conwy, lle yr oed ei dad, Dafydd ap Gronw, yn giwrad ar y prys.

Fel pob gwraig yr oeddwn wedi darparu dillad i'r babi wythnosau cyn ei eni ac yr oeddwn wedi gwneud coban o sidan gwyn addurniedig.

A dyna pam y dywedwn ei fod ym mlynyddoedd cynnar ei weinidogaeth yn fath o eni~,ma i lawer, ac edrychent arno â gradd o amheuaeth.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanrwst, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn un o unarddeg o blant.

Gwr o sir Gaerefrog oedd Ferrar, er nad oes sicrwydd ynglyn â man ei eni.

Yn Abertawe y cafodd Mr Evans ei eni.

Nid felly yn Ariannin lle mae bron bob Archentwr yn meddwl ei fod wedi ei eni yn yrrwr rali.

Yr oedd y plismon lleol, James Lloyd, wedi'i eni ym Madagascar.

Y banyan yw coeden sanctaidd yr Hindu gan fod y duw Vishnu wedi ei eni o dan un.

"Mi roeddan nhw wedi tario i lawr y Waen cyn dy eni di." Ond doeddwn i ddim awydd ei darfu o wedyn mewn lle mor gyfyng.

('Churching' yw'r enw Saesneg ar yr arfer.) Y mae'r arfer hwn yn seiliedig ar yr hen goel mai gweithred amhur oedd geni plentyn ac yn arbennig ar yr awydd i roi diolch i Dduw am eni plentyn newydd i'r byd.

Er bod y dystysgrif geni yn dweud i'w daid gael ei eni yn Oldham credwn nad yw hynny, o anghenraid, yn wir.

Yn gynta', fod Aled wedi'i eni'n artist, ac y byddai'n bechod i chi na neb arall gladdu'r dalent sydd gynno fo.

Allan yr es i, a chwilio'n ddistaw bach am y tŷ o'r enw Bwlchmelyn, lle y cafodd y Mr Stanley 'na ffeindiodd Dr Livingstone ei eni, medde-nhw.

Os yw am ddewis y ffordd hon i gael gafael ar fferm, peth doeth ar ran y darpar-ffermwr fydd trefnu i gael ei eni'n Sais neu'n Bwyliad, os yng Nghymru y dymuna gael ei fferm.

Byddai'n siŵr o'm hatgoffa iddo gael ei eni (yn ail o deulu o ddeg) a rhwyd ysgafn (caul) am ei ben.

'Roedd Cassie wedi rhoi Steffan i'w fabwysiadu yn fuan ar ôl iddo gael ei eni.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

Gellid gwneud mwclis o'r aeron a'i osod am yddfau gwartheg er mwyn iddynt eni eu lloi yn haws.

Dydi Matthew Owen ddim yn sylweddoli fod Aled wedi 'i eni yn artist.

Dim ond deg oed oedd Siwan pan briododd hi Llywelyn Fawr a phedair ar ddeg oedd Margaret Beaufort pan gafodd ei­mab, Harri Tudur, ei eni.

Credaf fod saer coed wedi ei eni i'r grefft; bydd ynddo duedd ymarferol at ffigurau a mesurau, ac mae'n awyddus i ddysgu o hyd.

Wedi ei eni yn 1567 yr oedd John Davies mewn cysylltiad agos â William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac yn un o'i gynorthwywyr.

Mewn marchnata y mae'r gyfundrefn amaethyddol wedi newid, a rhywfodd neu'i gilydd deuir i'r casgliad nad oes dim o waith llaw dyn yn byw nac yn aros byth; mae'n tyfu ar ôl ei eni nes cyrraedd ei uchafbwynt as yna mae'n gwywo a marw.

Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

'Doedd Heledd erioed o'r blaen wedi gweld ci bach newydd ei eni, ac aeth ar ei gliniau wrth y fasged a rhyfeddu.

Tr'eni bod hi heb bennu 'i chwrs 'fyd, ond 'na fe, stori arall yw honno.

Yn bur fuan wedyn cafodd yntau ei eni, yn fab i ddyn gwneud syms a rheolwraig siop.

Rhwng popeth, nid oedd yn amser cysurlon i faban gael ei eni, ac yn enwedig ei eni'n fab i lowr a chynfilwr.

Digon prin oedd newyddion ar y gorau, ar wahân i eni a marw yn y mannau pellennig hyn.

O'i eni yng nghroth y forwyn, uniaethodd Iesu ei hun â'r holl ddynoliaeth o bob oes.

Er enghraifft, yn wahanol i'r hyn a gredai rhai pobl, cafodd Huw Jones ei eni tua 20au neu 30au'r ddeunawfed ganrif.

Cafodd Mr Thapa ei eni yn Swydd Hampshire.

naddo.' 'Dan ba arwydd y cest ti dy eni - Virgo?' Chwarddodd y lleill a cheisiodd Dei chwerthin hefyd er nad oedd o'n deall y jôc.

Abercyrnog fu ei gartref erioed, yno cafodd ei eni, yno disgwyliai farw.

Yn ôl pob golwg, medd fy nghyfaill, roedd nain y sawl a oedd yn cadw'r llinell wedi ei eni yng Nghymru a bod y Celtiaid wedi twyllo eto.

Gwae'i dad o'i eni!

Yr oedd y tad wedi'i eni yn yr India.