Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eryr

eryr

Yn y ganrif honno y gosodwyd Orpheus Gweneth Lilly, ac aeth Rhiannon Davies Jones a ni i ardal y gororau yn y nawfed ganrif yn Eryr Pengwern, ac yna i gyfnod Gruffudd a Dafydd ap Llywelyn yn Cribau Eryri.

Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld sawl cenhedlaeth o sloganau - o "Eryr Gwyn Eryri% a "Cofia Dryweryn" i "Meibon Glyndwr" a "Deddf Iaith yn Awr" ein dyddiau ni.

Ond er 'gyrru'r eryr i Gymru', ni chafodd y bardd ddychwelyd o Facedonia i droedio eto Barlwr y Glyn nac 'ardal hyfryd Rhyd Lefrith' yn Ninmael, ger ei gartref.

Cafwyd amryw o nofelau'n ymdrin a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - Ar Fryniau'r Glaw ac Eryr Sylhet gan Merfyn Jones yn ymweud a'r India, ac yn arbennig helyntion y cenhadwyr cynnar yno, Llyfr Coch Sian a Sian a Luned gan Kathleen Wood, a Deunydd Dwbl gan Harri Williams sy'n bortread o Dostoiefsci.

Meddai yn ei gywydd 'Gyrru'r Eryr i Gymru [o Facedonia]':

Gweld 'Eryr Pengwern pengarn llwyd', ei glywed yn 'aruchel ei adlais', blasu 'afallen beren a phren melyn' teimlo Dafydd ap Gwilym pan drawodd ei 'grimog .

Gwnaeth y teulu hefyd gymwynas fawr â dynoliaeth trwy gymysgu eli o lysiau at wella'r eryr - Eli Dremddu sydd wedi bod yn fodd i wella pobol ar draws y byd o'r dolur eryrod.

Mae'r lechen yn cynrychioli'r tô ac felly yn arwydd o'r cartrefi yr ydym yn eu darparu, tra bod yr eryr (sy'n amlwg yn siap y lythyren 'E' am Eryri) yn aderyn a hed yn uchel ac mae hyn eto'n arwydd o safon uchel gwaith y Gymdeithas.

Protest y golomen yn erbyn yr eryr oedd hon, mewn gwirionedd; protest dros hawliau lleiafrifoedd y byd.

Nid wyf yn cofio pwy yn union oedd y gwahanol adar ond mai Elwyn Parry Davies oedd yr "eryr mawr" a minnau oedd y robin goch.

'Yr Eryrod' yn fwy cywir wrth gwrs, neu 'Yr Eryr' fel y dywed pobl y Gogledd.

Druan bach, nid yw ei adenydd ffansi ond megis rhai gwybed bach wrth ymyl rhai eryr dau-ddwbl yr estate agent pan fo'n disgrifio fferm sydd ganddo i'w gwerthu.