Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ernes

ernes

Mae'r gwledydd mwyaf blaengar bellach yn buddsoddi'n drwm mewn ymchwil wyddonol sylfaenol, fel ernes ar gyfer datblygiadau posib yn y dyfodol.

Y mae'r ffordd y bu'r papurau tabloid yn ystod y dyddiau diwethaf yn corddi teimladau rhagfarnllyd tuag at yr Almaenwyr yn ernes o'r ysbryd milain tuag at wledydd Ewrop sy'n peri i ddyn ofni dylanwad rhai o'r carfannau adain-dde yn Lloegr.

Os oedd cyhoeddi llyfrau duwiol yn y ddeunawfed ganrif yn ernes o'r Diwygiad i ddod, a yw ysgrifennu ar hanes crefydd yng Nghymru heddiw yn ernes fod deffro dramatig wrth y drysau?

Wrth brynu am y tro cyntaf rydych yn talu ernes ar y botel ei hun, ond dim ond am y nwy y byddwch yn talu y tro nesaf.

Realiti'r sefyllfa, wrth gwrs, oedd fod Lithuania'n ceisio creu safle iddi'i hun fel gwladwriaeth aeddfed, fodern ac roedd digwyddiadau'r dydd i fod yn ernes o hynny.

Y mae'r gyfrol ragorol hon yn tystio i'w allu a'i wybodaeth ac yr wyf siwr ei bod hi hefyd yn ernes o gynhaeaf bras i ddyfod.

Roedd cyfle nawr i ni arbed digon i roi ernes ar dy i ni'n hunen dros y ddwy flynedd nesa.