Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ergyd

ergyd

Cafodd Jason Perry un ergyd at y gôl ond fe'i harbedwyd gan Roger Freestone.

Fe'i hadroddodd droeon yn y Seiat, yn enwedig y llinellau sy'n gwahodd angau i ddynesu, nid fel 'Ergyd dryll neu fom yn sydyn chwim', ond fel

Aeth ei ergyd heibio'r postyn.

Gorffennodd Woods ddeuddeg ergyd yn well na'r safon.

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Ergyd arall oedd ildio gôl wedi 25 munud, Geoff Thomas yn penio heibio Kevin Dearden.

"Buasai cau'r swyddfa ym Mangor yn ergyd fawr i ragolygion economi'r ardal, a hefyd yn gwneud drwg i ddelwedd yr Awdurdod wrth gysidro bod sicrwydd clir i'r gwrthwyneb wedi'i wneud yn barod."

Gellir crynhoi prif ergyd dadl Glyn Davies i'r dyfyniad a ganlyn er ei fod yng nghwrs ei erthygl yn dweud pethau nad ydynt yn hollol gyson ag ef, ac er ei fod yn gorfod cydnabod nad oes ganddo enghreifftiau o'r math o ganu a ragdybir ganddo.

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Mae peth o'r clod yn ddyledus i Blas y Cilgwyn ei hun, sef y plas yn Adpar, Castellnewydd Emlyn, ergyd carreg o'r wasg argraffu gyntaf yng Nghymru.

Bwriad y tasglu sy'n cwrdd ym Mhen-y-bont yw lleddfu'r ergyd i'r diwydiant yng Nghymru.

Achos mae'n ymddangos nid yn unig na fydd Bebb ei hun ddim yn chwarae am gryn amser ond bod pryder ar un adeg y byddai'n colli ei olwg oherwydd yr ergyd a gafodd.

trwy anfon ergyd o gerrynt ar yr adeg cywir, gellid argraffu unrhyw lythyren ddewisiedig heb orfod atal symudiad cyson yr olwyn.

Ond cyn pen dim roedd Portiwgal wedi taro nôl gydag ergyd wych gan Luis Figo - y chwaraewr yr oedd Bobby Robson wedi rhybuddio Lloegr y byddain rhaid i Loegr ei ffrwyno.

Ond ergyd Walter Boyd yn yr eiliadau olaf oedd coron y cyfan ac y mae gobeithion Abertawe o aros yn yr ail Adran yn dal yn fyw.

Cilwenodd y dosbarth, er i'r ferch a gynorthwywyd gan Hector ymgadw rhag dangos ei gwerthfawrogiad o ergyd yr athro.

Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf.

W^yr neb beth yw'r rheswm pan na all pawb o'r un pwysau bwnio mor galed â'i gilydd a fydd neb ychwaith yn dod o hyd i ergyd drom nac yn llwyddo i ddatblygu un os na fydd hi ganddo o'r cychwyn.

Yn anffodus nid yw dy waedd yn atal y fwyell rhag disgyn, ond yr oedd yn ddigon i wyro ergyd y cigydd.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Bu Jones yn hynod anlwcus ar ddechrau'r ail hanner, ei ergyd yn cael ei phenio oddi ar y llinell.

Dorinel Monteanu gydag ergyd dda wedi i golwr Lloegr, Nigel Martyn, wneud smonach o glirio ergyd cyn hynny.

Nid oes ergyd effeithiolach yn llenyddiaeth y byd.

Suddodd Miguel Angel Martin ergyd anhygoel o ddeugain troedfedd ar y lawnt ola i fynd a'r gêm i dyllau ychwanegol yn erbyn David Frost.

Mae e saith ergyd yn well na'r safon.

Yr hyn yr wyf fi'n ei gofio orau yw fod Dafi'r Foel wedi mynd lawr bob cam i Aberteifi i weiddi dros Richards ond cafodd ergyd galed ar steps y Neuadd, a phrysurodd hynny ei ymadawiad o'r ardal.

Pluen i Tinning ar dwll 16, a Howell yn ildio ergyd ar y twll blaenorol.

Mae'r Gwyddel Padraig Harrington bedair ergyd y tu ôl iddo.

Mae Ian Woosnam un ergyd y tu ôl i Price.

Ond fe gawson nhw ergyd wedi saith munud pan gafodd Lee Trundle ei gario oddi ar y maes.

Roedd on anlwcus i weld ei ergyd on mynd heibior postyn yn y munudau agoriadol.

Ond 'rhoswch: dydi ergyd y ddau ar y graig ddim wedi mynd felly rhaid oedi am amser.

Fel bardd rhoes fiwsig i'w fynegiant; fel pregethwr rhoes ergyd yn y miwsig; fel digrifwr rhoes wên yn yr ergyd; ac fel dyn rhoes ddeigryn yn y wên.

Roedd yn anodd ganddo gredu i'r tri swyddog lwyddo i gyrraedd diogelwch, ac am y dynion a adawyd ar ôl, roedd yr ergyd a glwyfodd y morwr wedi diasbedain fel dedfryd angau yng nghlustiau Dai Mandri.

Trosedd gan Mark Aizlewood yn y cwrt cosbi yn arwain at gic rydd anuniongyrchol ac ergyd gan Lilian Popescu yn rhoi dim cyfle i Gary Wager.

Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.

yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno.

Roedd eu cyfanswm nhw 15 ergyd yn well na'r safon.

Mae David Park dair ergyd yn well nar safon ar ôl y twll cynta a Phil Price un yn well nar safon ar ôl dau.

"Be ydi mêc fy nghrys i Jini?" Mam druan yn atab "Dwfal", a medda nhad fel ergyd o wn - "Tydw i'n 'dwfalu' fama ers oriau!" Saib - nhad, mam, a ninnau'r plant yn sylweddoli beth oedd o wedi'i ddeud, a phawb fel côr adrodd 'Steddfod Genedlaethol yn chwerthin efo'n gilydd.

Mae'n rhyfedd fel mae rhywun yn synhwyro rhai pethe--fe wnes i dderbyn sawl ergyd yn ystod 'y ngyrfa, ond braidd byth yn teimlo y bydde'n rhaid gadael y maes.

...Pst!' Dadfachodd Dora y ffenestr a gollwng y darn ucha' i'r gwaelod nes bod ergyd.

Disgwyliai Jean Marcel glywed yr ergyd unrhyw eiliad ac anogodd y plant i ganu'n uwch.

Gorffennodd Phillip Price un ergyd dros y safon yn y bencampwriaeth golff yn Valderama, Sbaen.

El Hadad oedd ef mwyach roedd ganddo ei babell ei hun a hawl i'w siâr o unrhyw ffawd dda a ddigwyddai i'r llwyth, boed yn ganlyniad ffeirio neu ergyd lwcus at gase/ l.

Profodd amaethyddiaeth ergyd sylweddol i'r adran da byw yn yr wythnosau diwethaf.

Ian Woosnam sy'n arwain chwaraewyr Prydain ar hyn o bryd. Mae e un ergyd yn well na'r safon ar ôl rownd gynta o 71.

Fel ergyd ymatebodd Harris: Aaa, Miss Norwy.

Ddiwedd yr ail hanner cafwyd patrwm tebyg gyda Daniel Gabbidon yn canfod y rhwyd gydag ergyd dda wedi 85 munud.

Ond yna fe ddechreuodd pobl droi at fathau eraill o danwydd, olew yn arbennig, a bu llai a llai o alw am lo, a bu'n ergyd farwol i'r diwydiant.

Deuthum i Sylhet i gymryd ei le, ac 'roedd ei symud oddi yma yn ergyd iddo.

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

Cafodd ail rownd o 69 ac y maei gyfanswm o saith ergyd yn well nar safon ddim ond un yn fwy na Robert Coles o Loegr sydd ar y blaen.

Dim awydd - lawer llai pan sylweddolais fod Mem wedi creu ambell ergyd ac yn dibynnu arnaf i'w saethu drosti.

Mae e wyth ergyd yn well na'r safon, a chwe ergyd yn well na'r Cymro gorau - sef Philip Price o Bontypridd.

Cafodd Ian Woosnam ail rownd o 70 sy'n golygu ei fod bum ergyd yn well na'r safon ym Mhencampwriaeth Agored Yr Eidal.

Go brin y byddai ef yn gallu rhoi bara yn ei geg â'i law ei hun eto, hyd yn oed petai'n dod dros yr ergyd.

Trodd un o'r Bedwin, anelodd â'i ddryll a thaniodd ergyd.

Yng ngwledydd y Gorllewin ar hyd y canrifoedd credid mai ergyd y stori hon yw cyflwyno Crist i'r cenhedloedd.

Yna, cafwyd camgymeriad gan Paul Giles ac ergyd Michael Keegan yn curo Neil Thomas a sicrhau lle i Abertawe yn y rownd derfynol ar y Vetch nos Lun.

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

Eisteddant blwc ar eu traed ôl gan ddefnyddio'u pawennau a'u traed blaen i ymladd â'i gilydd yn union fel pe'n paffio, ac yn wir y mae ganddynt ergyd rymus iawn.

Gorffennodd Tinning 15 ergyd yn well nar safon, un yn well na David Howell o Loegr a thair yn well nag Ian Woosnam, ddechreuodd y rownd olaf ar y blaen o un ergyd.

'Dyna John,' meddai'r wraig; 'weithiodd o'r un hog o gwmpas y lle yma pan oedd o'n fyw ac mi benderfynais i na chai o ddim segura o hyn ymlaen!' Wrth gwrs, byddai un llwchyn o John yn cynnwys sawl miliwn o ronynnau egni, ac felly nid yw ergyd y stori yn un gwbwl ddiogel!

Roedd yr ergyd gyntaf yn rhyfel y Gwlff ar fin cael ei thanio.

Heb edrych ar ei wyneb e, fe dynnes fy nghylleth boced allan, roedd wastad awch fel raser ar honno gen i, a chydag un ergyd mi dorres y rhaff.

Fel y gwelir, ergyd y cynlluniau hyn yw tocio awdurdod y llywodraeth ganolog a rhoi'r mesur haelaf posibl o awdurdod i'r cynghorau lleol.

Nid oedd ganddo'r grym na'r ergyd lethol i dynnu'r llen yn sydyn.

heb amheuaeth, cafodd pêl-droed yng nghymru ergyd greulon a'r unig achos llawenydd oedd yr un cwbl negyddol i loegr hefyd fethu a chael mynediad i'r america hefyd.

'Camgymeriad ar ran y gwrachod, eich mawrhydi!' meddai Delwyn fel ergyd o wn.

Fe allai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud, ergyd wych o ddeugain llath gan Sasha Opinel yn rhoi gôl i'r ymwelwyr ac yn brawychu ffyddloniaid Parc Ninian.

Symudai'n rhwydd, mesur, pellter yn gywir, cilio o flaen neu gydag ergyd a chadw ei ddwrn chwith yn rhyfeddol o gyson yn wyneb ei wrthwynebydd.

Roedd o'n anlwcus i weld ei ergyd o'n mynd heibio'r postyn yn y munudau agoriadol.

Mae Mark James mewn criw o dri sydd bum ergyd yn well nar safon.

A dynar Cymro gorau, Ian Woosnam oedd bedair ergyd yn well nar safon ddoe.

Bydd Phil Price o Bontypridd yn dechrau'i ail rownd ym Mhencampwriaeth Golff Ryngwladol Benson & Hedges, heddiw, bedair ergyd tu ôl i'r arweinwyr a dwy ergyd yn well na'r safon.

Dyna ergyd y cyfeiriadau a delweddau o faes y canu serch, megis y cyfarchiad i Ddwynwen (nawddsantes y cariadon), y 'cae Esyllt' (torch flodau'n arwydd o serch), a galw Siôn 'fy nghusan' a 'fy serch'.

Roedd cyfanswm Dodd 14 ergyd yn well na'r safon ond bedair yn fwy na'r enillydd, y Gwyddel, Des Smyth.

Mae Niedzwiecki'n gadael Chelsea wedi cyfnod o bron ugain mlynedd ac mae hynny'n amlwg wedi bod yn ergyd i gyn-golwr Cymru ond yn ôl nifer o bobol o fewn y gêm, Chelsea fydd ar eu colled.

Nid ydynt i gyd, o bell ffordd, yn medru gweld ergyd y cwestiynau gwahanol.

Ma'r giat yna wdi 'i gnwud i'w chau yn 'gystal a'i hagor." Ac ateb sydyn Robin, fel ergyd o wn.

Mae colli ysgol yn ergyd fawr i bentref a gwelwyd eisoes fel y bu'n ergyd angheuol i ambell bentref Cymraeg.

Fydd y Sais Robert Coles, syn arwain gydag wyth ergyd yn well nar safon, ddim yn dechrau tan ganol y prynhawn.

Daeth Cymru'n gyfartal ar ôl 74 munud efo ergyd o bell gan Mark Pembridge.

'Rwyn gwybod bod ergyd dda iawn gan Mark Pembridge.

Ar y blaen mae'r Gwyddel Paul McGinley sydd chwe ergyd yn well na'r safon ar ôl 15 twll.

Gan nad oedd ganddo ergyd lethol, gallai ei wrthwynebwyr anwybyddu ei jab a chymryd siawns gan wybod nad oedd hynny'n arbennig o beryguls.

Roedd e ddwy ergyd o flaen y Sais Lee Westwood.

Ond fe allai Seren roi ergyd yn ôl a'ch syfrdanai.

Roedd Ian Woosnam un ergyd yn well na'r safon ar ôl 16 twll.

Mae o chwe ergyd yn well nar safon, saith yn well nar Cymro David Park syn amddiffyn ei goron.

Tiger Woods enillodd Bencampwriaeth Agored Yr Unol Daleithau a hynny o bymtheg ergyd - record yn un o bedair prif gystadleuaeth y gêm.

Doedd dim digon o nerth yn ei ergyd ac fe'i harbedwyd gan Sader Westerveld, ac yr oedd Lerpwl wedi ennill eu tlws cynta er 1995.

Roedd diwedd caethwasiaeth a Rhyfel Annibyniaeth America yn ergyd economaidd drom i Lerpwl, ond erbyn hynny sefydlwyd llwybrau marchnata newydd i'r Dwyrain Pell a mannau eraill, a manteisiwyd hefyd ar yr holl ymfudwyr a hwyliai o Lerpwl i fyd newydd yn America neu Awstralia.

Nid arswyd yw prif ergyd pob stori gyfoes o bell ffordd, er ei fod yn gyffredin iawn, iawn.

Mae'r Cymro Stephen Dodd chwe ergyd tu ôl i'r arweinydd Porraig Harrington ym Mhencampwriaeth Agored Singapore.

Ond camddeall ergyd y darn yw hyn.

Nick Price o Zimbabwe sy'n arwain - mae e nawr ddeg ergyd yn well na'r safon ar ôl cael pluen ar dwll cynta ei ail rownd.

Ergyd i rybuddio, mae'n siŵr - ychydig iawn o ergydion a fethai'r targed y dyddiau hyn.

Daeth 101 Hick o 86 o belennau oedd yn cynnwys saith ergyd dros y ffin am 6.