Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enw

enw

Man ei eni oedd t^y o'r enw Plas y Person, yn y Gyffin, gerllaw Conwy, lle yr oed ei dad, Dafydd ap Gronw, yn giwrad ar y prys.

Dyna fo i'r dim - Alwyn Hughes Thomas - mi faswn i wrth fy modd yn cyhoeddi enw fel yna.

"Be' 'di'ch enw chi?" "Reilly," meddwn.

Mae'r bin yn siŵr o syrthio ar enw'r ceffyl fydd yn ennill y ras.

Keint oedd enw Henry Rowlands arni hefyd, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau ati yn yr archifau sydd yn dyddio o'r cyfnod hwn yn defnyddio'r llythyren flaen k.

Baladeulyn oedd hen enw'r afon sy'n cysylltu Llyn Padarn a Llyn Peris.

Alcemegwyr oedd yr enw ar y cemegwyr cyntaf.

Enw ieuengach yw Dylan Evans.

Newidwyd enw hwnnw'n Newyddiadur Hanesyddol ac, o dan olygyddiaeth Roger Edwards, yn Gronicl yr Oes.

Dros amser collwyd y gair tafarn o'r enw ond tyfodd yr elfen olaf boncath yn enw ar y pentref lle safai'r dafarn.

Mae fferm o'r enw Fach i'r de o'r fan lle ceir tro sydyn yng nghwrs yr afon, tro ar ffurf bachyn.

Dangosydd yw enw cemegwyr ar bapur litmws.

Ewch chi byth i unman heb enw go dda, wyddoch chi.' Gwenu wnes i, wrth gwrs.

Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.

Roedd merch o'r enw Tracy wedi dod o Fanceinion i ysgol yng Nghymru.

Is-drysorydd - awgrymwyd enw Nerys Williams (Cangen Penrhosgarnedd) ac Alwen Jones (Cangen Llandwrog).

Bu ef mewn amryw longau, rhai yn llwglyd, fel yr ydym wedi clywed sôn amdanynt, ac eraill â bwyd da a dywaid fod pob un o longau rhyw gwmni yn cael enw da am fwyd.

A dyna egluro enw Tirabad.

Mae cemegwyr yn defnyddio papur wedi'i drin yn arbennig o'r enw papur litmws pan fyddant yn profi hylifau anhysbys i weld ai asid neu alcali ydynt.

Ac yntau, bellach, wedi gwneud enw iddo'i hun yn Ewrop mae'n destun syndod iddo gytuno i ymweld o gwbl a thref mor ddiarffordd a'r Gaiman i ganu gyda chôr o amaturiaid.

"Chaw chiw chol chim?" sef o'i gyfieithu "Be di enw o?" Na sori, doedd o ddim yn adnabod yr un Patrick!

Fel yr esgynna Sam i blith y cymylau a'r sêr yng nghwch y ferch ddi-enw, ddi-sylwedd a ninnau gyda hwy, y mae'r bro%ydd cartrefol beunyddiol, ein priod ardaloedd hysbys yn pellhau a lleihau otanom yn y dyfnder ac fe ddaw moment pan anghofiwn amdanynt yn

Maen cynnwys dwy fersiwn o drac newydd sbon o'r enw Nosweithiau Llachar/ Dyddiau Di Galar, a dwy gân fydd yn gyfarwydd i wrandawyr cyson, Fy Nghelwydd Clai a Dim Dagrau, cafodd eu recordio au darlledu fel rhan o sesiwn Radio Cymru.

Gorffennaf wir, dyna i chi enw ar fis sydd wedi cychwyn arni â thywydd a fu'n grasboeth o bryd i'w gilydd.

Fe aethon nhw ati i ddinistrio pob agwedd o'r ugeinfed ganrif yn enw'r chwyldro, gan gynnwys cael gwared ar grefydd, arian a chysylltiadau teuluol.

Oherwydd cyflwr bregus y llongau a pheryglon y môr o gwmpas arfordir Gogledd Cymru, enillodd morwyr yr ardal barch ac enw da fel rhai medrus a meistrolgar wrth eu gwaith.

Ar ôl cyfnod llwyddiannus iawn gyda'r RSC a gwaith teledu sylweddol - drama David Mercer, Let's Murder Vivaldi, yn fwyaf nodedig - dechreuodd enw Glenda Jackson gofrestru yn y cof.

Fe ddaeth galwad ffôn ddi-enw, wythnose'n ôl.

Felly cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid.

Deallai ambell air yma ac acw a mwy nac unwaith clywodd yr enw, 'Pierre'.

Sôn y mae am eiddo o'r enw Llyslew ym Mhorthamel yn Sir Fôn.

Pam felly y cafodd pentref cyfan enw un aderyn?

Gwelwn ar unwaith hen frawd o'r enw Wil Owen Hen Dy yn dyfod ataf yn gweiddi a gweddio, ac fe ddywedodd wrthyf: 'Fachgen, yr oeddwn yn meddwl mai cyfeirio at dy dad yr oeddet,' (am fod ef wedi ei ladd mewn gwaith heb fod ymhell oddi yno).

Anfonir Edern i Gaerllion yn enw Geraint i wneud iawn am sarhad y corrach i forwyn Gwenhwyfar, ac yna yn eu tro fe gyrraidd Geraint ac Enid hwythau.

Niclas Pŵel, mynte fe, we'i enw - gallen feddwl bod Sara Dafis Pant-y- deri'n whar iddi famgu e.

Dywed y Ferf hithau am yr Enw (neu'r rhagenw).

Dyma enw cryno ddisg amlgyfrannog newydd o ganeuon gan grwpiau o Sir Gaerfyrddin.

Dyma nhw'n sisial eu ffordd drwyddi, a ninnau'n clywed ambell enw, '...

Ond, fe all globwll hefyd olygu "pwll glo% yn yr ystyr cyffredin wrth gwrs ac anodd iawn fyddai ceisio dyfalu beth yn union yw ystyr yr enw Globyllau yn Aberteleri a Sain Ffagan.

Ei enw swyddogol yw Saron Chapel Register.

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Beth am hen enw'r teulu?

Mae'r enw ei hun yn mynd â ni, mae'n debyg, yn ôl dros y canrifoedd i'r iaith Frythoneg - eb-hynt, llwybrau'r ebolion.

Ond ar y radio yn yr Unol Daleithiau, mae'r enw'n cael ei ail-adrodd a'i lafarganu hyd syrffed yn ôl yr hen ganllawiau.

Cyfeiriwyd eisoes at ei safle fel athro Hebraeg a Chanon, ac yn barod 'roedd pobl wedi cysylltu'r mudiad gyda'i enw, er mai llysenw ydoedd ar y dechrau cyntaf.

Ar y daith adref ar ôl chwarae ym Manceinion roedd yn draddodiad rhoi triniaeth arbennig i hogiau newydd y flwyddyn gyntaf Mae eli o'r enw 'Sloane's Liniment' i'w gael ar gyfer poenau yn y cyhyrau sy'n creu gwres mawr ar ba ran bynnag o'r corff y'i rhoddir.

Clywais i fy nhad yn dweud ei fod wedi anfon gair at ddyn o'r enw Rhisiart Roberts yn Washington ynghylch cael gwaith iddo yno.

Adeg honno roedd yna fudiad o'r enw yr Eingl Gymry, roedd cylchgrawn o'r enw 'Wales' ac roedd pobl yn dechrau sylweddoli eu bod nhw wedi colli rhywbeth, ac roedd yna rhyw duedd ynom ni er ein bod ni yn sgwennu yn Saesneg, i ni geisio dangos nad Saeson mohonom ni.

'Roedd Thomas Williams, Olgra yn gapten ar long o'r enw Maritime a phan fyddai'r llong mewn porthladd ym Mhrydain arferai Mrs Williams a'r ddwy ferch fach, Eluned a May, ymuno ag ef a byddai Mam yn cael mynd efo nhw.

Rwy'i wedi clywed yr enw.

Teipiwch eiriau o flaen y fy: Wir yr nid fy enw i yw Wali Tomos.

Daw'r enw protein o'r gair Groeg proteios.

Ganwyd ef yn Y Rhyl ond y mae ei enw yn un cyfarwydd yn y fro heddiw.

Faber a Faber gyfrol dan yr enw 'An Athology of Welsh Short Stories', pedair ohonynt yn gyfieithiadau o rai Cymraeg ac un o'r pedair stori dan y teitl 'The Strange Apeman' gan Mr Tegla Davies.

Cefnogwch ran gyntaf ein brwydr, yn erbyn y cwmnïau ffôn symudol, trwy ychwanegu eich enw i'r ddeiseb Galwad Dros y Gymraeg.

Cyfarfyddodd Cymdeithas Gymreig Dewi-Sant Ardal y Brifddinas am y tro cyntaf ym 1929, yn Schenectday, Efrog Newydd, o dan yr enw St.

Er mwyn gwneud hynny, y mae hi'n ei wthio i droi at ran arall, uwch, ohono'i hun, sef yr Hunan, neu'r Uwch-ego, dan yr enw Arthur.

Gan fod i bob rhan ei enw Lladin roedd yn ofynnol ei dysgu a'u cofio i gyd ac mae'r mân esgyrn a geir yn yr arddwrn a'r llaw, yn unig, yn niferus iawn.

Roedd ei enw'n rhy grand.

Roedd enw addas i'r lle hwn sef Disgwylfa ac ar ddiwrnod braf gellid edrych dros gefn Cadlan gyferbyn a gweld y bryniau gwyrdd yn codi drum ar ol trum, nes cyrraedd uchelfannau y Bannau gleision.

Pan ddywedodd hi fod yn ddrwg ganddi am farw John, meddai, 'Yn enw Duw, peidiwch â sôn dim am y diawl'.

Gan na wyddom beth oedd maint odid un o'r argraffiadau sy'n cario'i enw ef a'i gydweithwyr, nid oes modd inni wireddu'r hawl hon.

Cyfeirias gynnau at Jean Markale a'i amheuaeth o darddiad Lladin yr enw Arthur.

Anwylai fy mam yr ybaid cynnar hapus a gawsai yn yr ardal honno cyn cael ei symud yn wyth oed i gymoedd diwydiannol Morgannwg; a diau fod swyn iddi yn yr enw 'Merlin'.

Ail flwyddyn y chweched, ac yn gyfarwydd ag enw merch o'r pumed dosbarth nad oedd yn neb.

Ond efallai iddo fod yn anlwcus oherwydd ei enw, Go-dam, ac mai dyna sut yr aeth ar goll yng ngwlad yr Addewid!

"'Y Gath" ydi enw'r heddlu ar Dan Din yma.

Hwn - Azariah Richards wrth ei enw, ond 'Ap Menai' ar dafod pawb - oedd perchennog, golygydd, beirniad gwleidyddol, diwinyddol, cymdeithasol, a llenyddol Y Gwyliwr.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Rhowch eich enw ar y ddeiseb i fynnu gwasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn, ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Rhowch eich enw isod i alw ar Oftel i fynu gwasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn, ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Cysylltwyd y dderwen ag enw'r dewin Myrddin ac yn ôl un o'i broffwydoliaethau byddai'r dref yn cael e dinistrio pe syrthiai'r goeden.

Ar ôl ystyried yr ymateb i hysbyseb yn y wasg gofynnodd y pwyllgor penodi i Harri Gwyrln a fuasai'n barod i adael iddynt ychwanegu ei enw at y rhestr o ymgeiswyr am y swydd.

mae'r ffilm yn cychwyn gyda Cruella wedi ei gwella gan seiciatrydd o'r enw Dr Pavlov (! dyma safon y jôcs) o'i hatgasedd tuag at gwn.

Eisoes crybwyllwyd enw Bracknell fel lle posib.

Baladeulyn hefyd oedd enw'r afonydd a oedd yn cysylltu Llynnoedd Nantlle yn Nyffryn Nantlle ac y sydd o hyd yn cysylltu Llynnau Mymbyr ger Capel Curig.

Byddai tarddu Arthur o Artorius yn rheolaidd yn ieithegol, ond os dyna ffurf wreiddiol ei enw ni chadwyd unrhyw gof am hynny.

Roedd gan y Llychlynwyr gred mewn Coeden Byd a'r enw arni oedd Yggdrasil.

Gwêl rhai heddiw gysylltiad rhwng ei enw â chwlt yr arth.

Maent yn defnyddio goleuni'r haul i wneud eu bwyd ffoto- synthesis yw'r enw ar y broses hon a thyfu tuag at yr haul y mae planhigion, fel y gallant gael cymaint o oleuni ag sydd modd.

Gallai pobl ifanc fynd at y goeden a sibrwd enw'r un roeddynt yn ei garu, ac yna byddai'r goeden yn lledaenu'r neges i'r pedwar gwynt.

Byddwn yn cyhoeddi enw'r ysgolion buddugol ar Fai 7.

Godam oedd ei enw ac mi aeth o mewn tair llong ar ddeg o Rhos on Sea.

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

Goruchwyliwr y gwersyll oedd gŵr di-flewyn-ar-dafod o'r enw Ismail Krief.

Mewn cyfres bwysig o'r enw Y Byd Hirgrwn (chwaer raglen The Union Game a gynhyrchwyd gan BBC Cymru ar gyfer BBC Two), bu Huw Llewelyn Davies yn olrhain hanes rygbi ac yn amlinellu sut y datblygodd y gêm o fewn ffiniau gwleidyddol a diwylliannol sawl gwlad.

Daeth bachgen o dde India, o'r enw D.

Nid oes yna reswm dros ddewis yr enw, dim ond fod yna un o'r aelodau, Dylan Evans, yn meddu ar y cyfenw.

Bleddyn yw enw brawd Llew.

Nid oedd y bardd wedi mentro dweud ei alar yn ei enw'i hunan!

Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist, trwy yr Hwn y gwnaethpwyd pob peth.

Adroddiad yn dangos fod carfan Drosgïaidd dan yr enw ' Militant Tendency' yn ceisio rheoli'r Blaid Lafur.

Enw'r Gymdeithas Gymraeg oedd Y Cymric a honno'n gymdeithas gref.

Credir bellach fod yr enw Gloddaith - enw plasty ger Llandudno - yn cyfeirio at fan lle yr arferid cynhyrchu golosg.

Croesor Cafwyd ymholiad oddi wrth Mr Arwyn Thomas, Casnewydd ynglŷn ag ystyr yr enw Croesor.

Munud i mewn i'r gân daw cyfraniad y "Triton" sef yr enw sy'n cael ei roi ar adran bres y grwp.

Hawlia rhai ohonynt le anrhydeddus iawn yn hanes y deyrnas, ac y mae cysylltiad agos rhyngddynt ac enwau gwroniaid a harddodd enw Prydain yn llysoedd y Cyfandir ac ym mhellteroedd byd.

Daw un mewn pennill o'r Gododdin sy'n clodfori arwr o'r enw Gwawrddur oblegid ei orchestion milwrol ac yna'n ychwagegu'r geiriau ceni bei ef arthur, sef 'er nad Arthur mohono'.

Pnawn Sul 10 Medi mae cyfres newydd yn cychwyn ar S4C o'r enw 4 Trac.

ei enw oedd joseph tregelles price, meistr gwaith haearn mynachlog nedd, ger castell nedd.