Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enwi

enwi

Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw enwi'r llyfr y tybiwch chi a ddylai gael ei anrhydeddu yn llyfr y flwyddyn.

O fewn ychydig fisoedd i ddrama Iorwerth Glan Aled weld golau dydd cyhoeddwyd yn y papur dylanwadol Yr Amserau ddarnau helaeth o ddrama ddychan yn dwyn y teitl Brad y Llyfrau Gleision heb enwi'r awdur.

Yn ddiweddar cafodd enwi'n artist gwryw gorau yng Ngwobrau Clasurol y Brits.

Ond gwaith peryglus yw enwi enwau.

Mae Gwlad Pwyl wedi enwi 8 o'r 11 a ddechreuodd y gêm yn erbyn Cymru ym mis Hydref ar gyfer y gêm nesaf rhwng y ddwy wlad yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar Fehefin 2.

Yn ôl Fidel, mae defnydd yr alltudion o enw Marti yn gyfystyr ag enwi puteindy ar ôl George Washington.

Roedd y diwrnod a sicrhaodd ei fod e'n cael ei enwi yno yn un arbennig iawn ...

Pam nad yw'r nofel yn gwneud fawr mwy nag enwi'r gwir wrthddegymwyr - Ffranc Bryan y Bryniau, John Jones y Rhos Uchaf a Samuel Jones y Tŷ Glas?

Mae Abertawe yn awr wedi talu'r pwyth yn ôl gan enwi tri o chwaraewyr Stade Français - Diego Dominguez, David Auradou a Fabrice Landreau.

Y mae'r arfer o enwi plant ar ôl enwogion yn gyffredin ac y mae yma dystiolaeth i'r tebygolrwydd, o leiaf, fod milwr neu bennaeth enwog o'r enw Arthur wedi blaenori'r cyfnod hwn.

Mae yna glybiau house, drum'n bass, garage a trance i enwi dim ond rhai, a dim ond rwan yr ydym ni fel Cymry yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai o'r enghreifftiau hyn yn ein mamiaith.

Cyfeiriwyd eisoes at awgrym yr Athro Williams fod Llyfr Coch hergest yn un o lawysgrifau Hopcyn, a gwelwyd enwi llawysgrifau eraill a feddai yng nghaniadau'r beirdd iddo.

Mae gan bob garddwr ei ddewis cyntaf ond efallai y gellir enwi'r Alicante fel un o'r rhai gorau eu blas.

Yn ystod y tymor fodd bynnag fe aeth amryw o'r clybiau ati i drefnu cystadlaethau ymhlith ei gilydd a thrwy hynny cafodd nifer o'r aelodau gyfle i ymarfer gyda'r gwaith dan anogaeth arbenigwyr fel HR Jones a Twynog Davies i enwi ond dau a fu'n hyfforddi aelodau yn dawel bach.

Enwi'r Drenewydd ym Mhowys yn ail o'r trefi newydd yng Nghymru.

Dyna i chi Jason Little, i enwi dim ond un.

Dwi ddim yn awgrymu fod yr holl enwi, cardiau melyn a choch ar cwynion a glywson ni yn ystod y tymor yn anghyfiawn.

Y mae siopau eraill ar hyd a lled y wlad y prynais werth cannoedd o bunnau o lyfrau ynddynt o dro i dro - Crewe, Wrecsam, Henry Jones, Caer; Goronwy Williams, Rhuthun; a Galloways Abertystwyth i enwi rhai.

Bydd yn gymorth efallai enwi'r colegau dan sylw.

Enwi'r ddogfen.

Yr oedd un neu ddau o gynghorwyr lleol pur brofiadol yn bresennol, a gofynnodd un ohonynt am ganiatâd i gyflwyno'r cynllun i'w gyngor ef, yn gynllun a awgrymwyd iddo gan arbenigwr, ond heb enwi'r Blaid; yr oedd e'n ffyddiog y byddai ei gyngor yn ei dderbyn ac y byddai'r aelodau'n barod i'w gymeradwyo i gynghorau eraill.

Mae Wrecsam wastad yn enwi timau cryf ar gyfer gemau'r Cwpan.

Mae mathau prin o blanhigion, adar a thrychfilod yn byw mewn mawnogydd; y Cwtiad Aur, Picellwr Wynepgwyn (math o was y neidr) a'r Rhosmari Gwyllt, ac enwi dim ond ychydig ohonynt.

Ar sail astudiaeth o'u llenyddiaeth, ceisir disgrifio'r gorffennol mewnol hwnnw y gellir ei enwi yn feddwl a dychymyg.

Byddai Ffrancon Thomas hefyd yn rhoi datganias ar yr organ - y mae gennyf ddarn o boster yn hysbysebu cyngherddau organ o'r cyfnod yn enwi Sandy McPherson a Ffrancon Thomas hefo'i gilydd.

Diddorol fyddai enwi ychydig o'r rhai mwyaf adnabyddus, megis Dafydd Cwm-garw, Siôn Cwm-garw, William Pistyll- llwyd, Dafydd Cae-glas, Hezekiah Cwm-garw, Siôn Cwm-teg, Pegi o'r Ffarmers, Nansen Pantycelyn, Watkin y Croffte, Dafydd Glynbeudy, Daniel o'r Bryn, William Penygraig, Angharad Azariah, Rachel William y gof, a llawer eraill ar hyd y cymdogaethau cyfagos.

Enwi David, mab Siôr V, yn Dywysog Cymru.

Fe ddechreuodd siarad â'i mam, a chafodd wybod eu bod yn dod o gymdogaeth ei wraig, ac yn wir ei bod wedi enwi'r ferch ar ôl ei Linda ef.

Bydd Danny Wilson yn cael ei enwi yn rheolwr newydd Bristol City heddiw.

Mae awdurdod Pendaran Dyfed ym mater enwi'r bachgen yn amlwg, a chan fod Teyrnon a Phendaran Dyfed ill dau'n cael meithrin y bachgen, mae'n debyg fod cysylltiad arbennig rhwng Pryderi a Phendaran Dyfed.

Enwi Penrhyn G^wyr yn Ardal Genedlaethol o Brydferthwch Neilltuol.

Enwi Eryri yn Barc Cenedlaethol cyntaf Cymru.

Os oedd ei eirie'n ein synnu, felly hefyd ei weithredoedd ac o fewn llai na phythefnos i'r mab afradlon ddychwelyd adre roedd yn enwi ei garfan gynta un a honno'n cynnwys cymaint ag wyth chwaraewr oedd heb enn;lll cap llawn i Gymru o'r blaen.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

pa arwyddocâd sydd yna i enwi'r d ( d ) irgel ddyn ( es ) yn ann griffiths?

Ychydig a wn i am batrwm y ffurfafen ac ni fedraf enwi ond ychydig iawn o'r sêr.

Bydde neb yn enwi neb onibai bod rhywbeth gyda nhw ar fideo - y peth yw falle gwelan nhw rywbeth arall, hefyd.

Mae Morgannwg wedi enwi carfan o ddeuddeg ar gyfer eu gêm bencampwriaeth gynta fydd yn dechrau yn Northampton ddydd Gwener.

Fel y gwelir, nid yw'n enwi Penri na rhoi teitl ei lyfr, er ei fod, mae'n ymddangos yn gwybod rhywbeth am gynnwys yr Aequity.

Enwi Caernarfon yn fwrdeistref frenhinol gyntaf Cymru.

A hyd yn oed yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y flwyddyn 1952, yn Siarter y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, er yr holl newid a fu yn agwedd a meddwl arweinwyr addysg a diwylliant, fe ofalwyd peidio ag enwi'r iaith Gymraeg yn gynneddf anhepgor ar reolwr a chadeirydd i Gymru.

Yn olaf, gallwn enwi grwpiau llai byth, fel Ffriesiaid yr Iseldiroedd, yr Uchelwyr Gaeleg eu hiaith yn yr Alban, Lapiaid Llychlyn, Sorbiaid dwyrain yr Almaen, a Vlachiaid y gwledydd Balcanaidd.

Hyd yn oed petae Caerffili yn penderfynu peidio a'i enwi ar ôl eu gêm nhw ddydd Sul.

Yn achos Ail Iaith Cynradd yr oedd pawb wedi nodi mai gan drefnyddion neu athrawon ymgynghorol y sir y cafwyd yr arweiniad, a'r ganolfan iaith wedi'i enwi gan amlaf, gan y cydlynwyr.

Ond ni waeth gennyf i; mae'n braf cael enwi Gwyn a dod ag ef i'r sgwrs mor naturiol â phe bai'n dal gyda mi.

Dyma ran o broblem y cynllun presennol o enwi syn dibynnu ar y chwaraewyr neur clybiau i wneud y cyhuddiadau gan nad oes gynllun derbyniol i weithredu ar eu rhan.

A dyma enwi pob un oeddwn wedi weld yn chwarae yno, nes oedd llond y llawr o blant.

Amhosibl yw anwybyddu, i enwi ond ychydig, y sychder a'r rhyfeloedd yn Eritrea, Ethiopia, Swdan a Somalia; trychinebau Bopal, yr Exon Valdes a'r Braer, dylanwad damweiniau Chernobyl a Three Mile Island, y twll yn yr haenen Osôn, coedwigoedd diflanedig Brasil a Bafaria, llifogydd Bangladesh ac felly ymlaen.

Fydd Caerdydd ddim yn enwi clo Abertawe, Tyrone Maullin, wedi tacl uchel dorrodd ên a thrwyn asgellwr Caerdydd, Paul Jones, yn y gêm yng Nghynghrair Cymru a'r Alban ar Sain Helen.

O'r un ucheldir y deuai Jac Glan y Gors, Taliesin a Llew Hiraethog, Tom Owen Hafod Elwy a llawer un aral y gellid ei enwi heb fynd nemor pellach na deuddeng milltir o gartref William Jones yn Hafod Esgob, Nebo.

Mae Bae Colwyn wedi enwi'r amddiffynnwr Colin Caton fel chwaraewr-rheolwr newydd y clwb - ar ôl i Bryn Jones benderfynu ymddiswyddo.

* Adnabod ac enwi

Enwi Cwmbrân yn dref newydd gyntaf Cymru.

Nawr mae Martin Johnson, capten Lloegr, wedi ei enwi am chwarae brwnt yn ngêm Caerlyr yn erbyn y Saracens.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

Ac yn yr Unol Daleithiau defnyddir betys mewn pob math o gyfuniadau: betys efo oren, betys efo afal, betys ar dôst efo pennog ac wyau wedi eu berwi'n galed; betys mewn iogurt efo cennin syfi, sinamon a nytmeg - i enwi dim ond rhai.

Petai comisiynydd enwi wedii benodi yna ni fyddai angen i'r chwaraewyr gario clecs.

dylai'r rhestr testunau enwi y nifer o fathau ddisgwylir yn lle ei adael yn ben agored.

Yn y frawddeg 'Mae Gwilym yma', yr enw priod yw'r gair syniadol mwyaf cyntefig syml o ran gramadeg: enwi diriaeth a wna.

Cafodd ei enwi ac fe all golli llawer o'r tymor.

Mae rhaglen wedi ei threfnu am y tymor yn cynnwys cwrs cymorth cyntaf, crefft, trin gwallt, cwis a helfa drysor i enwi ond ychydig.

Mae un tîm yn enwi, wedyn ma'r llall yn enwi.

Yn eu plith gellid enwi ei gyfieithiadau o'r ddrama Roeg.

Mae hi'n aelod o dim golygyddol Pobol y Cwm, a bydd hyn yn golygu y bydd cymeriadau fel Cassie, Kath, Stacey, Denzil, Darren, Derek, Hywel a Steffan, i enwi rhai, yn fuan yn ymddangos ar waliau ceginau yn y flwyddyn newydd.

Yn y cyfamser mae Caerdydd wedi enwi 14 chwaraewr ar gyfer y gêm yn erbyn y Saracens.

Heddiw, mae llawer o'r hysbysebion yn ennill dilynwyr drwy beidio enwi'r nwyddau yn ormodol (er enghraifft, y rhai 'Guiness').

Enwi Neil Kinnock yn Gomisiynydd Ewropeaidd.