Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erthygl

erthygl

Yn yr erthygl hon carwn son am rai agweddau o faes enfawr ffiseg solidau ac am rai o'r dyfeisiadau elecgtronig cymharol ddiweddar sydd eisioes, ac a fydd yn y dyfodol, yn effeithio i raddau helaeth iawn ar ein ffordd o fyw ac ar natur ein cymdeithas.

Mae llawer iawn o wir - nid caswir, dim ond gwir plaen - yn yr erthygl ddewr hon, a gyffrodd hyd at eu sodlau nifer o arweinwyr Cymreig y dydd.

* Ysgrifennwch erthygl ar gyfer cylchlythyr yr ysgol, y wasg leol neu gyngor hyfforddiant a menter/cyhoeddiad PAB

Yr oedd gan Edwin feddwl mawr o Ben Owen a dug dystiolaeth huawdl i'w ddylanwad arno mewn erthygl goffa yn Y Dysgedydd.

Mae'r mesur yn rhywbeth all effeithio arnon ni bob un sy'n darllen yr erthygl hon, felly mae na ddau beth allwch ni wneud.

Mae'n disgrifio'r gwyr a ddylanwadodd arno yn Rhydychen yn ei erthygl "Ddeugain mlynedd yn ôl", sy'n dilyn yn y gyfrol hon.

Gellir crynhoi prif ergyd dadl Glyn Davies i'r dyfyniad a ganlyn er ei fod yng nghwrs ei erthygl yn dweud pethau nad ydynt yn hollol gyson ag ef, ac er ei fod yn gorfod cydnabod nad oes ganddo enghreifftiau o'r math o ganu a ragdybir ganddo.

Rhydd argraff gref iawn ei fod yn nabod y llenorion y mae'n eu trafod, yn eu gweld yn fyw yn eu cyd-destun cymdeithasol, ond hefyd yn ymuniaethu â hwy fel unigolion (e.e., wrth gyfeirio at Forgan Llwyd y gŵr swil, neu wrth ddweud yn ei erthygl ar 'Weledigaeth Angeu': 'Mae'n anodd heddiw ddarllen unrhyw awdur na wynebodd wallgofrwydd'.

I ddychwelyd at deitl yr erthygl, a'r dinosoriaid diflanedig, nid yw'r esblygu sy'n digwydd ym myd natur mor hawdd ei ddeall â'r amcanu syml a geir yn yr algorithm genetig.

Fy rheswm dros eu cynnwys yn yr erthygl hon yw eu bod yn enghraifft arall o swyddogaeth silia.

Roedd Cathy yn fyrlymus ei chroeso gan fod ei thad wedi sôn wrthi am yr erthygl ac am ei wahoddiad i Anna ddod i weld y cwch.

Yn yr erthygl hon mae Jane Cartwright, sy'n fyfyrwraig ymchwil yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Coleg Caerdydd, yn egluro pwy oedd Dwynwen a pham y cysylltir ei henw â gyl y cariadon.

Dychmygwch y sioc a ges i pan ddarllenais i erthygl am lyfr Chapman Pincher am yr "Apostles''(y grŵp o ysbiwyr yn cynnwys Blunt, Burgess a Maclean) mewn papur Sul ychydig o flynyddoedd yn ôl a gweld llun o'r dyn y bum i'n rhannu swyddfa ag o yn eu plith!

Ac er mwyn y bachgen a'i peintiodd o y gofynnais ichi sgwennu erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

Gobeithio fod y ffeithiau uchod yn cywiro'r camargraff a roed yn yr erthygl.

Byddai'n syniad i Anna ddod ar hwnnw a pharatoi erthygl ar y ganolfan.

Daeth y manylion hyn i lawr ar ol i ni dderbyn yr erthygl uchod.

Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.

Ni all neb sy'n cymryd diddordeb yn hanes y bedwaredd ganrif ar ddeg esgeuluso'r erthygl hon.

Y mae'r erthygl gyntaf yn y casgliad yn dwyn y teitl, "Tân ar Allor Cambria: y Cymnry a'u Crefydd".

Ymateg i Uno'r Capeli Bu ymateb diddorol i'r erthygl gan Gwenynen am uno'r capeli yn rhifyn mis Mawrth.

Dangosodd Waldo yn ei erthygl ar 'Barddoniaeth T. E. Nicholas' mor angerddol y gallai amgyffred gwirionedd ac mor anodd iddo weithiau oedd gwahaniaethu rhwng gwefr sylweddoli gwirionedd a gwefr adnabod barddoniaeth.

Erthygl Saunders Lewis sy'n sefyll allan o blith y tair, er eu bod oll yn rhyfeddol o ffres o'u cymharu a'r rhan fwyaf o newyddiaduraeth wleidyddol hanner cant oed.

Tan heddiw, pan ddychwelais ar ôl ymweliad bythgofiadwy â Phrâg, a chael y papurau newydd yn llawn o'r hyn a oedd wedi digwydd yn yr Almaen dros y Sulgwyn, a ffacs ar fy nesg, yn gofyn a oeddwn yn dal yn awyddus i sgrifennu'r erthygl.

A'r un modd, gwelir mewn llawer man ei ddiddordeb byw ym myd natur, fel yn ei erthygl, "Troed",

Tynnodd Gruffydd ei Nodiadau cyntaf i ben gan broffwydo y byddai'r mater yn cael sylw llawnach maes o law a chyfeiriodd y darllenydd at erthygl R.

Geraint Gruffydd erthygl, rai blynyddoedd yn ôl bellach, ar hanes yr hanesydd o Ddinbych, dewisodd y teitl arwyddocaol 'Humphrey Llwyd - Dyneiddiwr'.

Yn yr oes faterol sydd ohoni, byddai rhai'n galw'r gonestrwydd hwn yn styfnigrwydd, ond dyw'r cwmni ddim heb ragflaenwyr nodedig yn hyn o beth - roedd agwedd debyg yn nodweddu'r cwmni%au Saesneg llwyddiannus a enwyd ar ddechrau'r erthygl.

Un o'r peryglon pennaf a wynebai'r morwynion alltud oedd 'dyfod i gyffyrddiad a llyfrau o duedd lygredig a drygionus, a ffug-chwedlau, o'r rhai hyn, mae llenyddiaeth y Saeson yn llawn, yn fwyaf nodedig y rhan (sic) a fwriedir i'r merched." Sôn am nofelwyr Saesneg y mae 'G' yn yr erthygl ddifrifddwys hon.

Felly yn yr erthygl hon fe soniwn yn fyr am rai datblygiadau yn y meysydd hyn.

Adeg Rhyfel y Degwm dyna ysgogodd erthygl olygyddol y Times, sy'n crybwyll '...'

Yn y rhifyn cyntaf cyhoeddwyd erthygl gan Peter Bailey Williams, oedd wedi canfod "y gelyn yn brysur wrth ei waith", yn nes at adref, sef ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd o'i blwyf ei hun, yn nhref Caernarfon.

Ddoe, ddydd Llun, roeddwn i'n dyfalu pa stori a gawn i'r tudalen blaen yr wythnos hon pan gofiais fod arddangosfa o waith plant hynaf Yr Ysgol Gyfun wedi ei threfnu gan Aneirin Rees, yr athro arlunio, a'm bod wedi addo iddo yr ysgrifennwn erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

Ac yn wir y mae'r un gwirionedd yn dod yn amlwg yn yr erthygl, "Crefydd a Llenyddiaeth Gymraeg yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd".

(Ceir rhagor o wybodaeth am Lyn Cerrig Bach yn yr erthygl ar Y Celtiaid yn y Bwletin hwn.)

Yn yr erthygl hon byddaf yn egluro rhai agweddau ar silia ac amrywiaethau ar y thema gyda golwg arbennig ar y grwp pwysig hwnnw o anifeiliaid y mor, Y Deufalfiaid.

Maes allweddol arall sydd eisoes yn cynnal sefydliadau Cymraeg, a maes sylw'r erthygl hon, yw maes addysg.

Enghraifft o'r ymateb anffafriol i'r gerdd yng Nghymru oedd erthygl a ysgrifenwyd gan y Parch.

Ceir erthygl ar Penri yn llyfr Robert Williams, Enwogion Cymru.

Dolur a achosir gan fath arall o gariad sy'n gwneud i Lewis Glyn Cothi alw ar Ddwynwen cariad tad tuag at fab a fu farw'n ifanc (gweler erthygl Dr Dafydd Johnston yn y rhifyn hwn - Gol.):

Fe fyddwn ni'n cytuno â'r casgliadau a wnaeth yn yr erthygl i raddau pell iawn ond fe hoffwn ychwanegu rhai pwyntiau.

Treuliodd RT dipyn o'i amser mewn adolygiad ac mewn erthygl yn tynnu blew o drwynau rhai o'i gyfoeswyr (Bebb, er enghraifft) yr oedd dylanwad y weledigaeth hon - er teneued oedd - arnynt o hyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Yn ei erthygl, "Mwstardd" (felly y mae'n ei sillafu), dywed,

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

Yn yr erthygl yma edrychir ar rai o'r datblygiadau, a gellir eu rhannu'n syml i dri maes: datblygiadau mewn asesu a mesur, datblygiadau cenhedlu, a datblygiadau dadansoddi.

Gwynn Jones y gadair genedlaethol ym Mangor â'i awdl enwog "Ymadawiad Arthur", ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd erthygl gan John Morris-Jones yn Y Traethodydd, sef datganiad o gyffes ffydd lenyddol yr adfywiad.

Ar y llaw arall, oherwydd cysylltiadau eang y golygydd deuai cynrychiolaeth deg o Gymru gyfan i mewn i'r Ymofynnydd, drwy erthygl a chân, sylw neu lythyr, gan ei wneud yn gyfoethog ei syniadau ac eang ei orwelion.

Yng ngeiriau'r Athro Gryffydd: "Meddwl critig a rhesymegwr a oedd gan y naill [Emrys ap Iwan]; meddwl gweledydd a bardd a oedd gan y llall." Ni wn pa gyfathrach a fu rhwng y ddau, os bu un o gwbl, ond nid damwain yn unig yw nad ysgrifennodd Emrys (hyd y medrais i weled) yr un erthygl i Cymru, er ei fod ef a'r cylchgrawn wedi cydoesi am bymtheng mlynedd.TRAED MEWN CYFFION - Kate Roberts (tud.

Diddorol iawn oedd darllen erthygl Myrddin ap Dafydd yn y rhifyn diwethaf.

O safbwynt arall gellir dweud fod mwyafrif gweinidogion yr Eglwysi Rhyddion yn heddychwyr a'u bod yn mynegi eu safbwynt o bryd i'w gilydd mewn pregeth, anerchiad neu erthygl.

Nid yw'r erthygl hon yn llwyddo i ddatrys beth yw effaith llenyddiaeth, a beth yw ei pherthynas â moesoldeb, ond y mae'n eglur ei bod yn cymeradwyo realaeth sy'n onest a chyfrifol.

Yr ail erthygl - yr un ynglyn â'r Llyfr Gweddi Gyffredin - oedd yr un fwyaf cynhennus.

O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un.

Beth pe bai ei thad wedi byw i weld yr erthygl a'r lluniau hynny?

Daeth yr erthygl hon yn fuddugol ar gystadleuaeth 'Erthygl ar unrhyw agwedd ar fyd natur' yn Eisteddfor Bro Madog eleni.

Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn weddol gyflawn erbyn hynd ond yn yr erthygl hon nid oes amser i ymdrin ond a rhai agweddau arnynt.

Er iddi ddechrau'r erthygl yn ddigon petrus gan ddweud mai ar funud gwan y cytunodd i'w hysgrifennu, yr un yw'r nodweddion.

Mae yna dros gant o gyfeiriadau llyfryddol mewn erthygl o saith tudalen sy'n disgrifio'r ymchwil.

Dwi di cael mis bach tawel o ddarllen y papurau, ac wedi sylwi ar ambell i erthygl difyr iawn...

Hoffwn gywiro un peth pwysig yn yr erthygl: nid Jane Evans a gofnododd hanes bywyd Betsi Cadwaladr, ond Jane Williams, Ysgafell.

Oherwydd hynny mae'n dda cael yr erthygl arno.

(Gweler erthygl Jane Cartwright yn y rhifyn hwn.) Ar y llaw arall, mae'n ddiddorol fod y bardd yn cyfarch Mair, fel petai'n ymuniaethu â hi yn ei galar am ei mab cyn agor Ei fedd yntau.

Fel y dengys y teitl, trafod datblygiad cenedlaetholdeb Cymreig y mae yn yr erthygl honno.

Yr oedd adroddiad un paragraff ar gyfarfodydd pregethu, neu erthygl goffa fach am rywun yn yr ardal, neu bwt ar ryw bwnc diwinyddol yn gwbl dderbyniol.

Am fanylion tanysgrifio i'r Tafod papur, neu i gyfrannu erthygl neu syniad, cysylltwch â tafod@cymdeithas.com neu â'r Brif Swyddfa. Rhifyn Diweddara

Mae'r erthygl hon yn dangos fod y darlun yn fwy cymhleth na hynny.

Mr Yang yn gofyn imi edrych dros erthygl a sgrifennodd ar gyfer cylchgrawn academaidd, Teaching English in China.

Gobeithiwn dderbyn erthygl i'r Hogwr cyn bo hir o Drelew Chubut.

A da o beth oedd casglu at ei gilydd ffrwyth gwaith ymchwil Dr Isaac Thomas, Dr G.Aled Williams ac eraill yn yr erthygl ar "Yr Esgob Morgan a'r Beibl Cymraeg Cyntaf".

Yna ceir tair erthygl ar gyfnod y Diwygiad Protestannaidd.

Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.

Rowland Hughes yntau yn yr erthygl y cyfeiriwyd ati, pan ddywedodd am yr un gwr, 'penderfynodd ffurfio Cymdeithas Gymraeg yn Rhydychen.

Bydd erthygl ar eu profiadau yn ymddangos yn Y Tafod cyn bo hir.

Yn ei erthygl 'Cymru - un o Weriniaethau'r Baltig' yng nghatalog arddangosfa Beca yng Nghaerfyrddin, meddai: