Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erys

erys

Er nad erys cyfansoddiad o waith Gruffudd ei hun i un o noddwyr y dalaith, y mae'n amlwg iddo brofi o'i chroeso a'i haelioni dirfawr - dywed na fedrai neb yno roi nag.

Erys geiriau Hywel Evans yn y cof.

Erys, wrth gwrs, yr hawl i rywun i gyflwyno'i gorff, ar ei farwolaeth, i ddwylo meddygon.

Ac fe erys hyn yn fyw iawn yn ei chof eto.

O sôn am Bwyllgor Sir Gaernarfon a gyfarfyddai yng Ngwesty Pendref y blynyddoedd hynny, erys llu o atgofion difyr yn fy meddwl, am y gwmni%aeth radlon a fyddai yno.

Er eu bod yn ddiolchgar iawn am y cymorth o'r Gorllewin maent wedi ei dderbyn, erys yr ymdeimlad o frad.

Llwyd Jones yn Y Faner, ac 'y mae bron iawn â bod yn waith artistig cyflawn.' Ar ôl deugain mlynedd erys y gwaith hwn ymhlith y dramâu mwyaf arwyddocaol yn y Gymraeg.

Eithr y tu allan i fyd y plentyn a'r ysgol erys y ffaith mai Saesneg yn unig sy'n angenrheidiol i bob swydd neu offis weinyddol yng Nghymru.

O bridd i bridd, ystyria'r gwir Cyn elych bridd i bridd yn hir Lle erys pridd mewn pridd yn faith Nes cwnno bridd o bridd ail-waith...

Erys ein ffydd tros y blynyddoedd yn gryf mewn pobl fel Callaghan, Foot, Kinnock, Leo Abse, Nicholas Edwards a'u tebyg.

Erys Peniel a Saron yn daith Sabothol.

Y mae cymaint mwy i'w ddysgu eto, ac erys bywyd o hyd yn rhyfeddod ac yn ddirgelwch.

Nid erys unrhyw un o'r hen ddiwydiannau a fu gynt yng Nglasfryn.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Cynnwys lu mawr o gerddi rhagorol a erys yn eu blas tra pery'r iaith ac nid y rhan lleiaf pwysig o'r gyfrol, o ran glendid arddull a graenusrwydd cynnwys, yw'r Rhagymadrodd.

Erys y canghennau, ac ynddyn nhw mae nerth y mudiad.

Ac er bod sefydliadau cyhoeddus ac addysgol yn tueddu i'w hanwybyddu, erys yn hynod boblogaidd.

Eisoes y mae'r gair 'troedle' wedi'i 'garnu' ganddo i ddisgrifio ein lleoliad yn y frwydr i barhau mewn bod, ac y mae paragraff olaf yr ysgrif yn rhapsodig: "Eto tra'r erys i ni droedle yn ein tir ni dderfydd gobaith.

Erys argyhoeddiad sylfaenol Gwynfor Evans yn gadarn.

Erys y côf amdano yn felys ar waethaf yr hiraeth.

Erbyn heddiw mae modd rheoli'r pryfyn trwy chwistrellu neu dywallt gwenwyn pryfed ar y cefn ond erys trochi'r defaid mewn cymysgedd o ddŵr a'r gwenwyn priodol am funud cyfan y ffordd fwyaf o gaw'r clafr dan reolaeth.

Fodd bynnag, erys problemau o hyd ynglŷn ag effaith sustem gludiant cyhoeddus Gwynedd ar yr amgylchedd, megis y ffaith fod y cerbydau, yn gyffredinol, yn heneiddio.

Erys imi bellach fwrw golwg ar hanes bywyd y ddau a'i diwygiodd.

Erys ei phrydferthwch yn ddigyfnewid a dilwgr ers pedair mil o flynyddoedd.

Erys dau ddigwyddiad gwerth eu nodi cyn gorffen y braslun hwn o hanes y gweithredu gwleidyddol.

Ond bellach nid erys ond prynu, neu gael eich dewis yn denant.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

Er hyn i gyd, erys dylanwad y gorffennol ar fywyd yr ardalwyr mewn ysbryd caredig a chyfeillgar.

O'r holl siarad ac ymgynghori hwn, erys sawl gwirionedd gwaelodol.

Erys y cof am y caledi hwnnw yn yr ardaloedd diwydiannol, a gwelir effeithiau ei greithiau hyd y dydd hwn.

Os yw'r Hydref yn dechrau yn wyn, fe erys eira yn hir i'r gwanwyn.

Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth".

Serch hynny, erys y ffaith eu bod yn rhwym dan gyfraith gwlad i gadw cwningod o dan reolaeth.

Yr hyn a erys yn ddirgelwch yw sut y codwyd y rwbel o'r pwll - ac a ddefnyddiwyd wedyn yn sicr i ffurfio'r clawdd a rhoi sail gadarn iddo, ac yna sut codwyd y glo gan nad oedd peiriant Newcomen ar gael y pryd hynny.

Er bod un mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi groesi'r ffordd o Fryn Meirion i'r Coleg ar y Bryn, erys ynof yr ymdeimlad o falchder imi gael y profiad gwerthfawr o berthyn i'r gyfundrefn ddarlledu enwocaf a'r fwyaf ei pharch yn y byd.

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

Ond erys y cof am y Nadolig cyntaf o'i salwch yn fyw iawn.

Ond nid erys amser a llanw.

fe erys ynni'r cof yn rhyw fath o ystyfnigrwydd anneall ynom.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Yn swyddogol, awr o ddiffyg peirianyddol oedd yr awr honno, ond y peth a erys yn y cof yw bod cwmni o wŷr y felin yn trafod cwestiwn creadigaeth, a Phil yn rhoi arweiniad i'r drafodaeth.

Yr hyn a erys yn ddirgelwch yw sut y codwyd y rwbel o'r pwll _ ac a ddefnyddiwyd wedyn yn sicr i ffurfio'r clawdd a rhoi sail gadarn iddo, ac yna sut codwyd y glo gan nad oedd peiriant Newcomen ar gael y pryd hynny.

Er hynny erys awgrym fod ef ei hun yn rhannol o leiaf i'w feio am ei drafferthion.

Diwrnod a erys yn hir yng nghof pawb oedd yno yw y Sadwrn Pasg hwnnw.

Erys y clawdd hwn heddiw a adnabyddir fel Embankment yn dystiolaeth o ddyfeisgarwch yr arloeswyr hyn i gyrraedd nod arbennig ond fe fu'r defnydd ohono yn achos rhwyg enbyd rhwng y ddau bartner.

Erys un dosbarth o ddwyn, sef lladrata yn dilyn ymosodiad ar berson.

Erys bri ac urddas ynghlwm wrrth enw Arthur o hyd, ac y mae'n werth gan y bucheddwr gyfeirio ato fel un a roes ei nawdd i'r eglwys leol.

Mae angen rhaglen newyddion i Gymru ar ôl 7pm, ac erys y crynodeb byr am 9.28pm ar BBC Un yn annigonol.