Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erfyn

erfyn

Mae'n rhyfedd gennyf sut y llwyddodd aml i saer coed i ddod i ben â'r gwaith cystal a heb ganddo ond ambell i erfyn priodol i'w gynorthwyo.

Sylwer ar y mwrthwl-fwyell o Fwlchyddwyallt, erfyn sy'n edrych fel copi, mewn carreg, o fwrthwl-fwyeill metel Oes y Pres.

Ac wedi iddo gyrraedd y gwaelod, efe a gyfododd ar ei draed ac a ystyriodd ynddo'i hun pa un a ddylai efe ymweld â swyddfa perchen yr adeilad i erfyn arno ddiswyddo'r wraig dlawd.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Gwnewch lun y fflam gyda'r erfyn llinell afreolaidd a'i lenwi â phatrwm llwyd a defnyddio patrwm llinell gwyn.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gŵr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Eto, ar y llaw arall, onid hwn yw'r erfyn cryfaf a ferdd y gweithwyr i dynnu sylw'r cyflogwyr (a'r cyhoedd hefyd) at ei achos?

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.

Mewn sefyllfaoedd athro-ganolog rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i'r strategaeth a ddefnyddir wrth gwestiynu gan fod y cwestiwn yn gallu bod yn erfyn dysgu effeithiol o'i ddefnyddio'n ddewisol.

Yn ôl y syniadau newydd, erfyn oedd iaith i'w ddefnyddio yn ôl dymuniad y cyfathrebwr, a newidiai anghenion hwnnw yn ôl ei amgylchiadau.

Y mae rhywun yn cydymdeimlo â'r Tywysog William pan yw ef a'i dad a'i daid a'i nain yn erfyn am lonydd iddo fyw ei fywyd heb ymyrraeth newyddiadurwyr a thynwyr lluniau.

Ar adeg arall daeth merch fach ato, yn erfyn am y bêl hud, a hyd yn oed yn cynnig yn ei lle ryw lew tegan a'i ben yn symud, ac yn rhuo fel llew byw.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gwr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Trwy fod yng nghwmni pobl eraill sy'n defnyddio iaith fel erfyn i bwrpasu amlwg, penodol, mae plentyn yn dysgu sut i ymddwyn fel defnyddiwr iaith, i rannu'r PWRPAS er mwyn dod i wybod SUT.

Yr oedd rhyw erfyn a distawrwydd llethol wedi meddiannu'r hen gwm i gyd.

Roedd yr hyn wnaethon nhw yn gampus achos o'n i'n erfyn sgôr ofnadwy yn erbyn Cymru.

'Rwyn erfyn bydd Cymru'n ennill.

"Roedd Gwladys a Meinir eisoes, yn ôl y drefn, wedi rhoi eu dwylo wrth eu cegau crynion, ac wedi dal eu hanadl a sgrechian, ac erfyn am gael peidio â chlywed y manylion gwaethaf.

Erbyn hyn, prin y ceir unrhyw adran o waith nad ydyw rywbryd neu'i gilydd wedi codi'r erfyn hwn, ac anelu o leiaf, beth bynnag am danio.

Cliciwch ar yr erfyn petryal a gwnewch betryal fel sydd i'w weld isod trwy lusgo ar draws y sgrîn i gynhyrchu'r petryal.

Mae hefyd yn tanlinellu'r ofn fod i Islam apêl wleidyddol i ddynion sy'n erfyn dihangfa o'r chwalfa economiadd.

Mewn rhan o Asia lle roedd y Moslemiaid yn fwyafrif llethol hyd nes dyfod cyfnod Stalin, mae crefydd yn blodeuo eto a'r grefydd honno yn ei thro yn erfyn y gellir ei ddefnyddio i ledu'r bwlch rhwng Uzbekistan a Rwsia.

Y Sadwrn canlynol aeth Ali ar eu hôl i Birmingham yng nghwmni Shri Kristaan Moortty Pellai, neu Jim Pellai fel yr adwaenid ef fynychaf, i erfyn ar Mary i ddod yn ôl adref.

Fe fyddai hi wrth ei bodd yn gwrando arno'n ei morio hi pan oedd hi'n bwten ac yn dringo ar ei lin i erfyn am stori ond bellach gorfod gwrando hyd at syrffed yr oedd hi.

Clywsom am stgreic deintyddion, docwyr, meddygon, dynion tan, gwyr ambiwlans, trydanwyr, dynion lludw, glowyr, plismyn, athrawon, pobl y wasg, gweinyddwyr amlosgfa, prin fod un swydd a phroffesion na bu defnyddio ganddi ar erfyn streic.