Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erlyn

erlyn

Roeddwn ar y pryd wedi bod yn gweithio fel un o bedwar Cyfreithiwr Erlyn yn swyddfa'r Prif Gyfreithiwr Erlyn, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, ers rhyw ddwy neu dair mlynedd cyn i'r achlysur 'rwy am ei ddisgrifio ddigwydd.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, i roddi rhybuddion gorfodaeth dan y deddfau cynllunio ynglŷn ag unrhyw ddatblygiad marchnad awyr agored (ar y Sul neu unrhyw ddiwrnod arall) ac i erlyn mewn unrhyw achos yn codi o'r rhybuddion hynny.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor, i erlyn mewn achosion clir (yn eu barn hwy) dan y ddeddfau cynllunio heb gyflwyno'r achosion i'w hystyried gan y Pwyllgor ond ei fod i roi gwybod i'r aelod lleol am y sefyllfa cyn erlyn.

Erlyn cwmni cyhoeddi Penguin am ffieidd-dra am gyhoeddi nofel D.H. Lawrence Lady Chatterley's Lover.

Roedd yn amlwg y gellid erlyn lladron y car am gymryd y car, nid oedd hwn yn anhawster o gwbl.

Nid oeddwn yn cytuno â'i ragfarnau ac yr oeddwn yn aml yn mynd yn groes i'w gyfarwyddiadau ac yn erlyn yn ôl fy ngoleuni fy hun ac fel y gwelwn degwch y mater mewn llaw.

Y Prif Gyfreithiwr Erlyn oedd Daniel Alun Roberts Thomas (DART i'w ffrindiau a'i gydnabod), cymeriad os bu un erioed, tipyn yn un-llygeidiog yn achos y Gymraeg, a daeth rhai o'i sgarmesoedd gyda Chymdeithas yr Iaith yn enwog iawn ar y pryd, ond roedd yn gyfreithiwr da, a thu allan i faterion yr Iaith, yn un o farn gyfreithiol ddibynnol a sad, a'i wybodaeth o'r gyfraith droseddol yn eang a manwl.

Ym mis Mai eleni, hedfanodd Aled i Iran i dynnu lluniau'r Cwrdiaid oedd yn llifo allan o Irac, o afael erlyn di-drugaredd Saddam Hussein.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor i erlyn mewn achosion clir o droseddu dan y ddeddf uchod i'r dyfodol ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol ar ran y Cyngor yn deillio o hynny.

Mwynheais yn fawr iawn yr amser y bu+m yn gweithio gydag ef, ag eithrio'r adegau hynny pan oedd yn erlyn achosion yn ymwneud â'r Iaith, gan fy rhoi innau i mewn i'r llys i wneud yr erlyn, ond yn ceisio fy ngwahardd rhag erlyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, penderfynwyd na châi erlyn ddim pellach oherwydd iddo gael ei garcharu am oes am y llofruddiaeth: fe'i galwyd yn dyst yn erbyn Sidley, nad oedd eto wedi cyfaddef i ddim.

Yr oedd Young wedi coladu John Gough yno ond gwrthwynebai Ferrar y penodiad a mynnodd erlyn Gough trwy'r llys consistori.